Cwestiynau cyffredin TUB
Beth mae codi’r gwaharddiad yn ei olygu i chi.
Household customers
Mae Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (TUB) neu ‘gwaharddiad pibau dyfrhau’ i roi ei enw mwy cyffredin, yn golygu na fyddwch chi’n cael defnyddio piben ddyfrhau i gyflawni gweithgareddau penodol o amgylch yr eiddo. Rydym yn gwybod y gall gwaharddiadau pibau dyfrhau fod yn anghyfleus ac nid yw hwn yn benderfyniad yr ydym wedi ei wneud yn ddi-hid, ond rydym yn cymryd y camau hyn nawr i sicrhau bod gennym ni ddigon o ddŵr i bara tan ddiwedd yr haf ac i mewn i’r hydref.
O dan gyfyngiadau’r TUB, ni chaniateir defnyddio piben ddyfrhau, gan gynnwys defnyddio chwistrellwyr, pibau diferu, systemau dyfrhau awtomatig a dyfeisiau tebyg, ar gyfer y gweithgareddau canlynol:
- Dyfrio’r ardd gyda phiben ddyfrhau
- Glanhau cerbyd modur preifat gyda phiben ddyfrhau
- Dyfrio planhigion ar eiddo domestig neu anfasnachol arall gyda phiben ddyfrhau
- Glanhau cwch hamdden preifat gyda phiben ddyfrhau
- Llenwi neu gynnal pwll nofio, padlo neu dwba twym
- Drawing water, using a hosepipe, for domestic recreational use
- Llenwi neu gynnal pwll dŵr domestig gyda phiben ddyfrhau
- Llenwi neu gynnal ffynnon addurniadol
- Glanhau waliau, neu ffenestri, eiddo domestig gyda phiben ddyfrhau
- Glanhau llwybrau neu batios gyda phiben ddyfrhau
- Glanhau arwynebau awyr agored artiffisial eraill gyda phiben ddyfrhau
Rydym ni wedi cael llawer o dywydd sych iawn hyd yn hyn eleni, ag ychydig iawn o lawiad. Yn wir, mae wedi bod mor sych eleni ag yr oedd ym 1976. Rydym ni wedi gwneud y penderfyniad i gyflwyno gwaharddiad pibau dyfrhau, gan fod y diffyg glaw a galw uchel am ddŵr yn golygu bod ein cronfeydd dŵr wrth gefn yn yr ardal yn is nag yr hoffem iddyn nhw fod ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Er nad oes perygl uniongyrchol i gyflenwadau, mae angen i ni gymryd camau nawr i sicrhau bod cyflenwadau yn para.
Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi os oes gwaharddiad pibau dyfrhau yn eich ardal, ond gallwch hefyd ddefnyddio ein map i weld a ydych wedi’ch effeithio. Mae hwn ar gael ar ein gwefan yn – dwrcymru.com/sychder.
Er nad oes unrhyw berygl uniongyrchol i gyflenwadau dŵr ar gyfer yr ardal, mae’n rhaid i ni gymryd camau nawr i sicrhau bod digon o ddŵr ar ôl i barhau i gyflenwi cwsmeriaid ac i ddiogelu’r amgylchedd lleol dros y misoedd nesaf.
Rydym wedi ein rhwymo o dan y gyfraith i ddarparu dŵr at ddibenion yfed, ymolchi, glanweithdra a gwres canolog, a gall pawb ddefnyddio dŵr at y dibenion hyn o hyd, hyd yn oed pan fo’r gwaharddiad pibau dyfrhau ar waith.
Yn gyffredinol, nid oes ots gennym os byddwch yn defnyddio dŵr at ddibenion eraill hefyd – fel dyfrio’r ardd. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, nid oes digon o ddŵr at y dibenion hynny nad ydynt yn hanfodol, ac felly mae’n rhaid i ni wahardd defnydd o bibau dyfrhau yn yr achosion hynny.
