Cwestiynau cyffredin
Cwsmeriaid Domestig
Mae Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (GDDD), neu ‘waharddiad pibell ddŵr’ ar lafar gwlad, yn golygu na chewch chi ddefnyddio pibell ddŵr ar gyfer gweithgareddau penodol o amgylch yr eiddo. Rydyn ni’n gwybod y gall gwaharddiadau pibell ddŵr fod yn anghyfleus, ac nid yw hwn yn benderfyniad rydyn ni wedi'i wneud ar chwarae bach, ond rydyn ni’n cymryd y camau hyn nawr i sicrhau bod gennym ddigon o ddŵr i bara tan ddiwedd yr haf ac i mewn i'r hydref.
Mae’r defnydd o bibell ddŵr, gan gynnwys chwistrellwyr, pibellau diferu, systemau dyfrio awtomatig a dyfeisiau tebyg, wedi’i wahardd ar gyfer y canlynol:
- Dyfrio gardd gan ddefnyddio pibell ddŵr
- Defnyddio pibell ddŵr i roi dŵr i blanhigion sydd mewn potyn tu allan neu yn y ddaear, dan do ar safle domestig neu anfasnachol arall
- Tynnu dŵr, gan ddefnyddio pibell ddŵr, at ddefnydd hamdden domestig
- Glanhau cerbyd modur preifat gan ddefnyddio pibell ddŵr
- Glanhau cwch hamdden preifat gan ddefnyddio pibell ddŵr
- Glanhau waliau neu ffenestri eiddo domestig gan ddefnyddio pibell ddŵr
- Glanhau llwybrau neu batios gan ddefnyddio pibell ddŵr
- Glanhau arwynebau awyr agored artiffisial eraill gan ddefnyddio pibell ddŵr
- Llenwi neu gynnal lefel dŵr pwll nofio neu bwll padlo domestig
- Llenwi neu gynnal lefel dŵr pwll dŵr domestig gan ddefnyddio pibell ddŵr
- Llenwi neu gynnal lefel dŵr ffynnon addurniadol
Sylwch y gall cwsmeriaid barhau i wneud y gweithgareddau uchod gyda’r prif gyflenwad dŵr drwy ddefnyddio bwced neu gan dŵr; neu ddefnyddio dŵr nad yw'n dod o'r prif gyflenwad fel dŵr llwyd, dŵr glaw o gasgen ddŵr trwy bibell ddŵr, neu dyllau turio preifat, er enghraifft.
Mae'r diffiniadau canlynol yn berthnasol:
- Mae "gardd" yn cynnwys parc, gerddi sydd ar agor i'r cyhoedd, gardd ddomestig, lawnt, llain las, rhandir sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion anfasnachol, ac unrhyw fan gwyrdd arall;
- Mae "pibell ddŵr" yn cynnwys unrhyw beth sy’n cael ei ddylunio, ei addasu neu ei ddefnyddio i wasanaethu'r un pwrpas â phibell ddŵr. Mae'r gwaharddiadau’n berthnasol p'un a oes unrhyw ddyfais wedi’i chysylltu â’r bibell ddŵr ai peidio, fel chwistrellwr er enghraifft; ac
- Mae "defnyddio pibell ddŵr" yn cynnwys tynnu dŵr a gyflenwir gan y cwmni o gynhwysydd trwy bibell ddŵr; a llenwi cynhwysydd gyda phibell ddŵr gyda dŵr a gyflenwir gan y cwmni;
- Mae "defnyddio pibell ddŵr at ddefnydd hamdden domestig" yn cynnwys gweithredu sleidiau dŵr ac offer hamdden arall.
- Mae "cerbyd modur preifat" yn cynnwys tacsis a minicabiau ond nid yw'n cynnwys (1) cerbyd gwasanaeth cyhoeddus, fel y'i diffinnir yn Adran 1 Deddf Cerbydau Teithwyr Cyhoeddus 1981(c), a (2) cerbyd nwyddau, fel y'i diffinnir yn adran 192 Deddf Traffig Ffyrdd 1988(d).
- Mae cychod dan berchnogaeth breifat wedi’u cynnwys p'un a ydynt yn cael eu lansio o drelar ai peidio. Mae'r diffiniad yn ymestyn i gerbydau dŵr bach fel canŵau, caiacau, jet-sgis, ac ati.
