Rydym yn cyflwyno gwaharddiad ar ddefnyddio pibellau dyfrio
Am 10am dydd Sul, 19 Gorffennaf, daw ‘Gwaharddiad ar Bibellau Dyfrio’ i rym i gwsmeriaid yn y cymunedau canlynol a’r cyffiniau:
Cyngor Sir Ceredigion: Aberaeron, Llan-non, Llangwyryfon, Cwm Ystwyth, Tregaron, Pontrhydfendigaid, Ystrad Meurig, Llanbedr Pont Steffan, Felinfach, Ciliau Aeron, Llandysul (Ceredigion), Cei Newydd, Aberporth, Rhydlewis
Cyngor Sir Benfro:Crymych, Eglwyswrw, Nanhyfer, Trefdraeth, Llanfyrnach, Tegryn, Star
Cyngor Sir Caerfyrddin: Ffarmers, Pencader a Hermon
Bydd hyn yn effeithio at ryw 33,000 eiddo, ond gall cwsmeriaid ddilysu a yw’n effeithio ar eu heiddo nhw gan ddefnyddio’r chwiliwr codau post ar wefan Dŵr Cymru isod.
Hysbysiad Cyhoeddus: Gwaharddiad Dros Dro ar Ddefnyddio Dŵr
JPG, 1.6MB
Mae Dŵr Cymru Cyfyngedig yn hysbysu, yn unol ag adrannau 76 a 76A–C o Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991, bod y defnyddiau canlynol o ddŵr a gyflenwir gan Dŵr Cymru Cyfyngedig dan gyfyngiadau.
Gwiriwch eich ardal
Os ydych wedi cael llythyr gennym yn rhoi gwybod am y gwaharddiad dros dro mae eich eiddo yn yr ardal y mae’r cyfyngiadau’n berthnasol iddi.
Gallwch hefyd ddefnyddio ein system gwirio cod post hwylus i weld a yw’r gwaharddiad yn berthnasol i’ch eiddo chi.
Gwiriwch eich Cod Post
{{postcode}} - Nid effeithir mewn ardal y mae’r Gwaharddiad Defnydd Dros Dro yn effeithio arni.
Mae’r cyfyngiadau’n cael eu cyflwyno am fod yr ardal wedi gweld cyfnod estynedig digynsail o alw mawr am ddŵr yn sgil tywydd poeth a sych parhaus. Er bod ein gweithfeydd trin dŵr yn gweithredu hyd eithaf eu capasiti, ac er ein bod ni wedi cymryd camau helaeth i gynnal cyflenwadau, mae’r galw wedi aros yn sylweddol uwch nac arfer am sawl wythnos bellach.
Yn wahanol i waharddiadau traddodiadol sy’n gysylltiedig â sychder, mesur tymor byr yn seiliedig ar alw yw hwn. Y bwriad yw lleihau defnydd o ddŵr ar adegau brig, lleihau’r pwysau ar y rhwydwaith dŵr lleol a helpu i sicrhau bod cyflenwadau dibynadwy yn parhau i gyrraedd cwsmeriaid tra bod y cyfnod cyfredol o dywydd poeth yn parhau.
Nid prinder dŵr yn ein cronfeydd yw’r rheswm dros gyflwyno’r gwaharddiad yma. Y sialens yw’r lefel uchel dros ben o alw am ddŵr wedi ei drin, a’r pwysau y mae hyn yn ei roi ar ein gallu i drin, pwmpio ac adfer storfeydd lleol (mewn tanciau storio danddaear) yn ddigon cyflym i ddiwallu’r galw, yn arbennig ar adegau prysuraf y dydd.
Mesur brys dros dro yw’r cyfyngiadau yn yr ardal hon, ac ni fyddwn ni’n eu cadw mewn grym yn fwy nac sydd ei angen. Byddwn ni’n codi’r cyfyngiadau cyn gynted ag y bydd y tymheredd yn gostwng, y galw’n dychwelyd i lefelau mwy normal, a’r rhwydwaith yn gweithredu mewn ffordd gynaliadwy eto.
Hoffem ddiolch i gwsmeriaid am yr ymdrechion y maent eisoes wedi eu gwneud i leihau eu defnydd o ddŵr. Trwy barhau i ddefnyddio dŵr yn ddoeth ac osgoi defnydd diangen, gall cwsmeriaid helpu i amddiffyn cyflenwadau ar gyfer pawb yn ystod y cyfnod neilltuol yma.
Ble mae hyn?
Mae’r ardal o dan sylw yn cwmpasu rhyw 33,000 eiddo ac yn ymestyn o Lan-non, Llangwyryfon a Chwm Ystwyth yng Ngheredigion, draw i Grymych, Llanfyrnach a Nanhyfer yng ngogledd Penfro, ac i mewn i rannau o ogledd Sir Gaerfyrddin i lawr i Ffarmers, Pencader a Hermon.