I gwsmeriaid â mesurydd, rydych chi’n talu am yr hyn yr ydych chi’n ei ddefnyddio yn unig, felly nid ydym yn codi arnoch am unrhyw beth nad ydych chi’n ei ddefnyddio. I gwsmeriaid heb fesurydd, o dan amgylchiadau arferol, nid oes rhaid i chi dalu unrhyw arian ychwanegol i ddyfrio’ch gardd yn ogystal â defnydd domestig o ddŵr ac rydym yn hapus i chi ddefnyddio piben ddyfrhau heb unrhyw gost ychwanegol. Mewn sefyllfa o sychder, fodd bynnag, nid yw’r dŵr hwnnw ar gael gennym i’w roi i chi, a dyna pam mae’r cyfyngiadau ar waith.
Rydych chi dal yn cael defnyddio dŵr yn yr awyr agored os byddwch yn llenwi bwced neu gan dŵr o’r tap, neu’n defnyddio dŵr sydd wedi ei ddefnyddio o’r blaen, fel dŵr bath neu ddŵr coginio.
Dim gyda phiben ddyfrhau, ond cewch ddefnyddio dŵr mewn bwced. Mae pibau dyfrhau yn defnyddio tua 540 litr o ddŵr yr awr. Gall bwced a sbwng ddefnyddio cyn lleied â 10 litr. Nid ydym yn dweud na chewch chi ddefnyddio dŵr; ond mae angen i chi ddefnyddio dulliau llai gwastraffus.
Na fyddwch. Mae’r gwaharddiad yn berthnasol i chwistrellwyr. Gallwch ddefnyddio can dyfrhau neu fwced i ddyfrio’r ardd.
Dim gyda phiben ddyfrhau, ond cewch ddefnyddio dŵr mewn bwced. Mae pibau dyfrhau yn defnyddio tua 540 litr o ddŵr yr awr. Nid ydym yn dweud na chewch chi ddefnyddio dŵr; ond mae angen i chi ddefnyddio dulliau llai gwastraffus.
Os ydych yn Ddeiliad Bathodyn Glas, neu os ydych ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth, rydych wedi’ch eithrio o’r gwaharddiad pibau dyfrhau.
Os oes gennych eich cyflenwad dŵr eich hun fel twll turio preifat, rydych chi wedi’ch eithrio, gan fod y gwaharddiad yn berthnasol i gwsmeriaid Dŵr Cymru yn unig.
I gael manylion llawn yr hyn sydd wedi’i gynnwys a heb ei gynnwys yn y gwaharddiad pibau dyfrhau, ewch i’n gwefan dwrcymru.com/sychder.
Os yw eich amgylchiadau wedi’u rhestru yn yr eithriadau cyfredol, nid oes angen i chi wneud dim.
Os ar ôl darllen yr hysbysiad hwn y byddwch yn dymuno gwneud cais am esemptiad o’r cyfyngiadau dŵr hyn oherwydd gofyniad nad yw wedi’i amlinellu yn yr eithriadau ar hyn o bryd, anfonwch e-bost atom yn: water.resources@dwrcymru.com.
Ceir eithriadau i ddeiliaid Bathodyn Glas, pobl ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth ac ar gyfer defnyddio piben ddyfrhau i lanhau mewn rhai sefyllfaoedd lle mae iechyd a diogelwch yn broblem. Os ydych yn pryderu am eich anghenion a’r hyn y mae’r gwaharddiad yn ei olygu i chi cysylltwch drwy ein gwefan.
Dyma ein deg awgrym gwych ar gyfer arbed dŵr:
- Trwy ddiffodd y tap bob tro y byddwch yn brwsio eich dannedd, gallwch arbed hyd at 18 litr. Mae hynny’n arbediad o 36 o boteli chwaraeon bob tro y byddwch yn brwsio eich dannedd – neu 72 o boteli y dydd, 504 o boteli yr wythnos neu 26,208 o boteli y flwyddyn – y person!
- Cymerwch gawod yn hytrach na bath. Yn ogystal ag arbed dŵr, gall hefyd arbed arian gan y gall gwresogi dŵr fod yn gyfrifol am 25% o’ch bil ynni.
