Neidio i’r cynnwys

Siarad Cymraeg?

Oeddech chi’n gwybod bod cofrestru’r Gymraeg fel iaith eich dewis ar eich cyfrif gyda ni? Mae hi’n rhwydd - llenwch ein ffurflen syml a chewch unrhyw ohebiaeth bersonol gennym ni yn Gymraeg!

Cynnig cymorth ariannol gan Ddŵr Cymru yw Cymuned. Ei nod yw helpu aelwydydd sy’n gweithio sy’n cael trafferth fforddio’r hanfodion, fel eu bil dŵr.

Beth yw’r cynllun?

Bydd aelwydydd cymwys yn cael cyfnod o dri mis ‘heb dâl’, sef disgownt o tua £100-£120 yn seiliedig ar y bil blynyddol cyfartalog.

Pwy sy’n gymwys?

Aelwydydd ag o leiaf un oedolyn sy’n gweithio:

  • y mae cyfanswm eu hincwm cyfunol yn £50,000 y flwyddyn neu lai,
  • y mae eu biliau domestig yn fwy na’u hincwm,
  • nad ydynt yn gymwys ar gyfer unrhyw un arall o gynlluniau dyledion neu dariffau cymdeithasol Dŵr Cymru.

Sut mae’n gweithio?

Ni all cwsmeriaid wneud cais yn uniongyrchol i Ddŵr Cymru. Rhaid iddynt lenwi asesiad o incwm a gwariant gyda sefydliad fel Asiantaeth Cynghori ar Ddyledion, Awdurdod Lleol neu Gymdeithas Tai.

Am fanylion

Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn gymwys ar gyfer y Gronfa Cymuned, dylech eu cyfeirio at un o’n partneriaid:

Cwm Elan

Canolbarth Cymru

Mae Cwm Elan yn rhan o’r Mynyddoedd Cambria garw ac yn ymledu dros 72 milltir sgwâr o olygfeydd o harddwch eithriadol. Mae’r tirweddau di-graith, sy’n gartref i blanhigion a bywyd gwyllt godidog yn fwy deniadol byth yn sgil yr argaeau Fictoraidd, cronfeydd dŵr a’r Ganolfan Ymwelwyr groesawgar. Mae Cwm Elan yn Barc Awyr Dywyll Rhyngwladol felly mae ei harddwch naturiol yn disgleirio ddydd a nos.

Elan Valley

Llys-faen a Llanisien

De Cymru

Mae gwaith helaeth yn mynd rhagddo i adfer y cronfeydd dŵr a dod â’r ysblander gynt yn ôl. Mae cynlluniau cyffrous yn cael eu datblygu i greu canolfan ar gyfer iechyd, lles a hamdden yn y brifddinas.

Cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien

Llys-y-Frân

Gorllewin Cymru

Yn sefyll wrth droed Bryniau Preseli yn Sir Benfro, mae Llyn a Chanolfan Weithgareddau Llys-y-Frân wedi ailagor ar ôl gael ei hailwampio’n sylweddol. Mae’r safle yn nawr yn cynnig Canolfan Ymwelwyr ar ei newydd wedd, caffi, beicio mynydd, ardal sgiliau pympio, llwybrau cerdded, gweithgareddau ar y dŵr ac ar dir sych, pysgota a maes chwarae antur, a hyb beicio newydd efo 14km o lwybrau beicio.

Llys-y-frân

Llyn Brenig

Gogledd Cymru

Safle coediog hynod o arbennig gyda physgodfa frithyll, cyfleuster llogi beiciau, maes chwarae antur, canolfan ymwelwyr a chaffi gyda golygfeydd panoramig o’r balconi. Mae Llyn Brenig hefyd yn gartref i Weilch y Pysgod prin sy’n nythu yno ac i’w gweld o fis Ebrill hyd at ddiwedd mis Awst. Gyda 23km o draethlin yn ymestyn o amgylch un o’r ardaloedd dŵr mewndirol mwyaf yng Nghymru mae’n cael ei gydnabod yn un o’r pysgodfeydd wyneb dŵr gorau yn y DU.

Llyn Brenig