Ansawdd dŵr yfed
Mae Dŵr Cymru’n darparu dŵr yfed diogel a dibynadwy ar gyfer dros 1.4 miliwn o gartrefi a busnesau.
Cyflenwi dŵr yfed iachus, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn yw ein blaenoriaeth uchaf. Mae hyn yn golygu bod ein dŵr tap yn parhau i fod yn rhydd o gemegau a bacteria niweidiol ac yn blasu’n ddymunol.
Bob blwyddyn, cymerir dros 300,000 o samplau o'n gwaith trin dŵr, cronfeydd dŵr gwasanaeth ac eiddo cwsmeriaid. Bob dydd, mae samplau dŵr yn cael eu cymryd ym mhob rhan o’n system gyflenwi ac yn cael eu dadansoddi yn ein labordai sy’n cynnwys offer o'r radd flaenaf.
Rhaid i'r dŵr rydyn ni'n ei gyflenwi fodloni'r safonau a nodir yn Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018. Os hoffech wybod mwy am yr holl baramedrau rydyn ni'n eu monitro, edrychwch ar ein Adroddiadau Parth Ansawdd Dŵr ar ein gwefan Yn Eich Ardal.
Blas ac Arogl Dŵr
O bryd i’w gilydd, mae cwsmeriaid yn dweud bod eu dŵr yn blasu neu’n arogli’n wahanol i’r arfer.
Ymddangosiad dwr
Mae cyflenwi dŵr yfed o safon uchel yn flaenoriaeth i ni bob amser. Weithiau mae dŵr tap yn gallu edrych yn afliw, yn niwlog neu’n llawn gronynnau bychain bach. Mae gwybodaeth i’ch helpu chi i glustnodi beth allai fod yn achosi’r broblem, y rhesymau pam fod hyn yn digwydd, a beth y gallwn ei wneud i helpu i’w atal.
Caledwch dŵr
Mae ein dŵr tap yn dod o amryw o wahanol ffynonellau, o gronfeydd tir uchel i ddŵr daear o dyllau turio. Bydd hyn yn effeithio ar galedwch y dŵr tap a gyflenwn ar gyfer ein cwsmeriaid. Mae’r wybodaeth isod yn cadarnhau beth yw caledwch dŵr, a sut i gael gwybodaeth am galedwch y dŵr yn eich ardal.
Ansawdd Dŵr yn y Cartref
Yn Dŵr Cymru, mae llawer o amser a gofal yn mynd i ddarparu dŵr o ansawdd uchel sy’n ddiogel i’w yfed ac sy’n blasu’n dda. Ond mae yna bethau sy’n gallu effeithio ar y dŵr wrth iddo fynd trwy’r pibellwaith yn eich cartref. Yn yr adran hon, rydyn ni’n cynnig gwybodaeth ddefnyddiol i ateb rhai o’r ymholiadau mwyaf cyffredin a gawn o ran ansawdd dŵr domestig, fel llysnafedd a staenio, cyngor ar gadw pysgod, a phibellau plwm.
Fideos gwybodaeth am ansawdd dŵr
Rhywbeth yn aflonyddu ar y gwaddodion yn y pibellau dŵr sy’n afliwio’r dŵr fel rheol. Mae hyn yn gallu digwydd os oes angen diffodd y brif bibell ddŵr i wneud gwaith cynnal-a-chadw neu mewn argyfwng.
Mae dŵr afliw yn annhebygol o fod yn niweidiol i iechyd a bydd yn aml yn clirio o fewn munudau wrth i chi redeg y tapiau, ond gallai fod angen hyd at 45 munud iddo glirio’n llwyr.
Trwy ein gwasanaeth Yn Eich Ardal, gallwch ddarganfod a oes unrhyw waith brys neu wedi’i gynllunio yn agos i chi a allai effeithio ar eich cyflenwad dŵr.