- Mae dros draean o’r dŵr yr ydym yn ei ddefnyddio gartref yn mynd i lawr y toiled, felly os yw’n felyn, beth am ei adael?!
- Golchwch lwyth llawn o ddillad yn hytrach na dau hanner llwyth
- Dŵr yfed – Mae hon yn un agwedd NA ddylech ei leihau! Felly cadwch jwg o ddŵr yn yr oergell fel nad oes yn rhaid i chi redeg y tap am gyhyd i gael diod oer. Rydym ni o’r farn mai ein dŵr tap ni yw’r gorau yn y byd, felly mwynhewch!
- Llenwch y peiriant golchi llestri a defnyddiwch raglen ‘eco’ neu arhoswch a golchwch y llestri i gyd ar yr un pryd yn hytrach na drwy gydol y dydd
- Os ydych chi’n prynu dyfeisiau newydd, dewiswch gynhyrchion effeithlon o ran dŵr, neu’n well byth, chwiliwch am gynnyrch â nod argymhellwyd gan Waterwise. Bydd hyn yn lleihau eich defnydd o ddŵr heb unrhyw ymdrech!
- Gall tap sy’n gollwng wastraffu hyd at 15 litr o ddŵr y dydd – neu 5,500 litr y flwyddyn. Mae hynny’n ddigon i lenwi pump a hanner o beiriannau tân.
- Defnyddiwch gasgen ddŵr i ddal dŵr a allai gael ei gludo i ffwrdd trwy ein pibellau carthffosiaeth fel arall. Gallech ddefnyddio hon i lanhau eich car neu olchi eich ffenestri a fydd yn eich helpu i gyrraedd yr holl gorneli anodd yna!
- Dyfriwch eich planhigion neu eich gardd gyda chan dŵr yn hytrach na phiben ddyfrhau. Bydd dyfrio’n gynnar yn y bore a diwedd y prynhawn yn lleihau anweddiad ac felly’n arbed dŵr
Gallech gael dirwy o hyd at £1,000, er ein bod yn gobeithio na fydd angen gwneud hyn os bydd pawb yn cydweithio i arbed dŵr.
Bydd y gwaharddiad fel rheol yn para tan fod adnoddau dŵr yn cael eu hail-lenwi – a allai fod o lawer iawn o law, neu o lai o alw am ddŵr.
Gellir llenwi pyllau dŵr gyda phiben ddyfrhau os oes pysgod neu anifeiliaid dŵr eraill ynddynt, gan fod hwn yn fater o les anifeiliaid. Gellir hefyd defnyddio pibau dyfrhau i lanhau mannau byw anifeiliaid, neu i ail-lenwi cafnau yfed.
Caniateir piben ddyfrhau sydd wedi’i chysylltu â chasgen ddŵr a lenwyd gan ddŵr glaw, neu ddŵr arall a ailddefnyddiwyd o’r cartref. Fodd bynnag, ni chewch lenwi casgenni dŵr yn uniongyrchol o’r prif gyflenwad.
Dim ond 60% o’r glawiad disgwyliedig y mae Sir Benfro wedi’i weld rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf ac ers darganfod am y glawiad is nag arfer, rydym wedi cynnal nifer o weithgareddau i helpu i arbed dŵr yn yr ardal. Mae hyn wedi cynnwys canfod a thrwsio gollyngiadau, yn ogystal â defnyddio tanceri dŵr i ymateb i gyfnodau brig o alw mewn rhai rhannau o’r Sir. Yn ogystal â hyn, oherwydd y tymereddau uwch, rydym ni wedi gweld y galw am ddŵr yn cynyddu 20% dros gyfnod parhaus ar draws y sir. Mae’r cyfuniad hwn o ddigwyddiadau yn ddigynsail.
Nid yw’r sefyllfa sy’n effeithio Sir Benfro yn unigryw ac mae tywydd sych parhaus yn effeithio’n ddifrifol ar rannau mawr o’r DU ac mae cyfyngiadau ar ddefnyddio dŵr eisoes wedi’u cyflwyno mewn rhai rhannau o Loegr.
