Cwestiynau cyffredin
Cwsmeriaid Busnes
Mae Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (GDDD), neu ‘waharddiad pibell ddŵr’ ar lafar gwlad, yn golygu na chewch chi ddefnyddio pibell ddŵr ar gyfer gweithgareddau penodol o amgylch yr eiddo. Rydyn ni’n gwybod y gall gwaharddiadau pibell ddŵr fod yn anghyfleus, ac nid yw hwn yn benderfyniad rydyn ni wedi'i wneud ar chwarae bach, ond rydyn ni’n cymryd y camau hyn nawr i sicrhau bod gennym ddigon o ddŵr i bara tan ddiwedd yr haf ac i mewn i'r hydref.
O dan y cyfyngiadau GDDD, ni chaniateir defnyddio pibell ddŵr, gan gynnwys chwistrellwyr, pibellau diferu, systemau dyfrio awtomatig a dyfeisiau tebyg, ar gyfer y gweithgareddau canlynol:
- Dyfrio gardd gan ddefnyddio pibell ddŵr
- Glanhau cerbyd modur preifat gan ddefnyddio pibell ddŵr
- Rhoi dŵr i blanhigion ar safle domestig neu anfasnachol arall gan ddefnyddio pibell ddŵr
- Glanhau cwch hamdden preifat gan ddefnyddio pibell ddŵr
- Llenwi neu gynnal lefel dŵr pwll nofio, pwll padlo neu dwba twym domestig
- Tynnu dŵr, gan ddefnyddio pibell ddŵr, at ddefnydd hamdden domestig
- Llenwi neu gynnal lefel dŵr pwll dŵr domestig gan ddefnyddio pibell ddŵr
- Llenwi neu gynnal lefel dŵr ffynnon addurniadol
- Glanhau waliau neu ffenestri eiddo domestig gan ddefnyddio pibell ddŵr
- Glanhau llwybrau neu batios gan ddefnyddio pibell ddŵr
- Glanhau arwynebau awyr agored artiffisial eraill gan ddefnyddio pibell ddŵr
Fel busnes, cewch ddefnyddio pibell ddŵr os yw hynny’n uniongyrchol at ddibenion masnachol, neu os yw'n angenrheidiol am resymau iechyd a diogelwch. Ni chewch ei defnyddio at ddibenion nad ydynt yn hanfodol (fel glanhau llwybr y tu allan i flaen eich eiddo masnachol).
Mae 'gardd' yn cynnwys:
- parc
- unrhyw erddi sydd ar agor i'r cyhoedd
- lawnt
- llain las
- ardal o laswellt sy’n cael ei defnyddio ar gyfer chwaraeon neu hamdden
- gardd rhandir
- unrhyw ran o randir sy’n cael ei defnyddio at ddibenion anfasnachol
- unrhyw fan gwyrdd arall
Nid yw 'gardd' yn cynnwys:
- tir amaethyddol
- tir a ddefnyddir yn fasnachol (h.y. ar gyfer tyfu)
- gardd neu arddangosfa flodau dros dro
- planhigion sydd mewn potyn yn yr awyr agored neu yn y ddaear, dan do
Os ydych chi ar fesurydd dŵr ac yn defnyddio llai o ddŵr na’r arfer, dylai hyn gael ei adlewyrchu ym miliau eich busnes. Os ydych chi'n talu tâl sefydlog am flwyddyn, ni fydd hwnnw’n newid waeth faint o ddŵr rydych chi'n ei ddefnyddio. Ni fydd ein cwsmeriaid busnes yn cael gostyngiad yn sgil gwaharddiad pibell ddŵr.
Gallech chi gael dirwy o hyd at £1,000, er ein bod ni’n gobeithio na fydd angen gwneud hyn os bydd pawb yn gweithio gyda'i gilydd i arbed dŵr.
Os ydych chi'n defnyddio symiau mawr o ddŵr ar gyfer eich busnes, er enghraifft os ydych chi'n defnyddio pibell ddŵr i wneud gwaith glanhau hanfodol, mae'n debygol y bydd eich busnes wedi'i eithrio o'r gwaharddiad. Mae enghreifftiau o'r rhain yn cynnwys busnesau golchi ceir a glanhawyr ffenestri. Os ydych chi'n poeni a yw eich busnes wedi'i eithrio o'r gwaharddiad pibell ddŵr, cysylltwch â ni trwy ein gwefan – dwrcymru.com/drought.
Gallwch. Os yw'ch pibell ddŵr wedi’i chysylltu â rhywbeth heblaw'r prif gyflenwad, fel cyflenwad preifat, e.e. twll turio, gallwch ei defnyddio o hyd.
Am fanylion llawn am yr hyn sydd wedi a heb ei gynnwys yn y gwaharddiad pibell ddŵr, darllenwch ein hysbysiad cyhoeddus ar ein gwefan – dwrcymru.com/drought.
Os yw'ch amgylchiadau wedi'u rhestru yn yr eithriadau presennol, does dim angen i chi wneud dim.
Ar ôl darllen yr hysbysiad hwn, os hoffech wneud cais am eithriad o'r cyfyngiadau dŵr hyn ar sail gofyniad nad yw wedi’i amlinellu yn yr eithriadau ar hyn o bryd, e-bostiwch ni yn: water.resources@dwrcymru.com.
Bydd y gwaharddiad fel arfer yn para nes bod adnoddau dŵr wedi’u hail-lenwi - a allai ddigwydd yn sgil llawer o law neu lai o alw am ddŵr.
Byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi hyn ac mae cyfyngiadau llymach nag erioed o'r blaen yn golygu bod safbibellau’n annhebygol.