- Mae twbâu twym wedi’u dosbarthu o dan ddefnydd hamdden domestig ac eithrio lle mae hyn yn uniongyrchol at ddibenion masnachol.
Rydyn ni wedi cael llawer o dywydd sych iawn hyd yn hyn eleni, gydag ychydig iawn o law. Yn wir, mae wedi bod mor sych eleni ag yr oedd ym 1976. Rydyn ni wedi gwneud y penderfyniad i gyflwyno gwaharddiad pibell ddŵr gan fod y diffyg glaw a'r galw uchel am ddŵr yn golygu bod ein cronfeydd dŵr yn yr ardal yn is nag yr hoffem iddyn nhw fod ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Er nad oes unrhyw risg uniongyrchol i gyflenwadau, mae angen i ni gymryd camau nawr i sicrhau bod y cyflenwadau’n para.
Byddwn ni’n ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi os oes gwaharddiad pibell ddŵr yn eich ardal chi, ond gallwch chi hefyd ddefnyddio ein gwiriwr cod post i weld a yw’n effeithio arnoch chi. Gallwch chi ddod o hyd i hwn ar ein gwefan yn dwrcymru.com/drought.
Er nad oes risg uniongyrchol i gyflenwadau dŵr yr ardal, mae’n rhaid i ni gymryd camau nawr i sicrhau bod digon o ddŵr ar ôl i gyflenwi cwsmeriaid a diogelu'r amgylchedd lleol dros y misoedd nesaf.
Mae'n rhaid i ni o dan y gyfraith ddarparu dŵr at ddibenion yfed, golchi, glanweithdra a gwres canolog, ac mae pawb yn dal i allu defnyddio dŵr at y dibenion hyn, hyd yn oed gyda'r gwaharddiad pibell ddŵr mewn grym.
Yn gyffredinol, does dim ots gennym ni os ydych chi'n defnyddio dŵr at ddibenion eraill hefyd – fel dyfrio’r ardd. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, does dim digon o ddŵr ar gyfer y dibenion hynny nad ydynt yn hanfodol, felly mae'n rhaid i ni wahardd y defnydd o beipiau dŵr yn yr achosion hynny.
Ar gyfer cwsmeriaid sy’n defnyddio mesurydd, dim ond am yr hyn rydych chi'n ei ddefnyddio rydych chi’n talu, felly ni fyddwch chi’n gorfod talu am unrhyw beth nad ydych chi'n ei ddefnyddio. I gwsmeriaid heb fesurydd, mewn amgylchiadau arferol does dim rhaid i chi dalu mwy am ddyfrio’r ardd ar ben eich defnydd dŵr domestig, ac rydyn ni’n hapus i chi ddefnyddio pibell ddŵr heb unrhyw dâl ychwanegol. Mewn sefyllfa o sychder, fodd bynnag, does dim digon o ddŵr ar gael i ni ei roi i chi, a dyna pam mae'r cyfyngiadau mewn grym.
Gallwch chi barhau i ddefnyddio dŵr y tu allan os ydych chi'n llenwi bwced neu gan dŵr o'r tap, neu’n defnyddio dŵr sydd wedi'i ddefnyddio o'r blaen, fel dŵr bath neu ddŵr coginio.
Dim gyda phibell ddŵr, ond gallwch chi ddefnyddio dŵr mewn bwced. Mae pibellau dŵr yn defnyddio tua 540 litr o ddŵr yr awr. Dim ond tua 10 litr mae bwced a sbwng yn ei ddefnyddio. Dydyn ni ddim yn dweud na allwch chi ddefnyddio dŵr, ond mae angen i chi ddefnyddio dulliau llai gwastraffus.
Na. Mae chwistrellwyr wedi'u cynnwys yn y gwaharddiad. Gallwch chi ddefnyddio can dŵr neu fwced i ddyfrio’r ardd.
Dim gyda phibell ddŵr, ond gallwch chi ddefnyddio dŵr mewn bwced. Mae pibellau dŵr yn defnyddio tua 540 litr o ddŵr yr awr. Dydyn ni ddim yn dweud na allwch chi ddefnyddio dŵr, ond mae angen i chi ddefnyddio dulliau llai gwastraffus.
