Ymweliadau Effeithlonrwydd Dŵr am ddim i gartrefi
R’yn ni’n gwybod fod pob ceiniog yn bwysig, nawr yn fwy nag erioed, ac yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni eisiau helpu. Rydyn ni wedi lansio’r prosiect Ymweliadau Cartref Effeithlonrwydd Dŵr i’ch helpu chi i arbed dŵr ac arbed arian.
Cofrestru Diddordeb mewn Ymweliad Cartref Effeithlonrwydd Dŵr
Bydd ein tîm o gynghorwyr, ynghyd â’r elusen amgylcheddol Groundwork Cymru, yn cyflawni ymweliadau effeithlonrwydd dŵr am ddim ar gyfer ein holl gwsmeriaid domestig. Os hoffech chi gael ymweliad i ffeindio ffyrdd o ddechrau arbed, cliciwch ar y linc yma a chofrestrwch er mwyn i aelod o’n tîm cyfeillgar gysylltu â chi.
Canfod mwyNeu gallwch e-bostio WaterEfficiencyAudit@dwrcymru.com i dderbyn neges trwy e-bost.
Os nad ydych am gael ymweliad, ond bod diddordeb gennych yn ein dyfeisiau arbed dŵr am ddim, ewch draw i’n tudalen Get Water Fit lle mae awgrymiadau am ffyrdd o arbed dŵr, ac opsiwn i archebu cynhyrchion am ddim ar gyfer eich cartref.
Beth yw ymweliad cartref effeithlonrwydd dŵr?
Bydd aelod o’n tîm yn dod i’ch cartref ac yn archwilio’r holl dapiau, toiledau, a chawodydd i weld a allant osod cynhyrchion effeithlonrwydd dŵr addas am ddim fel:
- Pen cawod
- Teclyn cyfyngu llif i’r gawod
- Amserydd i’r gawod
- Awyrydd tap
- Bag arbed fflysh
- Sbardun i’r bibell ddyfrio
Bydd ein cydweithiwr yn rhannu cyngor am ffyrdd o arbed dŵr ac ynni hefyd. Os oes mesurydd gennych, gallant helpu i’ch cynghori chi sut i chwilio am ollyngiadau a sut i ddod o hyd i’ch mesurydd dŵr a’i ddarllen yn rhan o’r ymweliad. Os byddan nhw’n ffeindio bod toiled yn gollwng yn ystod yr ymweliad, peidiwch â phoeni, byddan nhw’n rhoi gwybod i’n plymwyr Cartref, ac mae’n bosibl y bydd modd iddynt ddod allan a thrwsio’r broblem am ddim. I gael rhagor o fanylion am ein cynllun Cartref, cliciwch yma.