Byddwn ni’n bresennol yn:
- Sioe Frenhinol Cymru o ddydd Llun, 18 – dydd Iau, 21 Gorffennaf yn Llanelwedd
- Yr Eisteddfod o ddydd Sadwrn 30 Mehefin – dydd Sadwrn 6 Awst yn Nhregaron
I glywed rhagor am sut rydyn ni’n cadw’ch dŵr yn llifo dros yr haf, dewch i’n gweld ni yn un o’n sioeau haf!
#carudwr
Arbed Dŵr
Er bod digonedd o law yn disgyn o'r awyr, mae llawer o waith, ynni a chariad yn mynd i gael pob diferyn o ddŵr i chi. Unwaith eto eleni, rydyn ni’n disgwyl i nifer fawr iawn o bobl dreulio’u gwyliau yng Nghymru, sy’n golygu bod angen i’r dŵr wasanaethu mwy o bobl nag arfer. Dyna pam ein bod ni’n gofyn i’n cwsmeriaid a’r bobl sy’n ymweld â Chymru arbed dŵr lle bo modd.
Ffitrwydd dŵr
Hoffech chi wybod faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio? Gall teclyn cyfrifo digidol Ffitrwydd Dŵr eich helpu i wybod faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio bob dydd, ac effaith hynny ar eich biliau ynni. Gallwch archebu cynnyrch effeithlonrwydd dŵr am ddim hefyd!
Fy Nghyfrif
Mae gofalu am eich cyfrif Dŵr Cymru’n haws nag erioed! Gallwch weld manylion eich cyfrif, cyflwyno darlleniad o fesurydd, gwneud taliad a chyrchu ‘Yn Eich Ardal’ am ddiweddariadau am waith a digwyddiadau yn eich ardal chi.
Gwasanaethau Cymraeg
Ry'n ni'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau yn Gymraeg, o sgwrs gwe i e-bost a galwadau ffôn. Os hoffech gael eich biliau a'ch llythyrau yn Gymraeg, rhowch wybod i ni trwy lenwi'r ffurflen fer yma ar lein.
Cwsmeriaid bregus
Mae ein cofrestr gwasanaethau blaenoriaeth yn rhoi gwybod i ni pa gwsmeriaid sydd angen ychydig bach o gymorth ychwanegol o bryd i'w gilydd; i gael tawelwch meddwl rhag galwyr ffug, ffyrdd eraill o gael gwybodaeth, neu ddŵr potel i'r drws os oes problem gyda’u cyflenwadau dŵr.