Os byddwch yn sylwi ar gymydog neu rywun yn eich cymuned yn defnyddio piben ddyfrhau yn ystod y gwaharddiad pibau dyfrhau, gallwch gysylltu â ni drwy ein gwefan . Efallai fod y person wedi’i eithrio o’r gwaharddiad, ond byddwn yn gallu ymchwilio a gofalu bod pawb yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau i fod yn fwy effeithlon o ran dŵr. Gallai helpu i siarad am y gwaharddiad yn eich cymuned, i godi ymwybyddiaeth o’r cyfyngiadau a helpu eraill i ddeall yr hyn y maent yn ei olygu.
Mae gennym ni waharddiad pibau dyfrhau ar waith yn ardal Sir Benfro. Mae hyn yn golygu bod y cyfyngiadau yn berthnasol i bobl sy’n byw yn yr ardal hon yn unig. Rydym yn gofyn i’n holl gwsmeriaid ddefnyddio dŵr yn ddoeth a pheidio â’i wastraffu.
Er ein bod wedi cael rhywfaint o law sydd i’w groesawu’n fawr yn ddiweddar, rydym ni dal i fod angen y cyfyngiadau dros dro hyn.
Mae angen ychydig o wythnosau da o law fel hyn ar rai ardaloedd cyn y gallwn fod yn hyderus bod gan ein cronfeydd dŵr ddigon o ddŵr i bara drwy’r haf. Po hiraf y bydd y glaw yn parhau y cyflymaf y byddwn yn gallu llacio’r cyfyngiadau.
Byddwn yn rhoi gwybod i’r holl gwsmeriaid dan sylw pryd y bydd y gwaharddiad wedi ei godi, yr un ffordd ag y gwnaethom ni ysgrifennu atoch chi pan roddwyd y gwaharddiad ar waith. Os ydych chi’n ansicr a yw’r gwaharddiad yn dal i fod ar waith, ewch i’n gwefan.
Dydyn ni ddim yn gofyn i bobl roi’r gorau i ddefnyddio dŵr na rhoi’r gorau i’w ddefnyddio at ddibenion hanfodol. Dylech barhau i ddefnyddio’r hyn sydd ei angen arnoch. Y cwbl yr ydym ni’n ei ofyn yw eich bod yn newid eich dulliau o gyflawni rhai gweithgareddau, o ddulliau gwastraffus iawn, fel pibau dyfrhau a chwistrellwyr, i ddulliau mwy effeithlon fel caniau dŵr a bwcedi.
Gall y dulliau hyn, yn llythrennol, arbed cannoedd o litrau o ddŵr bob un tro y cânt eu defnyddio. Gall chwistrellydd ddefnyddio mewn un awr yn unig yr hyn y byddai teulu o bedwar yn ei ddefnyddio mewn un diwrnod fel rheol.
Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i osgoi’r sefyllfa hon ac mae cyfyngiadau mwy llym nag erioed o’r blaen yn golygu bod safbibellau yn annhebygol.
Mae mynd i'r afael â gollyngiadau yn flaenoriaeth allweddol i Dŵr Cymru ac rydym wedi gwneud cynnydd da o ran lleihau faint sy’n cael ei golli o'n rhwydwaith bob blwyddyn. Mewn gwirionedd dros yr 20 mlynedd diwethaf rydym wedi haneru ein lefelau gollwng ac wedi cyrraedd ein targedau ar gyfer lleihau gollyngiadau bob blwyddyn dros y degawd diwethaf.
Mae gennym dimau allan ym mhob rhan o’n hardal yn canfod ac yn trwsio gollyngiadau cyn gynted â phosibl. I gyflawni hyn:
- Mae gennym ni dros 600 o bobl allan yn canfod a thrwsio gollyngiadau
- Rydym yn canfod ac yn trwsio tua 650 o ollyngiadau bob wythnos
Mae'n werth nodi hefyd fod ein system ddŵr yn 27,000km o hyd sydd tua'r un pellter â hedfan i Awstralia ac yn ôl. Mae llawer ohono'n dyddio'n ôl i oes Fictoria felly mae'n anorfod y bydd gollyngiadau yn ymddangos mewn rhwydwaith o'r oedran a'r maint hwn. Ar hyn o bryd, rydym yn buddsoddi tua £20 miliwn y flwyddyn mewn gwaith i fynd i'r afael â gollyngiadau.
