Neidio i’r cynnwys

Dry weather update

Mid and South Ceredigion Temporary Use Ban (TUB) Consultation

O DYDDIAD AMSER, rydyn ni’n datgan y bydd Gwaharddiad Defnydd Dros Dro, sy’n aml yn cael ei alw’n waharddiad pibell ddŵr, yn weithredol i gwsmeriaid Canolbarth a De Ceredigion a rhannau cyffiniol o Ogledd Sir Benfro a gogledd Sir Gâr o DYDDIAD.

Mae cronfeydd dŵr sy'n gwasanaethu Canolbarth a De Ceredigion yn agosáu at lefelau sychder. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n symud i Gam 3, statws Sychder o XXX Gorffennaf.

Er nad yw hyn yn peri risg uniongyrchol i gyflenwadau dŵr yr ardal, rydyn ni’n cymryd camau angenrheidiol i sicrhau bod digon o ddŵr ar ôl i gyflenwi cwsmeriaid a diogelu'r amgylchedd lleol dros y misoedd nesaf.

Bydd cyfyngiadau dŵr yn weithredol yn yr ardal i ddiogelu cyflenwadau.

Mae'r tywydd sych wedi parhau, gyda Chymru a gweddill y DU yn profi'r (Mehefin poethaf ar gofnod.) Mae lefelau cronfeydd dŵr wedi parhau i ostwng yn ystod y cyfnod hwn.

Nid yw'r glaw ysbeidiol diweddar yn yr ardal wedi bod yn ddigon i wneud gwahaniaeth i lefelau cronfeydd dŵr. Mae adnoddau dŵr yn is nag y byddem yn ei ddisgwyl ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn.

Ar bwy fydd hyn yn effeithio?

Mae'r ardal yr effeithir arni yn ymestyn ar draws Canolbarth a De Ceredigion, rhannau o ogledd Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Mae'n cynnwys 32,000 o eiddo o Lanon, Llangwyryfon a Chwm Ystwyth yng Ngheredigion, i lawr i Grymych, Llanfyrnach a Nanhyfer yng ngogledd Sir Benfro ac mae'n cynnwys rhannau o ogledd Sir Gaerfyrddin i lawr i Ffarmers, Pencader a Hermon.

I weld a fydd unrhyw effaith ar eich ardal chi, defnyddiwch y: gwiriwr cod post hwn.

O le mae'r dŵr ar gyfer yr ardal hon yn dod?

Mae rhwydwaith dŵr yr ardal yn cael ei gyflenwi gan gronfeydd dŵr Llynnoedd Teifi ar ymyl orllewinol Mynyddoedd Cambria a dŵr sy’n cael ei dynnu o Afon Teifi yn Llechryd.

Ni fyddai’n ymarferol symud dŵr i’r ardal o gronfeydd eraill Cymru, a hynny oherwydd tirwedd yr ardal ac oherwydd yr anawsterau a’r gost sydd ynghlwm â phwmpio llawer iawn o ddŵr o gwmpas y wlad.

Pam mae hyn yn digwydd?

Mae lefelau’r cronfeydd bellach oddeutu 31% yn is nag yr oeddent y llynedd, a dim ond 37% o’r glawiad cyfartalog hirdymor disgwyliedig s ddisgynnodd yn nalgylch cronfeydd Llynnoedd Teifi rhwng Chwefror ac Ebrill.

Mae'r tir mawnog o amgylch y cronfeydd dŵr hyn yn cadw dŵr ac yn rhyddhau dŵr yn ôl i’r amgylchedd yn arafach nag ardaloedd eraill.

Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (Gwaharddiad Pibell Ddŵr)

Mae Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (GDDD), neu ‘waharddiad pibell ddŵr’ ar lafar gwlad, yn golygu na chewch chi ddefnyddio pibell ddŵr yn eich gardd neu’ch cartref.

O dan y cyfyngiadau GDDD, ni chaniateir defnyddio pibell ddŵr, gan gynnwys chwistrellwyr, pibellau diferu, systemau dyfrio awtomatig a dyfeisiau tebyg, ar gyfer y gweithgareddau canlynol:

Defnydd sydd wedi’i Wahardd

  1. Dyfrio gardd gan ddefnyddio pibell ddŵr
  2. Defnyddio pibell ddŵr i roi dŵr i blanhigion sydd mewn potyn tu allan neu yn y ddaear, dan do ar safle domestig neu anfasnachol arall
  3. Tynnu dŵr, gan ddefnyddio pibell ddŵr, at ddefnydd hamdden domestig
  4. Glanhau cerbyd modur preifat gan ddefnyddio pibell ddŵr
  5. Glanhau cwch hamdden preifat gan ddefnyddio pibell ddŵr
  6. Glanhau waliau neu ffenestri eiddo domestig gan ddefnyddio pibell ddŵr
  7. Glanhau llwybrau neu batios gan ddefnyddio pibell ddŵr
  8. Glanhau arwynebau awyr agored artiffisial eraill gan ddefnyddio pibell ddŵr
  9. Llenwi neu gynnal lefel dŵr pwll nofio neu bwll padlo domestig
  10. Llenwi neu gynnal lefel dŵr pwll dŵr domestig gan ddefnyddio pibell ddŵr
  11. Llenwi neu gynnal lefel dŵr ffynnon addurniadol

Sylwch y gall cwsmeriaid barhau i wneud y gweithgareddau uchod gyda’r prif gyflenwad dŵr drwy ddefnyddio bwced neu gan dŵr; neu ddefnyddio dŵr nad yw'n dod o'r prif gyflenwad fel dŵr llwyd, dŵr glaw o gasgen ddŵr trwy bibell ddŵr, neu dyllau turio preifat, er enghraifft.

Beth rydyn ni'n ei wneud i ddiogelu cyflenwadau

Mae ein timau'n gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn cymryd pob cam posibl i wneud defnydd mor effeithlon â phosibl o ddŵr ar draws ein hardaloedd gweithredu, gan gynnwys:

  • Canfod a thrwsio gollyngiadau i leihau faint o ddŵr sy'n cael ei golli o'r rhwydwaith. Mae timau'n gweithio ledled y wlad yn trwsio gollyngiadau cyn gynted â phosibl. Ar hyn o bryd mae ein timau’n trwsio tua 700 o ollyngiadau bob wythnos a gall cwsmeriaid helpu trwy roi gwybod i ni am unrhyw ollyngiadau. Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n lleihau gollyngiadau gan 25% ac rydyn ni’n gwario tua £400m ar osod pibellau newydd a thrwsio gollyngiadau i gefnogi'r uchelgais hon.
  • Storio mwy o ddŵr.
  • Ailddiffinio parthau a defnyddio tanceri i symud dŵr i ardaloedd lle mae’r galw’n uchel.
  • Gwaith parhaus i uwchraddio ein rhwydwaith.
  • Cynyddu cynhyrchiant dŵr yn ein gwaith trin