O ble mae dŵr yr ardal yma’n dod?
Daw cyflenwadau rhwydwaith dŵr yr ardal o gronfeydd dŵr Pyllau Teifi ar gyrion gorllewinol Mynyddoedd Cambria, ac o ddŵr sy’n cael ei godi o afon Teifi yn Llechryd.
Ni fyddai symud dŵr o gronfeydd mewn gwahanol rannau o Gymru i gyflenwi’r rhanbarth yn ymarferol oherwydd topograffeg yr ardal a’r anawsterau a’r gost sydd ynghlwm wrth bwmpio llawer iawn o ddŵr dros dir gwledig.
Beth yw’r gwaharddiad yma?
Mae ‘gwaharddiad ar bibellau dyfrio’ yn golygu na chewch ddefnyddio pibell ddyfrio yn eich gardd neu’ch cartref.
O dan y cyfyngiadau, gwaherddir defnyddio pibellau dyfrio, gan gynnwys taenellwyr, pibellau diferu, systemau dyfrio awtomataidd a dyfeisiau tebyg at y dibenion canlynol:
Defnyddiau a waherddir
- Dyfrio gerddi gan ddefnyddio pibell ddyfrio
- Dyfrio planhigion sydd mewn pot neu yn y ddaear yn yr awyr agored, o dan do ar eiddo domestig neu eiddo anfasnachol arall gan ddefnyddio pibell ddyfrioDrawing water, using a hosepipe, for domestic recreational use
- Codi dŵr at ddefnyddiau hamdden domestig gan ddefnyddio pibell ddyfrio
- Glanhau cerbydau modur preifat gan ddefnyddio pibell ddyfrio
- Glanhau cychod hamdden preifat gan ddefnyddio pibell ddyfrio
- Glanhau waliau neu ffenestri eiddo domestig gan ddefnyddio pibell ddyfrio
- Glanhau llwybrau neu batios gan ddefnyddio pibell ddyfrio
- Glanhau arwynebau artiffisial awyr agored eraill gan ddefnyddio pibell ddyfrio
- Llenwi neu gynnal pwll domestig gan ddefnyddio pibell ddyfrio
- Llenwi neu gynnal ffynnon addurnol
Dylid nodi y gall cwsmeriaid barhau i gyflawni’r gweithgareddau uchod â dŵr o’r prif gyflenwad gan ddefnyddio bwced neu gan dyfrio; neu ddefnyddio dŵr nad yw’n dod o’r prif gyflenwad fel dŵr llwyd, dŵr o gasgen ddŵr trwy bibell ddyfrio, neu dyllau turio preifat er enghraifft.
Beth rydyn ni’n ei wneud i amddiffyn cyflenwadau
Mae ein timau’n gweithio’n galed i wneud yn siŵr ein bod ni’n cymryd pob cam posibl i sicrhau effeithlonrwydd dŵr ar draws ein hardaloedd gweithredu, gan gynnwys:
- Canfod a thrwsio gollyngiadau er mwyn cwtogi ar faint o ddŵr sy’n cael ei golli o’r rhwydwaith. Mae timau’n gweithio i drwsio gollyngiadau mor gyflym â phosibl ar draws y wlad. Mae ein timau’n trwsio tua 700 o ollyngiadau pob wythnos ar hyn o bryd, a gall cwsmeriaid helpu trwy roi gwybod i ni am unrhyw ddŵr sy’n gollwng.
- Cynyddu’r storfeydd dŵr.
- Diwygio’r parthau a defnyddio tanceri i symud dŵr i’r ardaloedd lle mae galw mawr.
- Gwaith parhaus i uwchraddio ein rhwydwaith.
- Cynyddu faint o ddŵr sy’n cael ei gynhyrchu yn ein gweithfeydd trin.
Esemptiadau
Rydym yn deall bod rhai amgylchiadau a fyddai’n golygu bod eithriad yn berthnasol i’r cyfyngiadau.
Mae rhestr lawn o’r esemptiadau ar gael ymaWybodaeth ddefnyddiol
Arbed Dŵr
Trwy ddefnyddio’r holl ddŵr sydd ei angen arnoch, a gofalu i beidio â’i wastraffu, gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth mawr.
Gwasanaethau blaenoriaeth
Cael cymorth ychwanegol drwy ddarparu dŵr, rheoli eich biliau a’ch cyfrif, a’ch cadw chi’n ddiogel yn eich cartref.
Get Water Fit
Defnyddiwch ein cyfrifiannell ‘Get Water Fit’ i helpu i ddod o ffyrdd i arbed dŵr ac arian – ac mae cynnyrch ar gael am ddim wrth gofrestru hefyd.
Toiled yn Gollwng
Toiled yn Gollwng Os oes angen cymorth arnoch gyda thoiled sy'n gollwng – efallai y gallwn ei drwsio am ddim!