Neidio i’r cynnwys

Ymddangosiad dwr


Mae cyflenwi dŵr yfed o safon uchel yn flaenoriaeth i ni bob amser. Weithiau mae dŵr tap yn gallu edrych yn afliw, yn niwlog neu’n llawn gronynnau bychain bach. Mae gwybodaeth isod i’ch helpu chi i glustnodi beth allai fod yn achosi’r broblem, y rhesymau pam fod hyn yn digwydd, a beth y gallwn ei wneud i helpu i’w atal.

Dŵr afliw

Beth sy’n achosi dŵr afliw?

Gronynnau o haearn neu fanganîs sydd wedi dod o brif bibellau dŵr haearn bwrw, ac sydd wedi setlo dros amser yn y rhwydwaith, sy’n achosi dŵr afliw sy’n felyn, yn oren, yn frown gymylog neu’n ddu fel rheol. Mae rhwyg mewn prif bibell ddŵr, galw mawr mewn cyfnodau o dywydd poeth a sych neu gwaith gwella ar ein rhwydwaith, yn cynyddu llif y dŵr, ac mae hyn yn gallu corddi’r llaid. Nid yw’r afliwio’n para mwy na 24 awr fel rheol. Yr unig ffordd o’i glirio yw gadael iddo weithio’i ffordd drwy’r system.

Er nad yw'n edrych yn dda, mae'r lefelau haearn a manganîs a geir mewn dŵr tap afliw yn annhebygol o fod yn niweidiol i'ch iechyd.

Weithiau, problem gyda’r pibellau neu’r plymio y tu fewn i’ch eiddo sy’n achosi’r afliwio. Os yw dŵr eich cymdogion yn glir, a’r dŵr o dap dŵr oer eich cegin yn glir, ond bod dŵr afliw yn dod allan o unrhyw dapiau eraill, mae hynny’n awgrymu bod problem y tu fewn i’ch eiddo. Os felly, dylech gysylltu â’ch plymwr i ofyn am gyngor

Awgrymiadau

  • Rhedwch eich dŵr tap i helpu i fflysio'r dŵr drwyddo. Y rhan fwyaf o'r amser, bydd fflysio'ch tapiau rhwng hanner awr ac awr yn helpu i glirio unrhyw liw anarferol.
  • Peidiwch â golchi unrhyw ddillad gan y gall y lliw yn y dŵr eu staenio. Os bydd hyn yn digwydd, arhoswch nes bod y dŵr yn glir ac yna golchwch eich dillad fel arfer.

Os oes gennych ddŵr afliw yn eich tap cegin ar ôl rhedeg eich tap, cysylltwch â ni. Efallai y bydd angen i ni ddod i fflysio'r system i gyflymu’r broses.