Rydyn ni’n gwybod bod ymgeisio am swydd yn gallu bod yn ddigon i ddrysu pen rhywun. Rydyn ni wedi ychwanegu ambell i awgrym yma i geisio gwneud y broses recriwtio’n llai cymhleth.Os ydych chi wedi dod o hyd i’r swydd ddelfrydol roeddech chi’n chwilio amdani, cliciwch ar y swydd i gychwyn arni. Cewch neges i ddweud a fuoch chi’n Llwyddiannus neu’n Aflwyddiannus ar gyfer y cam nesaf yn y broses. Rydym yn gyflogwr cynhwysol ac yn gwarantu cyfweliad i grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli- darllenwch isod i wybod mwy.
Eich cais
- Cliciwch i ymgeisio am y swydd a chreu cyfrif ar ein tudalen Gyrfaoedd lle gallwch lanlwytho eich CV a llythyr esboniadol.
- Cewch hysbysiad pan fydd eich neges wedi dod i law.
- Dylech ganiatáu 14 diwrnod o’r dyddiad cau i gael ymateb.
- Cewch hysbysiad i ddweud a fyddwch chi’n cael gwahoddiad am gyfweliad ai peidio.
Y broses ddethol
- Os byddwch chi’n cyrraedd y rhestr fer, cewch neges e-bost i ofyn i chi ddewis dyddiad ac amser cyfleus ar gyfer eich cyfweliad.
- Ar ôl cadarnhau hyn, cewch wahoddiad i ddod am gyfweliad.
- Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch yna rhowch wybod i ni. Ein nod yw bod mor hyblyg â phosibl i ddarparu ar gyfer anghenion penodol.
- Ar ôl cwblhau’r cyfweliad, dylech gael adborth cyn pen 7-10 diwrnod.
Eich cynnig
- Os byddwch chi’n llwyddo yn y cyfweliad, cewch neges e-bost a fydd yn rhoi cynnig amodol i chi.
- Dylech ymateb cyn gynted â phosibl fel y gallwn baratoi popeth sydd ei angen ar gyfer eich diwrnod cyntaf.
Cyflwyno staff
- Llenwch y wybodaeth Experian a’r wybodaeth Iechyd Galwedigaethol cyn gynted â phosibl er mwyn i ni baratoi ar gyfer eich diwrnod cyntaf.
- Edrychwn ymlaen at eich croesawu ar eich diwrnod cyntaf.
Siwrnai’r Ymgeisydd
Mae ein proses recriwtio ni, fel sawl cyflogwr arall, yn gofyn i chi lanlwytho CV. Gwnewch yn siŵr bod eich un chi’n gyfoes, yn berthnasol i’r swydd o dan sylw ac yn barod i’w lanlwytho cyn cychwyn y broses o ymgeisio.
Mae llythyr esboniadol yn gyfle da i chi ddangos i ni pam taw chi yw’r person gorau ar gyfer y rôl. Tynnwch sylw at eich cymwysterau perthnasol, eich sgiliau a’ch profiad, a dangoswch i ni pa mor frwdfrydig ydych chi am ddod i weithio yma. Nid oes angen ei bostio chwaith, dim ond ei lanlwytho gyda’ch CV.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Dŵr Cymru
Cyflogwr cynhwysol ydyn ni. Os gallwn eich cynorthwyo ymhellach ar unrhyw gam yn y broses recriwtio, rhowch wybod i ni. Gallwn wneud addasiadau rhesymol ar eich cyfer ar unrhyw gam yn y broses asesu. Fel cwmni, rydyn ni wedi ymrwymo i wella cydraddoldeb ac amrywiaeth, felly rydyn ni’n cefnogi “cyfweliadau gwarantedig”. Hynny yw, os yw ymgeisydd yn datgelu eu bod yn uniaethu fel rhan o grŵp a dangynrycholir, byddwn ni’n anelu at gynnig cyfweliad gwarantedig os yw’r ymgeisydd yn bodloni’r holl feini prawf hanfodol a restrir yn yr hysbyseb ar gyfer y rôl.
Yn rhan o’n hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, rydyn ni’n cydnabod yr her y gall rhagfarn ddiarwybod ei chyflwyno i’r broses recriwtio. Felly, rydyn ni’n annog ymgeiswyr i gyflwyno eu cais gan nodi eu llythrennau blaen yn unig yn y meysydd enw cyntaf, cyfenw ac enw dethol yn ogystal ag ar eu CV. Trwy hwyluso’r opsiwn yma ar y ffurflen gais, rydyn ni’n gobeithio codi hyder yr ymgeisydd yn Dŵr Cymru fel cyflogwr cyfle cyfartal.
Hwn yw’r cam nesaf wrth greu proses recriwtio fwy teg, ac mae’n ategu ein hymrwymiad i warantu cyfweliadau hefyd.
Mae Dŵr Cymru’n sefydliad sy’n cael ei yrru gan werthoedd. Mae hynny’n golygu bod sut rydych chi’n ymddwyn ac yn trin pobl eraill yr un mor bwysig i ni â’ch gallu i wneud y gwaith. Dyna pam ein bod ni’n gofyn i’r holl ymgeiswyr baratoi asesiad byr yn seiliedig ar ein gwerthoedd. Ar ôl cyflwyno’ch cais, byddwn ni’n anfon linc atoch i gyflawni’r asesiad. Ni ddylai hyn gymryd mwy na rhyw 15 munud, ond rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw gymorth arbennig arnoch i’w gwblhau.
Mae gennym gynnwys gwych ar Youtube, ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n gwefannau, ac mae gennym bobl sy’n brofiadol ac yn wybodus iawn yn gweithio dros y busnes. Bydd ymchwilio i’r busnes yn eich cynorthwyo ar bob cam o’r broses recriwtio.