Neidio i’r cynnwys

Taliadau Mesuredig ar sail Asesiad


Os ydych chi wedi gofyn am fesurydd ond nid ydym wedi gallu gosod un, efallai y bydd gennych chi hawl i gael bil wedi’i fesur ar sail asesiad.

Beth yw Tâl Mesuredig ar Sail Asesiad?

Tâl gostyngol arbennig ydyw, ar swm sefydlog, rhag ofn na ellir gosod mesurydd dŵr. Meddyliwch amdano fel bil mesuredig esgus.

It will tell you on your bill if you are on an assessed measured charge.

Ar gyfer pwy y mae?

Mae ar gyfer ein cwsmeriaid preswyl sydd wedi gofyn am fesurydd ond nad ydynt wedi llwyddo i osod uno dan rai amgylchiadau.

Pryd na roddir Tâl Mesuredig ar Sail Asesiad?

  • Weithiau, byddwn yn gofyn i chi wneud rhywfaint o waith i'n galluogi i osod mesurydd, fel tynnu'r bocs neu'r panel. Os byddwch yn dewis peidio â gwneud y gwaith hwn, yna byddwn yn parhau i'ch bilio ar dâl anfesuredig.
  • Os yw'r tâl anfesuredig safonol ar gyfer eich eiddo yn is na'r Tâl Mesuredig ar Sail Asesiad.
  • Os yw eich eiddo yn wag neu heb ei feddiannu am gyfnodau hir o amser neu wrthi'n cael ei adnewyddu.

Sut y cyfrifir Tâl Mesuredig ar Sail Asesiad?

Rydym wedi edrych ar lawer o filiau cwsmeriaid eraill sydd â mesuryddion ac sydd ag amgylchiadau tebyg i chi. Rydym wedi cyfuno eu biliau i gyd ac wedi cyfrifo eu swm cyfartalog. Y swm cyfartalog hwn fydd y Tâl Mesuredig ar Sail Asesiad sefydlog.

Mae gennym ddau fand, band is a band cyfartalog. Pennir y bandiau yn ôl nifer y dyfeisiau sy'n defnyddio dŵr yn eich eiddo a nifer y deiliaid.

Rwyf newydd symud i mewn i eiddo â Thâl Mesuredig ar Sail Asesiad, pam na allaf gael mesurydd?

Gwyddom na allwn osod mesurydd oherwydd ein bod wedi ceisio gwneud hyn i feddiannydd blaenorol. Os ydych chi wedi newid y gwaith plymio yn eich eiddo a'ch bod yn credu bod hyn yn golygu ein bod bellach yn gallu gosod mesurydd, yna cysylltwch â ni ac fe wnawn wirio a yw bellach yn rhesymol i ni ailymweld i geisio gosod un i chi.

Rwyf newydd symud i mewn i eiddo â Thâl Mesuredig ar Sail Asesiad, beth sy'n digwydd nesaf?

Efallai y rhywfaint o wybodaeth i ni am nifer y bobl sy'n byw yn eich eiddo a nifer y dyfeisiau sydd gennych. Os credwch fod y tâl anfesuredig safonol yn well i chi, yna dyna'r tâl a godir arnoch.

A gaf i ddychwelyd i'r tâl anfesuredig safonol ar gyfer fy eiddo?

Gallwch, os mai hwn yw'r opsiwn rhataf i chi - byddem eisoes wedi cadarnhau hyn cyn rhoi'r Tâl Mesuredig ar Sail Asesiad i chi. Hefyd gallwch ofyn i ni beidio â chodi'r tâl hwn arnoch ac i gael y tâl anfesuredig safonol ar gyfer eich eiddo o fewn dwy flynedd i'r dyddiad y dechreuom godi tâl arnoch ar y Tâl Mesuredig ar Sail Asesiad - pam? oherwydd pe bai gennych fesurydd go iawn, byddem yn cynnig yr opsiwn hwn i chi.

Pryd y byddaf yn cael fy mil?

Os ydych newydd symud i mewn i'r eiddo, yna cewch y bil yn fuan wedi hynny. Os ydym wedi bod allan yn gosod mesurydd ond nad ydym wedi llwyddo i wneud hynny yna, o fewn 30 diwrnod i'n hymweliad, byddwn yn eich trosglwyddo i'r Tâl Mesuredig ar Sail Asesiad a chaiff bil newydd ei anfon. Os oeddech ar unrhyw gynllun talu gyda ni, caiff hyn ei ailgyfrifo'n awtomatig.

Rwy’n talu fy mil dŵr i chi, ond mae'n cynnwys tâl carthffosiaeth ar ran Cwmni Severn Trent Water neu Hafren Dyfrdwy - beth sy'n digwydd?

Mae taliadau carthffosiaeth Cwmni Severn Trent Water a Hafren Dyfrdwy yn wahanol i'n taliadau ni, gan fod pob cwmni dŵr yn gwneud pethau gwahanol. Os byddwn yn rhoi ein Tâl Mesuredig ar Sail Asesiad ar gyfer dŵr i chi, byddwn yn rhoi'r tâl carthffosiaeth mwyaf addas sy'n cyfateb i'r un sydd gan Gwmni Severn Trent Water a Hafren Dyfrdwy.

Beth yw dŵr wyneb?

Dŵr glaw sy'n disgyn ar eiddo ac yn llifo o bibellau draenio, rhodfeydd neu lwybrau i mewn i ddraen neu gwli ar ffordd i garthffos gyhoeddus yw dŵr wyneb. I'r rhan fwyaf o gwsmeriaid, mae'r gost o waredu a thrin dŵr wyneb wedi'i gynnwys yn eu tâl carthffosiaeth.

Fodd bynnag, mae ambell eiddo lle nad yw dŵr wyneb yn draenio i un o'n carthffosydd. Er enghraifft, gall dŵr glaw ddraenio i suddfan bwrpasol neu i nant, afon neu gwrs dŵr trwy garthffos breifat.

Dyma ein taliadau Mesuredig preswyl ar Sail Asesiad am y flwyddyn hyd at fis Ebrill 2026 i Mawrth 2027

Dŵr £    
 Nifer y deiliaid  Defnydd ar gyfartaledd Defnydd isel
1 185.56  154.31
2 238.28  199.22
3 & above 300.76
 253.90
Carthffosiaeth £  
 Nifer y deiliaid Defnydd ar gyfartaledd Gyda Gostyngiad am Ddŵr Wyneb
1 321.04 275.17
2 391.37 345.50
3 & above 474.72 428.65
Carthffosiaeth £  
 Nifer y deiliaid Defnydd isel Gyda Gostyngiad am Ddŵr Wyneb
1 279.37 233.50
2 339.28 293.41
3 & above 412.21 366.34