Prosiect Monitro Mewnlif ac Ymdreiddiad (IIM)
Mae Dŵr Cymru yn cyflwyno Prosiect Monitro Lefelau Carthffosiaeth mawr a fydd yn arwain at osod 10,000 o fesuryddion lefel carthffosiaeth ledled Cymru.
Bydd y gwaith pwysig hwn yn gwella ein dealltwriaeth o berfformiad ein rhwydwaith dŵr gwastraff ac i weld ble mae angen gwneud gwelliannau.
Mae'r prosiect eisoes wedi dechrau, a’r gobaith yw y bydd wedi'i gwblhau erbyn Mawrth 2027.
Mewn ambell i le, efallai y bydd arnom angen mynediad at dyllau archwilio ar eiddo preifat. Ar brydiau, rhain fydd y pwyntiau monitro mwyaf addas.
Beth mae'r mesuryddion yn ei wneud?
Mae'r mesuryddion yn mesur sut mae lefelau carthffosiaeth yn newid yn ystod cyfnodau o law, amrywiadau tymhorol, ac amodau eraill. Bydd yr wybodaeth yn ein helpu ni i:
- Nodi mewnlif ac ymdreiddiad i'r rhwydwaith
- Gwella perfformiad y system
- Lleihau'r perygl o lifogydd a gorlifo mewn stormydd
- Diogelu'r amgylchedd a gwella gwytnwch hirdymor y rhwydwaith
Pwysig: Nid mesuryddion llif yw'r rhain, ni fyddan nhw’n mesur nac yn cofnodi faint o ddŵr y mae eiddo unigol yn ei ddefnyddio.
Pa waith fydd yn cael ei wneud?
Byddwn yn gosod mesuryddion bychain sy’n cael eu pweru gan fatri y tu mewn i siambrau carthffosiaeth dethol.
- Bydd yr offer yn cael ei osod yn ddiogel yn y siambr
- Gall y mesuryddion gael eu gosod yn gyflym, yn dawel, ac o fewn ychydig funudau fel arfer
- Ni fydd unrhyw effaith ar eich gwasanaethau dŵr gwastraff
Pan fo’n bosibl, rydym yn ceisio osgoi gweithio ar dir preifat. Fodd bynnag, pan fo rhaid gwneud, rydym yn cysylltu â chwsmeriaid ymlaen llaw a bydd y gwaith yn cael ei wneud gan darfu cyn lleied ag sy’n bosibl.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi
Gall cwsmeriaid Dŵr Cymru ddisgwyl y canlynol:
- Dim angen gwneud unrhyw beth – mae'r mesuryddion yn gweithredu'n annibynnol
- Byddwn yn tarfu prin ddim arnoch – gellir gosod y mesuryddion yn gyflym ac yn ddidrafferth
- Offer na fyddwch yn sylwi arno – mae’r mesuryddion yn dawel a ni fyddan nhw’n weladwy
- Parch at eich eiddo – bydd mynediad yn cael ei reoli'n ofalus ac yn cael ei gyfathrebu'n glir
Mwy o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae Gwasanaethau Cwsmeriaid Dŵr Cymru yn barod i’ch helpu. Cewch ragor o wybodaeth yn adran 'Yn Eich Ardal Chi' ein gwefan hefyd.
Prosiect Monitro Mewnlif ac Ymdreiddiad
Bydd hyn yn arwain at rwydwaith sy’n fwy gwydn, yn helpu i amddiffyn cymunedau a lleihau'r tebygolrwydd o lifogydd a digwyddiadau llygredd.
Gwybod mwy