Wythnos Wyddoniaeth Prydain: Dathlu gyrfaoedd ym meysydd STEM
16 Mawrth 2023
Mae'r wythnos hon yn Wythnos Wyddoniaeth Prydain, pan fo pobl o amgylch y DU yn cynnal miloedd o ddigwyddiadau gyda'r nod o ddathlu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, a mathemateg (STEM). Rydym hefyd eisiau codi ymwybyddiaeth a sbarduno brwdfrydedd yn y pynciau hyn ymhlith pobl o bob oed ac o bob cefndir.
Yma yn Dŵr Cymru, mae nifer fawr o gydweithwyr yn gweithio ym meysydd STEM bob dydd. Rydyn ni wedi cwrdd â thri - Willow, Kelly a Bevita - sy'n dweud ychydig mwy wrthym am eu swyddogaethau.
Pwy wyt ti a beth yw dy swyddogaeth di yn Dŵr Cymru?
"Willow Smallbone ydw i ac rwy’n Rheolwr Data a Dadansoddeg yn Dŵr Cymru. Rwy'n arwain y Tîm Gwyddor Data i gyflawni prosiectau dadansoddol sy'n darparu offer cymorth ar gyfer penderfyniadau i Dŵr Cymru sy'n helpu'r busnes i wneud penderfyniadau mwy gwybodus sy'n cael eu harwain gan ddata."
"Fy enw i yw Kelly Jordan ac rwy’n Rheolwr Cyswllt Ansawdd Afonydd ar gyfer Gorllewin Cymru. Mae fy swyddogaeth yn cynnwys gweithio gyda llawer o wahanol gydweithwyr ar draws Dŵr Cymru i helpu gydag unrhyw ymholiadau a gawn gan y cyhoedd. Rwy'n helpu i esbonio gwyddoniaeth a pheirianneg ein gweithrediadau i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ansawdd afonydd. Gall hyn gynnwys prosesau gwaith trin dŵr, ansawdd dŵr ac adeiledd y rhwydwaith. Cyn hynny, bûm yn gweithio mewn swyddogaethau amrywiol yn cynnwys bioleg."
"Bevita Mattu ydw i, ac rwy’n Beiriannydd Mecanyddol sy'n gofalu am ranbarth de Cymru a Henffordd. Mae hyn yn cynnwys dylunio elfennau mecanyddol (h.y. pibellau, tanciau, pympiau, mynediad ac ati) ar gyfer ein gorsafoedd pwmpio, gweithiau trin dŵr a gweithiau trin dŵr gwastraff, i sicrhau bod dŵr yn cyrraedd ein holl gwsmeriaid ac yn gadael yn iawn, a sicrhau bod ein cydweithwyr gweithredol yn gallu ei drin yn ddiogel. Enghraifft fach o'r hyn y gall y gwaith hwn olygu yw ymweliadau safle, cyfrifiadau, darluniau, arolygon amgylcheddol, ysgrifennu adroddiadau a gweithio mewn timau i gael yr atebion cywir."
Sut ddechreuodd y diddordeb mewn pynciau STEM?
Willow: "Ers yr oeddwn i’n ifanc, rwyf wastad wedi gofyn ‘pam’, er mwyn imi ddysgu mwy. Trwy fy arddegau, arweiniodd hyn at leoliad profiad gwaith gyda milfeddyg. Trosglwyddwyd ei angerdd a'i ddiddordeb mewn parasitoleg (yr astudiaeth o barasitiaid a chlefydau parasitig) i mi, ac yn sgil hyn fe astudiais Sŵoleg ac wedyn fe wnes i PhD yn ymwneud â pharasitoleg. Rwy'n parhau i fod yn berson sy'n mwynhau datrys problemau a gofyn ‘pam’ ac rwy'n teimlo bod gyrfa ym maes STEM wir yn fy nghefnogi i barhau â hyn."
Kelly: "Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn gwyddoniaeth. Roedd fy athrawes bioleg yn llawn anogaeth ac yn gwneud gwersi yn hwyl ac yn rhyngweithiol. Nid oedd erioed yn fwriad uniongyrchol i weithio mewn diwydiant STEM, roedd yn teimlo fel llwybr naturiol yn seiliedig ar yr hyn yr oeddwn yn mwynhau ei ddysgu."
Bevita: "Yn gynnar yn yr ysgol uwchradd roeddwn i wir eisiau gwybod sut yr oedd y byd yn gweithio o'm cwmpas ac yn cael fy swyno gan atomau, gronynnau isatomig, a sut maen nhw'n ffurfio popeth o'n cwmpas ni a thu hwnt. Penderfynais astudio Ffiseg ac Astroffiseg yn y brifysgol, yna penderfynais fy mod i eisiau rhoi hyn ar waith fel peiriannydd."
Beth yw eich cyflawniad mwyaf yn y gwaith hyd yma?
Willow: "Rwyf wedi ymrwymo i ofyn ‘pam’ ac rwyf wastad yn edrych gyda chwilfrydedd ar ddata a'i botensial ar gyfer datrys heriau ac mae hyn wedi amlygu ei hun drwy sawl cynnyrch pwysig sydd wedi bod o fudd i'r busnes. Nid o reidrwydd fy llwyddiant mwyaf ond rhywbeth sy'n rhoi boddhad mawr i mi: gweithio gyda chydweithwyr yn fy nhîm i ddatblygu a dysgu. Does dim byd yn fy ngwneud i'n hapusach na'u gweld nhw'n magu hyder, gwellau eu sgiliau a'u gwybodaeth. Rwyf wrth fy modd yn gweld y tîm yn llwyddo pa un a yw hynny drwy gyflwyno prosiectau neu gyflawniad personol.