Yn ystod y tywydd sych diweddar a chyn i ni gyhoeddi gwaharddiad pibau dyfrhau rydym wedi cynyddu ein gweithgareddau canfod a thrwsio gollyngiadau er mwyn lleihau colledion o'r rhwydwaith ymhellach. Ledled parth adnoddau dŵr Sir Benfro lle mae'r gwaharddiad yn berthnasol, rydym wedi trosglwyddo cydweithwyr o feysydd gweithredol eraill yn ogystal â chael cefnogaeth contractwyr i gynorthwyo'r ymdrechion hyn. Mae hyn wedi arwain at gynnydd o 70% yn y gweithlu yn yr ardal, sydd yn ei dro yn golygu ein bod bellach yn canfod ac yn trwsio 40% yn fwy o ollyngiadau o'u cymharu â 2021.
Ein nod ar hyn o bryd yw cyrraedd a thrwsio gollyngiadau sy'n cael eu hadrodd i ni o fewn 48 awr. Mae hyn yn wir pan fo’r gollyngiad yn syml i'w drwsio ac nad oes angen i ni gael unrhyw ganiatâd i wneud y gwaith.
Er bod rhai gollyngiadau yn hawdd eu trwsio a gellir gwneud hyn yn gyflym, mae eraill yn fwy cymhleth naill ai oherwydd eu lleoliad neu oherwydd y rheidrwydd i ni gael y caniatâd angenrheidiol i wneud y gwaith. Gallai hyn gynnwys cael caniatâd i roi cyfarpar rheoli traffig ar waith fel bod y tîm a modurwyr yn cael eu cadw'n ddiogel tra bod y gwaith atgyweirio yn digwydd. Mae'n anochel bod y rhain yn cymryd mwy o amser ac er ein bod yn deall y gall pobl deimlo'n rhwystredig, gallwn sicrhau pawb ein bod yn cymryd ein cyfrifoldeb dros drwsio gollyngiadau o ddifrif ac yn diolch i bobl am fod yn amyneddgar.
Y cymorth gorau y gall cwsmeriaid ei gynnig yw rhoi gwybod am unrhyw ollyngiadau i ni cyn gynted ag y byddant yn sylwi arnynt. Gellir rhoi gwybod i ni am y rhain drwy ein gwefan.
Cwsmeriaid busnes
Mae Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (TUB) neu ‘gwaharddiad pibau dyfrhau’ i roi ei enw mwy cyffredin, yn golygu na fyddwch chi’n cael defnyddio piben ddyfrhau i gyflawni gweithgareddau penodol o amgylch yr eiddo. Rydym yn gwybod y gall gwaharddiadau pibau dyfrhau fod yn anghyfleus ac nid yw hwn yn benderfyniad yr ydym wedi ei wneud yn ddi-hid, ond rydym yn cymryd y camau hyn nawr i sicrhau bod gennym ni ddigon o ddŵr i bara tan ddiwedd yr haf ac i mewn i’r hydref.
O dan gyfyngiadau’r TUB, ni chaniateir defnyddio piben ddyfrhau, gan gynnwys defnyddio chwistrellwyr, pibau diferu, systemau dyfrhau awtomatig a dyfeisiau tebyg, ar gyfer y gweithgareddau canlynol:
- Dyfrio’r ardd gyda phiben ddyfrhau
- Glanhau cerbyd modur preifat gyda phiben ddyfrhau
- Dyfrio planhigion ar eiddo domestig neu anfasnachol arall gyda phiben ddyfrhau
- Glanhau cwch hamdden preifat gyda phiben ddyfrhau
- Llenwi neu gynnal pwll nofio, padlo neu dwba twym
- Drawing water, using a hosepipe, for domestic recreational use
- Llenwi neu gynnal pwll dŵr domestig gyda phiben ddyfrhau
- Llenwi neu gynnal ffynnon addurniadol
- Glanhau waliau, neu ffenestri, eiddo domestig gyda phiben ddyfrhau
- Glanhau llwybrau neu batios gyda phiben ddyfrhau
- Glanhau arwynebau awyr agored artiffisial eraill gyda phiben ddyfrhau
Fel busnes, caniateir i chi ddefnyddio piben ddyfrhau os yw at ddibenion masnachol yn uniongyrchol, neu os yw’n angenrheidiol ar gyfer iechyd a diogelwch. Ni chaniateir defnydd nad yw’n hanfodol (fel glanhau llwybr y tu allan i flaen eich eiddo masnachol).
