Sut allaf leihau fy nefnydd
Byddwn yn dadansoddi eich bil fel eich bod yn gwybod beth yr ydym ni’n codi amdano, a’r hyn y mae angen i chi ei wneud.
Sut rydym yn eich bilio
Bydd dwy ran i’ch bil – taliadau a fesurwyd ar gyfer yr aelwyd a thâl gwasanaeth. Gan ddefnyddio’r darlleniadau yr ydych yn eu rhoi i ni o’ch mesurydd dŵr, byddwn yn cyfrifo faint o ddŵr rydych chi wedi ei ddefnyddio ac yn codi fesul metr ciwbig. Mae’r tâl gwasanaeth am y gost o ddarllen a chynnal eich mesurydd dŵr. Cliciwch ymaam ragor o wybodaeth am sut yr ydym yn cyfrifo’r taliadau.
A yw eich bil wedi cael ei amcangyfrif?
Os yw eich bil wedi cael ei amcangyfrif, ceir dau opsiwn i’w hystyried.
- Os yw’n ddiogel gwneud hynny, cymerwch ddarlleniad gwirioneddol. Yna, byddwn yn anfon bil i chi am eich defnydd gwirioneddol.
- Mae ein rhaglen amcangyfrif yn gywir iawn. Gallwch dalu eich bil amcangyfrifedig yn ôl yr arfer. Byddwn yn ceisio darllen y mesurydd yn ystod y chwe mis nesaf.
I wybod mwy am eich mesurydd dŵr, cliciwch yma.
A yw eich amgylchiadau wedi newid?
Beth bynnag fo’ch amgylchiadau, mae ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth yn ein helpu i wneud yn siŵr ein bod ni’n rhoi’r cymorth iawn i chi a’r gwasanaeth gorau posibl.
Sut allaf leihau fy mil dŵr
Wrth i bob tymor fynd a dod, mae faint o ddŵr yr ydym ni’n ei ddefnyddio yn codi a gostwng. Os yw ar gyfer yr haf, efallai y byddwch wedi defnyddio mwy. Y newyddion da yw bod camau syml y gallwch chi eu cymryd i leihau faint rydych chi’n ei ddefnyddio. Ystyriwch bob amser bod y bil yr ydych chi’n edrych arno nawr ar gyfer y chwe mis o ddefnydd blaenorol.
- Cymerwch gawod a lleihau faint o weithiau yr ydych chi’n mynd i’r bath
- Arhoswch tan fod gennych chi lwyth llawn cyn golchi eich dillad
- Defnyddiwch gan dŵr neu bibell ddŵr llaw yn hytrach nag ysgeintiwr gardd
- Llenwch y tegell gyda’r dŵr sydd ei angen arnoch yn unig
- Gofalwch bod tapiau wedi’u diffodd yn llawn bob amser
Profi os oes gennych ollyngiad dŵr
Rydym ni eisiau gwneud popeth y gallwn i annog cwsmeriaid i ddod o hyd i ollyngiadau a’u trwsio cyn gynted â phosibl. Mae’n bosibl y gallai hyn eich helpu i arbed arian. Mae’r fideo isod yn esbonio sut i brofi ar gyfer gollyngiad dŵr yn y cartref.
A yw'ch toiled yn gollwng?
Allwch chi weld y dŵr yn llifo'n ddi-baid yn y toiled? Gallai fod yn ddiferyn neu’n llif. Efallai bod gennych ddŵr yn gollwng.
Rhestr wirio
gollyngiad
Rydym ni angen i archwiliadau pellach gael eu cyflawni cyn i ni ymchwilio. Defnyddiwch y rhestr wirio ganlynol i benderfynu a oes gennych chi ollyngiad:-
- Nid yw’r digidau wedi symud - Mae hyn yn dynodi nad oes gollyngiad. Mae gennym lawer o gyngor arbed dŵr a a ffyrdd o helpu i wneud eich biliau yn fwy fforddiadwy.
- Mae’r deialau wedi symud - Cwblhewch y ffurflen hon a byddwn yn cysylltu â chi gyda’r camau nesaf.
- Methu â chyflawni’r archwiliad oherwydd siambr y mesurydd - Cliciwch yma i gysylltu â ni.