Os ydych chi'n Ddeiliad Bathodyn Glas, neu os ydych chi ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth, rydych chi wedi'ch eithrio o'r gwaharddiad pibell ddŵr.
Os oes gennych chi eich cyflenwad dŵr eich hun fel twll turio preifat, rydych chi wedi'ch eithrio, gan fod y gwaharddiad ond yn berthnasol i gwsmeriaid Dŵr Cymru.
Am fanylion llawn am yr hyn sydd wedi a heb ei gynnwys yn y gwaharddiad pibell ddŵr, ewch i'n gwefan - dwrcymru.com/drought.
Os yw'ch amgylchiadau wedi'u rhestru yn yr eithriadau presennol, does dim angen i chi wneud dim. Ar ôl darllen yr hysbysiad hwn, os hoffech wneud cais am eithriad o'r cyfyngiadau dŵr hyn ar sail gofyniad nad yw wedi’i amlinellu yn yr eithriadau ar hyn o bryd, e-bostiwch ni yn: water.resources@dwrcymru.com.
Mae eithriadau i ddeiliaid Bathodyn Glas, pobl ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth ac ar gyfer defnyddio pibell ddŵr i lanhau mewn rhai sefyllfaoedd lle ceir materion sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch. Os ydych chi'n poeni am eich anghenion a’r hyn y mae'r gwaharddiad yn ei olygu i chi, cysylltwch â ni trwy ein gwefan.
Dyma ein deg awgrym gorau ar gyfer arbed dŵr:
- Trwy gau’r tap bob tro rydych chi’n brwsio'ch dannedd, gallwch chi arbed hyd at 18 litr. Mae hynny'n cyfateb i 36 potel chwaraeon bob tro rydych chi'n brwsio'ch dannedd - neu 72 potel y dydd, 504 potel yr wythnos neu 26,208 potel y flwyddyn - fesul person!
- Defnyddiwch y gawod yn lle’r bath. Bydd hyn nid yn unig yn arbed dŵr ond hefyd yn arbed arian i chi, oherwydd gall gwresogi dŵr gyfrif am 25% o'ch bil ynni.
- Mae dros draean o'r dŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio gartref yn mynd i lawr y toiled - felly cofiwch, os yw'n felyn, gall aros am dipyn!
- Rhowch lwyth golchi llawn ymlaen yn hytrach na dau hanner llwyth
- Dŵr yfed – Dyma un peth NA ddylech chi dorri ’nôl arno! Cadwch jwg o ddŵr yn yr oergell fel na fydd yn rhaid i chi redeg y tap am gymaint o amser i gael diod oer. Rydyn ni'n meddwl mai ein dŵr tap ni yw'r gorau yn y byd, felly mwynhewch!
- Llenwch y peiriant golchi llestri a defnyddiwch osodiad 'eco' neu arhoswch a gwnewch y llestri i gyd mewn un tro yn hytrach na thrwy gydol y dydd.
- Os ydych chi'n prynu teclynnau newydd, dewiswch gynhyrchion sy’n effeithlon o ran dŵr, neu’n well fyth, chwiliwch am gynnyrch sydd â Marc Argymell Waterwise. Bydd hyn yn lleihau eich defnydd o ddŵr heb unrhyw ymdrech!
- Gall tap sy'n gollwng wastraffu hyd at 15 litr o ddŵr y dydd – neu 5,500 litr y flwyddyn. Mae hynny'n ddigon i lenwi pump a hanner injan dân.
- Defnyddiwch gasgen ddŵr i ddal dŵr a allai fel arall gael ei gario i ffwrdd gan ein pibellau carthffosiaeth. Gallech ddefnyddio’r dŵr yma i lanhau'ch car neu olchi eich ffenestri, gan eich helpu i gyrraedd pob twll a chornel!
- Rhowch ddŵr i’ch planhigion neu'ch gardd gyda chan dŵr yn hytrach na phibell ddŵr. Bydd dyfrio yn gynnar yn y bore ac yn hwyr yn y prynhawn yn lleihau anweddiad gan felly arbed dŵr.