Bevita: "Dylunio siffon dros dro i gyflenwi ein gwaith trin dŵr yng nghanolbarth Cymru a gweld hwn ar y safle ac ar waith. Roedd hwn yn darparu cyflenwad sy'n cyfateb i'r hyn sydd ei angen ar gyfer 34,500 o bobl bob dydd ar adeg y galw uchaf (yn seiliedig ar faint cyfartalog o ddŵr mae person yn defnyddio mewn diwrnod). Rwyf hefyd yn hynod falch o fod wedi gweithio ar ddatblygu amrywiaeth hiliol a rhyw o fewn fy niwydiant."
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn pynciau STEM?
Willow: "Mae STEM yn faes cyffrous sy’n datblygu’n barhaus. Daliwch ati i ddatblygu eich hun a dysgu er mwyn gallu aros ar flaen y gad o ran gwybodaeth ond yn bwysicaf oll, peidiwch byth â rhoi'r gorau i ofyn ‘pam’. Bydd hyn yn eich helpu i ddysgu ond hefyd yn eich helpu i ddatrys problemau."
Kelly: "Gall STEM arwain at ystod mor eang o yrfaoedd. Gwnewch yr hyn rydych chi'n ei fwynhau, a byddwch yn synnu faint o gyfleoedd y dewch chi o hyd iddyn nhw. Mae gan fy nghydweithwyr gyfoeth o wybodaeth a phrofiad, ac rwy’n dysgu oddi wrthyn nhw'n gyson."
Bevita: "Os oes gennych ddiddordeb mewn rhywbeth ac yn ei fwynhau, ewch ar ei ôl, hyd yn oed os nad oes gennych uwchgynllun ar gyfer gyrfa. Mae bod â’r diddordeb a'r brwdfrydedd hwnnw yn golygu y byddwch yn rhoi mwy o ymdrech iddo ac felly bydd y canlyniadau'n well. Mae cymaint o sgiliau trosglwyddadwy o fewn y gwyddorau, ac maen nhw ar gyfer unrhyw un o gwbl sydd eisiau eu dilyn."
Un o'r themâu eleni yw #ChwaluStereoteipiau. Oes gennych chi unrhyw enghreifftiau o sut mae gweithio gyda chydweithwyr mwy amrywiol wedi arwain at lwyddiant?
Willow: "Mae amrywiaeth mor bwysig i unrhyw dîm. Ar gyfer Gwyddor Data bydd tîm amrywiol yn cefnogi syniadau ehangach ar gyfer datrys problemau, lleihau rhagfarn mewn atebion a chefnogi meddwl y tu allan i’r bocs. Rwy'n falch o weithio gyda chydweithwyr o gefndiroedd amrywiol, arsylwi arnynt yn cydweithio a dysgu oddi wrth ei gilydd a'u gweld yn llwyddo fel tîm."
Kelly: "Roedd fy swyddogaeth flaenorol fel rheolwr prosiect yn cynnwys bod yn aelod o sawl grŵp llywio. Roedd y grwpiau hyn yn cynnwys ystod eang o unigolion a phrofiad a helpodd i nodi problemau a datblygu atebion arloesol. Gall gwahanol gynrychiolwyr, safbwyntiau a gwybodaeth o amgylch y bwrdd dim ond bod o fantais i’n heriau STEM."
Bevita: "Fe wnes i greu a chynnal digwyddiad i drafod amrywiaeth hiliol yn agored o fewn y diwydiant dŵr, lle ymunodd 5 o gydweithwyr benywaidd du â mi ar y panel. Roedd dros 150 o bobl yn bresennol a chafodd y fideo ei wylio dros 600 o weithiau ar YouTube. Yn sgil hyn mae mwy o ddigwyddiadau o'r fath ac maen nhw wedi ymestyn i rannau eraill o'r DU. Mae'r syniad cychwynnol wedi arwain at newidiadau ag effaith mawr a sgyrsiau agored."
Yn olaf, beth yw dy obeithion ar gyfer y dyfodol?
Willow: "Rwy'n gobeithio y byddwn yn dod o hyd i ffordd o annog pobl ifanc i ymwneud â phynciau STEM a rheiny o gefndiroedd sy'n cael eu tangynrychioli ar draws meysydd STEM ar hyn o bryd. Rwy'n gobeithio y gallwn gefnogi'r unigolion hyn i ddatblygu eu hunain a darparu amgylchedd sy'n eu galluogi i ffynnu er mwyn gwneud STEM yn yrfa gydol oes, lle maen nhw’n gallu bod yn nhw eu hunain a chael eu gwerthfawrogi am bopeth y maen nhw’n ei gyfrannu at eu maes.
"Drwy gydol fy ngyrfa, rwy'n gobeithio y gallaf ysbrydoli eraill i weld pa mor gyffrous ac unigryw yw swyddogaethau STEM a bod yn fentor i'r rhai sy'n dechrau ar eu taith."
Bevita: "Rwy'n gobeithio y byddaf wastad yn mwynhau'r hyn rwy'n ei wneud ar gyfer fy ngyrfa ac i weld amrywiaeth mawr yn y gweithlu. Rwy'n gobeithio y bydd pobl ifanc yn gallu gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli, gan wybod a chredu y gallan nhw ei wneud hefyd!"