Nam ar bibell garthffosiaeth Marlas
Y Newyddion Diweddaraf am Afon Cynffig
Rydyn ni’n gwybod bod y problemau diweddar sydd wedi effeithio ar Afon Cynffig yn sgil byrst ar brif bibell godi Marlas ger Port Talbot yn achosi pryder i lawer o bobl. Mae’n ddrwg gennym am yr effaith y mae hyn yn ei chael ar gymunedau lleol a’r amgylchedd, ac rydyn ni am rannu gwybodaeth â chi am y gwaith sydd ar droed i wella’r sefyllfa.
Beth ddigwyddodd?
Ar 30 Ebrill, cyhoeddwyd Digwyddiad Aur yn sgil byrst sylweddol ar brif bibell godi Marlas. Dirywiodd cyflwr y bibell yn gynt o lawer na’r disgwyl gan arwain at ollyngiad a effeithiodd ar Afon Cynffig. Ein hymateb cyntaf oedd defnyddio tanceri i dynnu dŵr gwastraff o’r rhwydwaith a lleihau’r pwysedd ar y system. Er i hyn helpu i reoli’r broblem yn y tymor byr, mesur dros dro yn unig oedd hyn.
Beth ydyn ni’n ei wneud nawr?
Rydyn ni wedi gosod proses i drin dŵr gwastraff yng Ngorsaf Pwmpio Carthion (SPS) Marlas dros dro. Mae hyn yn ein galluogi ni i drin dŵr gwastraff ar y safle yn hytrach na’i gludo i ffwrdd mewn tanceri.
Mae’r broses drin yn defnyddio bacteria naturiol i ddadelfennu’r gwastraff yn y dŵr. Mae angen amser ar y bacteria yma i gronni a dod yn hollol effeithiol, felly mae gwelliannau’n digwydd yn raddol.
Mae hynny’n golygu:
- Bod y broses drin yn dod yn fwyfwy effeithiol pob dydd
- Bydd gwelliannau i ansawdd dŵr yn digwydd yn gynyddol
- Bydd ein timau’n monitro ac yn addasu’r system yn ddyddiol
Rydyn ni’n gweithio mor gyflym â phosibl i wella ansawdd y dŵr sy’n cael ei ddychwelyd i’r amgylchedd.
Cynnal iechyd yr afon
Dros y penwythnos, fe ddechreuon ni waith awyru yn Afon Cynffig.
Mae awyru’n ychwanegu ocsigen at y dŵr er mwyn helpu i gynnal pysgod a bywyd gwyllt arall, gwella iechyd yr afon, a lleihau drewdod. Byddwn ni’n parhau i fonitro’r afon yn ofalus er mwyn sicrhau bod y gwaith yma’n cael yr effaith ddymunol.
Mesurau amddiffynnol pellach
Rydyn ni’n gosod tua 4.9km o bibellwaith dros dro ar ben y ddaear hefyd er mwyn cwtogi eto fyth ar y risg o ollyngiadau yn y dyfodol.
Mae hi’n brosiect cymhleth am fod y llwybr yn croesi sawl darn o dir sydd mewn perchnogaeth breifat ac sy’n amgylcheddol sensitif, felly bydd y gwaith yma’n cymryd amser. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n disgwyl iddo gymryd rhyw chwech wythnos i’w gwblhau.
Ar ôl gosod y pibellwaith dros dro yma, byddwn ni’n tynnu’r gweithfeydd trin dros dro yn SPS Marlas.
Ein hateb hirdymor
Er mwyn mynd at wraidd y broblem, rydyn ni’n buddsoddi £13 miliwn er mwyn disodli 4.5km o’r brif bibell garthffosiaeth gyfredol ar draws ardal Cynffig a Phort Talbot.
Bydd y buddsoddiad yma’n helpu i:
- Wneud y rhwydwaith yn fwy gwydn
- Lleihau’r risg o ddiffygion yn y dyfodol
- Amddiffyn yr amgylchedd yn well yn y tymor hir
Ar hyn o bryd, rydyn ni’n disgwyl cwblhau’r gwaith disodli yma erbyn Ionawr 2027.
Rhannu gwybodaeth â chi
Rydyn ni wedi bod yn rhannu diweddariadau â chwsmeriaid, grwpiau lleol a rhanddeiliaid trwy newyddlenni, y cyfryngau cymdeithasol a diweddariadau fideo, a byddwn ni’n parhau i rannu gwybodaeth yn rheolaidd wrth i’r gwaith fynd rhagddo.
Rydyn ni’n cydnabod bod y sefyllfa’n achosi pryder sylweddol i bobl leol, ac mae’n ddrwg gennym am yr anghyfleustra a’r effeithiau amgylcheddol a achoswyd yn sgil hyn. Mae ein timau’n gweithio ddydd a nos i wella’r sefyllfa ac i gyflawni ateb hirdymor ar gyfer y gymuned a’r afon.
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd ar y safle drwy fynd i'n tudalen Yn Eich Ardal.