Esemptiadau
Mae rhai esemptiadau y gellir eu cymhwyso, sy’n cynnwys pobl ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth neu ddeiliaid Bathodyn Glas. Mae rhestr lawn o’r esemptiadau ar gael isod.
Deiliaid Bathodyn Glas a'r rhai ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth
Gall unrhyw gwsmeriaid sy'n ddeiliaid Bathodyn Glas a'r rhai ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth ac sy'n analluog yn gorfforol neu na allant wneud addasiadau (oherwydd rhesymau iechyd) i gadw at y gwaharddiad yn ddiogel, barhau i ddefnyddio dŵr heb orfod gwneud cynrychiolaeth i Dŵr Cymru Cyfyngedig i gael caniatâd.
Mae rhestr lawn o'r eithriadau i'w gweld isod.
Eithriadau Statudol
Gall cwsmeriaid sy'n bodloni'r gofynion isod barhau i ddefnyddio dŵr heb orfod gwneud sylwadau i Dŵr Cymru Cyfyngedig i gael caniatâd. Wrth ddefnyddio dŵr, gofynnir i gwsmeriaid ddefnyddio dŵr yn ddoeth a mabwysiadu arferion effeithlon o ran dŵr:
- Defnyddio pibell ddŵr am resymau iechyd neu ddiogelwch, lle mae hyn yn cynnwys (a) dileu neu leihau unrhyw risg i iechyd neu ddiogelwch pobl neu anifeiliaid; a (b) atal neu reoli lledaeniad asiantau achosol clefydau;
- Dyfrio planhigion sy'n (1) cael eu tyfu neu eu cadw i'w gwerthu neu i'w defnyddio'n fasnachol, neu (2) sy'n rhan o Gasgliad Planhigion Cenedlaethol neu arddangosfa ardd neu flodau dros dro;
- Glanhau unrhyw ardal o gwch hamdden preifat sydd, ac eithrio drysau neu ffenestri, wedi'i hamgáu gan do a waliau;
- Llenwi neu gynnal a chadw pwll lle bo angen wrth ei adeiladu;
- Llenwi neu gynnal a chadw pwll sydd wedi'i gynllunio, ei adeiladu neu ei addasu i'w ddefnyddio yn ystod rhaglen o driniaeth feddygol;
- Llenwi neu gynnal pwll a ddefnyddir at ddiben dadhalogi anifeiliaid rhag heintiau neu glefydau;
- Llenwi neu gynnal pwll a ddefnyddir yn ystod rhaglen o driniaeth filfeddygol;
- Llenwi neu gynnal pwll lle mae pysgod neu anifeiliaid dyfrol eraill yn cael eu magu neu eu cadw mewn caethiwed;
- Llenwi neu gynnal pwll domestig lle mae pysgod neu anifeiliaid dyfrol eraill yn cael eu magu neu eu cadw mewn caethiwed; a
- Llenwi neu gynnal ffynnon addurniadol sydd mewn neu ger pwll pysgod ac sydd â'r pwrpas o gyflenwi digon o ocsigen i'r dŵr yn y pwll er mwyn cadw'r pysgod yn iach.
O.N. Mae dyfrio ardaloedd o laswellt, a ddefnyddir ar gyfer chwaraeon neu hamdden, wedi'i gynnwys o dan Eithriad Statudol ar gyfer iechyd a diogelwch mewn perthynas â'r llain weithredol/ardal chwarae yn unig, nid y tir cyfan.
Eithriadau Cyffredinol Dewisol
Gall cwsmeriaid barhau i ddefnyddio dŵr yn unol â'r meini prawf Eithriad Cyffredinol Dewisol isod heb orfod gwneud sylwadau i Dŵr Cymru Cyfyngedig i gael caniatâd i ddefnyddio dŵr ar gyfer y defnyddiau cyfyngedig canlynol.