Mae 'gardd' yn cynnwys:
- parc
- unrhyw erddi sy’n agored i’r cyhoedd
- lawnt
- llain las
- ardal o laswellt at ddefnydd chwaraeon neu hamdden
- gardd randir
- unrhyw ardal o randir a ddefnyddir at ddibenion anfasnachol
- unrhyw fan gwyrdd arall
Nid yw 'gardd' yn cynnwys:
- tir amaeth
- tir a ddefnyddir yn fasnachol (h.y. ar gyfer tyfu)
- gardd dros dro neu arddangosfa flodau
- planhigion sydd mewn pot awyr agored neu yn y ddaear, wedi’u gorchuddio
Os ydych chi’n defnyddio mesurydd dŵr ac yn defnyddio llai o ddŵr nag yr ydych chi fel rheol, yna dylai gael ei adlewyrchu ym miliau eich busnes. Os ydych chi’n gwneud tâl sefydlog am flwyddyn, nid yw hwnnw’n newid ni waeth faint o ddŵr yr ydych chi’n ei ddefnyddio neu ddim yn ei ddefnyddio. Ni fydd ein cwsmeriaid busnes yn cael gostyngiad oherwydd gwaharddiad pibau dyfrhau.
Gallech gael dirwy o hyd at £1,000, er ein bod yn gobeithio na fydd angen gwneud hyn os bydd pawb yn cydweithio i arbed dŵr.
Os ydych chi’n defnyddio llawer iawn o ddŵr ar gyfer eich busnes, er enghraifft os ydych chi’n defnyddio piben ddyfrhau ar gyfer glanhau hanfodol, mae’n debygol y bydd eich busnes wedi’i eithrio o’r gwaharddiad. Mae enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys busnesau golchi ceir a glanhawyr ffenestri.
Os ydych chi’n pryderu ynghylch a yw eich busnes wedi’i eithrio o’r gwaharddiad ar bibau dyfrhau, cysylltwch drwy ein gwefan dwrcymru.com/sychder.
Cewch. Os yw eich piben ddyfrhau wedi’i chysylltu â rhywbeth ac eithrio’r prif gyflenwad, fel cyflenwad preifat, e.e. twll turio, yna cewch barhau i’w ddefnyddio.
I gael manylion llawn yr hyn sydd wedi’i gynnwys a heb ei gynnwys yn y gwaharddiad pibau dyfrhau, darllenwch ein hysbysiad cyhoeddus sydd ar gael ar ein gwefan dwrcymru.com/drought.
Os yw eich amgylchiadau wedi’u rhestru yn yr eithriadau cyfredol, nid oes angen i chi wneud dim.
Os ar ôl darllen yr hysbysiad hwn y byddwch yn dymuno gwneud cais am eithriad o’r cyfyngiadau dŵr hyn oherwydd gofyniad nad yw wedi’i amlinellu yn yr eithriadau ar hyn o bryd, anfonwch e-bost atom yn: water.resources@dwrcymru.com.
Bydd y gwaharddiad fel rheol yn para tan fod adnoddau dŵr yn cael eu hail-lenwi – a allai fod o lawer iawn o law, neu o lai o alw am ddŵr.
Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i osgoi’r sefyllfa hon ac mae cyfyngiadau mwy llym nag erioed o’r blaen yn golygu bod safbibellau yn annhebygol.