Gwasanaethau Cartref ar gyfer cwsmeriaid dibreswyl
Rydym yn helpu busnesau i arbed dŵr hefyd! Ar hyn o bryd, rydym yn cefnogi busnesau bach a chanolig drwy nodi ffyrdd y gallan nhw arbed dŵr ac arbed arian ar eu biliau.
Mae’r cymorth rydym yn ei roi yn amrywio o nodi gollyngiadau i argymell dyfeisiau arbed dŵr a’u gosod ac ymweliad effeithlonrwydd dŵr am ddim ar gyfer eich busnes.
Ymweliad effeithlonrwydd dŵr am ddim ar gyfer eich busnes - chofrestru eich diddordeb
Gallwn ymweld â'ch busnes am ddim i'ch helpu i nodi ffyrdd o arbed dŵr ac arian. Gyda chynhyrchion arbed dŵr am ddim, ni fydd yn costio dim i chi a byddant yn cael eu gosod yn ystod yr ymweliad.
Ymweliad effeithlonrwydd dŵr am ddim ar gyfer eich busnes - e-bostiwch ni
Fel arall, e-bostiwch eich enw, math o fusnes a manylion cysylltu.
Dyfeisiau arbed dŵr am ddim eich busnes, mewn partneriaeth â Dŵr Cymru
Os nad ydych chi eisiau ymweliad, gallwch chi gofynnwch am gynhyrchion arbed dŵr am ddim ar-lein.
Amau bod cafn yn gollwng?
Gallwn ni roi gwybod i chi a oes modd ei drwsio am ddim gan arbed arian ac amser i chi. Lawrlwythwch ein taflen yma
Defnyddiwch y ddolen isod i lanlwytho fideo byr o'r broblem ac ateb cwpl o gwestiynau. Bydd un o’n tîm yn edrych ar y fideo ac yn rhoi galwad yn ôl i chi o fewn pum diwrnod gwaith i roi gwybod i chi os gallwn helpu – yn rhad ac am ddim, wrth gwrs!
Os ydych chi'n amau bod cafn yn gollwng, cysylltwch â Cartref@dwrcymru.com gyda'r manylion.
Cefnogi Wolf Studios i leihau eu defnydd o ddŵr 23%, sy’n cyfateb i bron hanner pwll nofio Olympaidd!
Mae Wolf Studios Wales, stiwdio drama teledu flaenllaw 255,000 o droedfeddi sgwâr yng nghanol Caerdydd, wedi penderfynu y byddant yn canolbwyntio ar fentrau cynaliadwyedd y stiwdios yn 2025 ar y daith i ddod yn sero net erbyn 2030. Cliciwch yma i ddarllen mwy.