Gofynnir i gwsmeriaid sy'n bodloni'r gofynion ar gyfer Eithriad Cyffredinol Dewisol ddefnyddio dŵr yn ddoeth a mabwysiadu arferion effeithlon o ran dŵr.
- Dyfrio tyweirch newydd ei osod am y 28 diwrnod cyntaf (os cafodd ei osod cyn i'r cyfyngiad gael ei roi ar waith), planhigion mewn potiau neu dan orchudd,
- Dyfrio planhigion sydd newydd eu prynu am y 14 diwrnod cyntaf,
- Cwsmeriaid sy'n defnyddio system ddyfrhau diferu neu ddiferu gymeradwy sydd â falf lleihau pwysau a systemau amserydd.
Glanhau cerbyd modur preifat lle na ellir gwneud hyn yn rhesymol gan ddefnyddio bwced
- Wrth gynnal busnes i lanhau cerbydau modur preifat fel gwasanaeth i gwsmeriaid, gan ddefnyddio cyfarpar penodol a gymeradwywyd, fel golchwyr pwysedd manyleb uchel neu bibell ddŵr gyda sbardun a weithredir â llaw neu gyfarpar sy'n effeithlon o ran dŵr.
Glanhau cwch hamdden preifat gan ddefnyddio pibell ddŵr
- Y rhai sy'n defnyddio llongau fel prif breswylfa;
- Ar gyfer llenwi tanc dŵr mewn cwch lle mae'r dŵr i'w ddefnyddio at ddibenion golchi, coginio neu lanweithdra;
- Achosion lle mae baeddu cyrff llongau yn achosi cynnydd yn y defnydd o danwydd oherwydd y llusgiad a grëir;
- Ar gyfer peiriannau a gynlluniwyd i'w glanhau â phibell ddŵr;
- Er mwyn atal neu reoli lledaeniad rhywogaethau estron a/neu ymledol lle nad yw dulliau eraill yn briodol.
Llenwi neu gynnal pwll nofio neu badlo domestig
- Wrth lenwi pwll sy'n strwythur sefydlog o wag ar ôl adeiladu neu adnewyddu sylweddol. Ar ôl iddo gael ei lenwi yna ni ellir defnyddio pibell ddŵr ar gyfer unrhyw lenwi dilynol;
- Pyllau ag arwyddocâd crefyddol pan gânt eu defnyddio fel rhan o seremoni grefyddol;
- Pyllau sydd â systemau cadwraeth neu ailgylchu dŵr cymeradwy;
- Pyllau padlo yng nghyfnodau cynnar sychder;
- Pyllau nofio sy'n darparu hyfforddiant diwydiannol os ystyrir eu bod yn gyfiawn;
Glanhau waliau neu ffenestri, llwybrau neu batios ac unrhyw arwyneb awyr agored artiffisial arall ar eiddo domestig gan ddefnyddio pibell ddŵr
- Wrth gynnal busnes fel gwasanaeth i gwsmeriaid. Noder: Caniateir defnyddio polion sy'n cael eu bwydo â dŵr gan lanhawyr masnachol ar gyfer glanhau ar uchder o dan yr Eithriad Statudol Iechyd a Diogelwch.
- Lle mae technolegau defnydd dŵr isel iawn yn cael eu defnyddio a'u cymeradwyo gan y cwmni dŵr e.e. heb eu cysylltu â'r prif gyflenwad gyda phympiau trydan sydd wedi'u cysylltu â chasgenni dŵr sy'n cael eu llenwi â dŵr glaw;
- Ar gyfer cael gwared ar graffiti - pan fo graffiti yn drosedd casineb, yn sarhaus neu'n dramgwyddus.
- Er mwyn atal neu reoli lledaeniad rhywogaethau estron a/neu ymledol lle nad yw dulliau eraill yn briodol.
O.N. Ni chaniateir defnyddio polyn sy'n cael ei fwydo gan ddŵr yn y cartref o dan Eithriadau Cyffredinol Dewisol.