Neidio i’r cynnwys

Rheoliadau dŵr


Mae rheoliadau dŵr yn hanfodol wrth sicrhau ein bod yn gallu darparu’r dŵr yfed gorau posibl i’n cwsmeriaid a diogelu ein cyflenwad.

Dyma pam y mae gennym ni dîm rheoliadau dŵr sy’n gorfodi rheoliadau cyflenwi dŵr (ffitiadau dŵr) 1999 (neu ‘y rheoliadau’). Mae hyn yn ein galluogi ni i gadw eich cyflenwad dŵr yn ddiogel, ac ymdrin â phroblemau a all ddigwydd os yw’r systemau a ffitiadau plymio anghywir wedi eu gosod a’u cysylltu â’n cyflenwad dŵr yfed.

Mae’r rheoliadau yn helpu i ymdrin â phethau megis llygru dŵr yfed, gwastraffu dŵr yfed, a pheidio â defnyddio dŵr yfed yn y ffordd gywir (megis lefelau anarferol iawn o ddefnydd dŵr, mesuriadau anghywir o’r dŵr a ddefnyddir gan y cwsmer). Felly, yn ogystal â’r buddion iechyd, gall y rheoliadau helpu i arbed dŵr.

Mae’r rheoliadau yn fater difrifol iawn, ac mae’n bwysig bod unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r rheoliadau yn cael ei unioni. Weithiau, bydd hyn yn golygu os na fydd cwsmeriaid yn fodlon trwsio’r problemau, fod gennym ni y pŵer i ddefnyddio’r gyfraith i’w datrys. Gall hyn arwain at ddirwyon a gwarantau, neu hyd yn oed erlyniad.

Yn yr un modd â chwmnïau dŵr eraill yn y DU, mae Dŵr Cymru yn aelod o y Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr. Mae hwn yn helpu i rannu arferion gorau, a chael y newyddion diweddaraf ynghylch popeth sy’n ymwneud â ‘gwaith plymio’. Mae ein polisi gorfodi hefyd yn egluro rhagor am y ffordd yr ydym ni’n gweithio.

Os hoffech chi gysylltu ag aelod o’r tîm rheoliadau dŵr, anfonwch neges e-bost atom ni e-bost waterregulations@dwrcymru.com.

Polisi Gorfodi Rheoliadau Dŵr

PDF, 318.5kB

Cymorth a chyngor

Hysbysu a phrofi

Os ydych chi’n gosod cysylltiad dŵr newydd neu ddyfais RPZ, mae angen i ni archwilio’r gwaith i sicrhau ei fod yn bodloni rheoliadau. Lawrlwythwch y ffurflen hysbysu yma.

Cymorth a chyngor

Falfiau Parth Pwysedd Is (RPZ)

Os oes falf RPZ wedi ei gosod yn eich eiddo neu os ydych chi'n credu bod angen gosod un, yna mae rhai pethau y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt cyn cychwyn.

Cymorth a chyngor

Cyflenwad Dwr Preifat

Os yw eich cyflenwad yn dod o ffynhonnell breifat a’i fod wedi’i gysylltu i’n cyflenwad ni, mae angen iddo fodloni rheoliadau. Darganfyddwch sut y dylai’r Arolygiaeth Dŵr Yfed arolygu eich cyflenwad.

Cymorth a chyngor

Hunanardystio eich pibellau cyflenwi dŵr

Gall Contractwyr Cymeradwy WaterSafe hunanardystio eich gosodiad pibellau cyflenwi dŵr. Mae gennym rywfaint o wybodaeth ddefnyddiol i gwsmeriaid a gosodwyr.

Cymorth a chyngor

Plymio mewn Digwyddiadau Dros Dro

Os ydych yn gosod neu'n rheoli digwyddiad dros dro, mae rhai pethau pwysig y mae angen i chi eu gwybod i gadw'r cyflenwad dŵr yn ddiogel.

Cymorth a chyngor

Cyngor a chanllawiau

Gwybodaeth am sut mae Dŵr Cymru yn arolygu gosodiadau a chysylltiadau i sicrhau cydymffurfiad â’r rheoliadau.

Cymorth a chyngor

Gosodwyr Pibellau Cyflenwi Dŵr Cymeradwy WaterSafe

Mae Dŵr Cymru’n lansio menter newydd ar gyfer archwilio ffosydd wrth osod cyflenwadau dŵr.

Cymorth a chyngor

Plymwyr WaterSafe

Yn Dŵr Cymru, rydyn ni'n annog pawb i ddefnyddio gweithwyr cymwys a phrofiadol wrth gyflawni unrhyw waith plymio. Dyna pam ein bod ni'n annog ein holl gwsmeriaid i ddefnyddio aelodau o WaterSafe.

Cymorth a chyngor

Toiledau’n Cydymffurfio

Ydych chi'n gwybod am y rheoliadau toiled amgen (WC) newydd? Ar 1 Ionawr 2020, mae ffordd amgen newydd o fodloni rheoliadau ar gyfer toiledau sydd newydd eu gosod