Gallech chi gael dirwy o hyd at £1,000, er ein bod ni’n gobeithio na fydd angen gwneud hyn os bydd pawb yn gweithio gyda'i gilydd i arbed dŵr.
Bydd y gwaharddiad fel arfer yn para nes bod adnoddau dŵr wedi’u hail-lenwi - a allai ddigwydd yn sgil llawer o law neu lai o alw am ddŵr.
Gallwch chi ychwanegu at byllau dŵr gyda phibell ddŵr os ydyn nhw’n cynnwys pysgod neu anifeiliaid eraill sy’n byw mewn dŵr, gan fod hyn yn fater o les anifeiliaid. Gallwch chi ddefnyddio pibellau dŵr hefyd i lanhau ardaloedd byw anifeiliaid, neu ail-lenwi cafnau yfed.
Cewch ddefnyddio pibell ddŵr sydd wedi’i chysylltu â chasgen ddŵr sydd wedi'i llenwi gyda dŵr glaw, neu ddŵr arall sy’n cael ei ailddefnyddio o'r cartref. Fodd bynnag, ni allwch lenwi casgenni dŵr yn uniongyrchol o'r prif gyflenwad.
Dim ond ychydig dros XX% o'r glaw disgwyliedig y mae Ceredigion wedi’i weld rhwng Mawrth a Gorffennaf, ac ers dod yn ymwybodol o hyn rydyn ni wedi cymryd sawl cam i helpu i arbed dŵr yn yr ardal. Mae hyn wedi cynnwys canfod a thrwsio mwy o ollyngiadau, ynghyd â'r defnydd o danceri dŵr i ymateb i’r cyfnodau o alw mwyaf mewn rhai rhannau o'r Sir.
Nid yw'r sefyllfa sy'n effeithio ar Ganolbarth a De Ceredigion yn unigryw ac mae’r cyfnod hir o dywydd sych wedi effeithio ar rannau helaeth o'r DU a rhai ardaloedd o Loegr eisoes yn wynebu cyfyngiadau ar ddefnydd dŵr.
Os gwelwch gymydog neu rywun yn eich cymuned yn defnyddio pibell ddŵr yn ystod y gwaharddiad pibell ddŵr, gallwch chi gysylltu â ni trwy ein gwefan.Efallai bod y person wedi'i eithrio o'r gwaharddiad, ond gallwn ni ymchwilio a gwneud yn siŵr bod pawb yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau i fod yn fwy effeithlon gyda dŵr. Gall siarad am y gwaharddiad yn eich cymuned helpu i godi ymwybyddiaeth o'r cyfyngiadau a helpu eraill i ddeall beth mae’n ei olygu.
Bydd ein gwaharddiad pibell ddŵr ar waith yn ardal Canolbarth a De Ceredigion. Mae hyn yn golygu y bydd y cyfyngiadau ond yn berthnasol i bobl sy'n byw yn yr ardal hon. Gofynnwn i'n holl gwsmeriaid ddefnyddio dŵr yn ddoeth a pheidio â'i wastraffu.
Er ein bod wedi cael rhywfaint o law gwerthfawr yn ddiweddar, mae angen y cyfyngiadau dros dro hyn arnom ni o hyd. Mae angen sawl wythnos o law fel hyn ar rai ardaloedd cyn y gallwn ni fod yn hyderus fod ein cronfeydd dŵr yn cynnwys digon o ddŵr i bara drwy'r haf. Po hiraf y bydd y glaw yn parhau, y cynharaf y gallwn ni lacio'r cyfyngiadau.
Byddwn ni’n rhoi gwybod i'r holl gwsmeriaid yr effeithir arnynt pan fydd y gwaharddiad wedi'i godi, yn yr un ffordd â phan yr ysgrifennom atoch pan ddaeth y gwaharddiad i rym. Os nad ydych chi’n siŵr a yw'r gwaharddiad yn dal i fod ar waith, gallwch chi edrych ar ein gwefan.
Dydyn ni ddim yn gofyn i bobl roi'r gorau i ddefnyddio dŵr na rhoi'r gorau i'w ddefnyddio at ddibenion hanfodol. Dylech barhau i ddefnyddio'r hyn sydd ei angen arnoch. Rydyn ni ond yn gofyn i chi newid eich dulliau o wneud rhai pethau, o ddulliau gwastraffus iawn fel pibellau dŵr a chwistrellwyr, i ddulliau mwy effeithlon fel caniau dŵr a bwcedi. Gall y dulliau hyn arbed cannoedd o litrau o ddŵr bob tro maen nhw’n cael eu defnyddio. Mewn dim ond awr, gall chwistrellwr ddefnyddio’r un faint o ddŵr ag y byddai teulu o bedwar fel arfer yn ei ddefnyddio mewn diwrnod.
Byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi hyn ac mae cyfyngiadau llymach nag erioed o'r blaen yn golygu bod safbibellau’n annhebygol.
Mae mynd i'r afael â gollyngiadau yn flaenoriaeth allweddol i Dŵr Cymru ac rydyn ni wedi gwneud cynnydd da yn lleihau'r swm sy’n cael ei golli o'n rhwydwaith bob blwyddyn. Yn wir, dros yr 20 mlynedd diwethaf rydyn ni wedi haneru ein lefelau o ollyngiadau, ac wedi cyrraedd ein targedau lleihau gollyngiadau bob blwyddyn dros y degawd diwethaf.
Mae gennym ni dimau allan ar draws ein hardal yn dod o hyd i ollyngiadau ac yn eu trwsio cyn gynted â phosibl. I wireddu hyn, rydyn ni:
- Wedi cynyddu’r staff canfod gollyngiadau o 34 i 103
- Yn canfod a thrwsio tua 700 o ollyngiadau yr wythnos
Mae'n werth nodi hefyd fod ein system ddŵr yn 27,000km o hyd, sydd tua’r un pellter â hedfan i Awstralia ac yn ôl. Mae llawer ohono’n dyddio'n ôl i Oes Fictoria, felly mae'n anochel y bydd rhwydwaith o'r oedran a'r maint yma’n datblygu gollyngiadau. Ar hyn o bryd rydyn ni’n buddsoddi tua £20 miliwn y flwyddyn ar fynd i'r afael â gollyngiadau.
Yn ystod y tywydd sych diweddar a chyn i ni gyhoeddi gwaharddiad pibell ddŵr rydyn ni wedi cynyddu ein gweithgareddau canfod a thrwsio gollyngiadau i leihau colledion o'r rhwydwaith ymhellach. Ar draws parth adnoddau dŵr Ceredigion lle mae'r gwaharddiad yn berthnasol, rydyn ni wedi trosglwyddo cydweithwyr o ardaloedd gweithredol eraill yn ogystal â recriwtio contractwyr i gynorthwyo gyda’r ymdrechion hyn. Mae hyn wedi arwain at gynyddu ein gweithlu yn yr ardal gan 70% sydd yn ei dro yn golygu ein bod bellach yn canfod a thrwsio 40% yn fwy o ollyngiadau o gymharu â 2021.
Ein nod ar hyn o bryd yw cyrraedd a thrwsio gollyngiadau y rhoddir gwybod i ni amdanynt o fewn 48 awr. Mae hyn yn berthnasol lle mae'r gollyngiad yn hawdd i'w drwsio ac nad oes angen i ni gael unrhyw ganiatâd i wneud y gwaith.
Er bod rhai gollyngiadau yn hawdd a chyflym i'w trwsio, mae eraill yn fwy cymhleth naill ai oherwydd eu lleoliad neu gan fod angen y caniatâd angenrheidiol arnom i wneud y gwaith. Gallai hyn gynnwys cael caniatâd ar gyfer rheoli traffig fel y caiff ein tîm ni a gyrwyr eu cadw'n ddiogel tra bod y gwaith atgyweirio’n digwydd. Mae'r rhain yn anochel yn cymryd mwy o amser ac er ein bod ni’n deall y gall hyn beri rhwystredigaeth, gallwn ni roi sicrwydd i bawb ein bod ni’n cymryd ein cyfrifoldeb am drwsio gollyngiadau o ddifrif, ac rydyn ni’n diolch i chi am eich amynedd.
Y peth gorau y gall cwsmeriaid ei wneud yw rhoi gwybod i ni am unrhyw ollyngiadau cyn gynted ag y byddan nhw’n sylwi arnynt. Gallwch chi roi gwybod i ni am y rhain trwy ein gwefan.