Neidio i’r cynnwys

Help a chymorth mewn digwyddiad


Mae ein timau’n gweithio’n galed i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf ar gyfer ein cwsmeriaid. Sicrhau bod cwsmeriaid yn derbyn gwasanaethau di-dor yw ein blaenoriaeth bennaf.

Mae byrstiau mewn prif bibellau a diffygion ar y rhwydwaith yn gallu achosi toriadau yn eich cyflenwadau. Rydyn ni’n ceisio lleihau’r effaith ar ein cwsmeriaid bob tro a’n nod yw cwblhau’r gwaith trwsio cyn gynted â phosibl.

Sut y byddwn ni’n rhannu gwybodaeth â chi adeg digwyddiad

Byddwn ni’n cyhoeddi’r newyddion diweddaraf ar ein gwefan.

Mae ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu diweddaru’n rheolaidd, a bydd y newyddion diweddaraf ar ein tudalennau X a Facebook – cofiwch ein dilyn ni.

Os oes gennym fanylion cyswllt ar eich cyfer, gallwn gysylltu â chi trwy negeseuon testun, e-bost a llinell dir i roi gwybod i chi pryd y gallwch ddisgwyl i’ch cyflenwad ddychwelyd.

Cofrestrwch i dderbyn negeseuon testun, a rhannwch eich rhif ffôn cyswllt cyfredol â ni yma.

Darparu dŵr amgen adeg digwyddiad

Beth y byddwn ni’n ei wneud

Pan fo digwyddiadau estynedig, byddwn ni’n darparu dŵr potel ar gyfer cwsmeriaid sydd wedi colli cyflenwadau trwy agor gorsafoedd dŵr pwrpasol.

Pan fydd y safleoedd hyn ar agor, byddwn ni’n cyhoeddi eu lleoliad ar ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol, ac yn anfon negeseuon testun a/neu e-bost atoch.

Cadwch lygad ar berthnasau neu gymdogion oedrannus, am y gallai fod angen cymorth arnynt i gael gafael ar ddŵr potel, ac ystyriwch eu cynorthwyo trwy gasglu dŵr ar eu rhan.

Cyfyngiadau ar ddefnyddio dŵr

Os ydyn ni’n cyhoeddi hysbysiad sydd naill ai’n gofyn i chi beidio â defnyddio’ch dŵr, neu ei ferwi cyn ei ddefnyddio, bydd hynny am fod profion yn awgrymu nad yw’r dŵr yn bodloni safonau diogelwch llym.

Byddwn ni’n anfon Hysbysiad Berwi Dŵr/Peidiwch ag Yfed i’r cwsmeriaid o dan sylw yn uniongyrchol ar ffurf neges destun, e-bost a thrwy’r post, gan ddefnyddio unrhyw ofynion fformadu angenrheidiol fel Braille neu brint bras i fodloni eich anghenion os ydyn ni’n ymwybodol ohonynt. Byddwn ni’n rhannu gwybodaeth ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol, a thrwy’r cyfryngau hefyd.

Byddwn ni’n eich hysbysu chi’n uniongyrchol pan fydd eich cyflenwad wedi dychwelyd i’r arfer.

Beth y gallwch ei wneud

Gallech ystyried cadw dŵr potel yn eich cartref i’w ddefnyddio mewn argyfwng. Mae oes hir gan ddŵr potel, a’r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ei storio mewn man oeraidd a thywyll (dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr).

Os ydych chi neu rywun yn eich cartref yn cael triniaeth dialysis, trafodwch y peth gyda’ch tîm meddygol er mwyn sicrhau bod lefelau’r mwynau yn y dŵr potel yn ddiogel i chi.

Gall eich tîm meddygol eich cynorthwyo chi i lunio cynllun wrth gefn syml hefyd, fel eich bod chi’n gwybod beth yn union i’w wneud os oes toriad yn eich cyflenwad dŵr.

Cyngor i aelwydydd â babanod a phlant bach

Bydd y dŵr potel rydyn ni’n ei ddarparu’n bodloni’r un safonau o ran ansawdd dŵr â dŵr tap. Wrth baratoi fformwla babanod, dylid trin y dŵr fel dŵr tap a’i ferwi (i’w sterileiddio) cyn ei ddefnyddio. Dilynwch y linc yma i ddarllen cyngor y GIG ar gyfer paratoi fformwla babanod.

Bydd angen berwi dŵr a brynir gan adwerthwr (i’w sterileiddio) cyn paratoi fformwla babanod hefyd. Cofiwch ddarllen y label cyn ei ddefnyddio. Os yw’r dŵr yn cynnwys mwy na 200 mg/L o sodiwm neu 50 mg/L o sylffad, ni ddylech ei ddefnyddio i baratoi fformwla babanod.

Y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth

Os ydych chi wedi cofrestru ar y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth eisoes, byddwn ni’n eich cynorthwyo yn ystod unrhyw ddigwyddiadau sy’n effeithio ar eich cyflenwad dŵr.


Gallai’r cymorth yma gynnwys:

  • Cymorth pwrpasol yn seiliedig ar eich anghenion unigol,gyda gwahanol haenau er mwyn sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y rhai mwyaf anghenus, fel y rhai sy’n dibynnu ar ddŵr am resymau meddygol, yn gyntaf
  • Cymorth ychwanegol adeg toriadau annisgwyl mewn cyflenwadau neu argyfyngau
  • Cludo dŵr potel i gartrefi ein cwsmeriaid mwyaf bregus cyn pen 12 awr os oes problem gyda’u cyflenwad
  • Darparu rhybudd ymlaen llaw lle bo modd,fel bod gennych chi’r amser i storio dŵr cyn i ni gyflawni unrhyw waith cynlluniedig
  • Gwybodaeth am orsafoedd dŵr lleol sy’n agor yn eich ardal adeg digwyddiad, a darparu rhybudd ymlaen llaw am unrhyw waith
  • Diweddariadau cyson i rannu gwybodaeth am gynnydd â chi nes bod modd adfer eich cyflenwad
  • Cysylltiadau mewn fformatau amgen fel print bras, Braille neu ddogfennau hygyrch
  • Cymorth i gwsmeriaid sy’n dibynnu ar ddŵr ar gyfer offer meddygol hanfodol
  • Tîm pwrpasol sydd wedi cael hyfforddiant i gynorthwyo cwsmeriaid dan amgylchiadau bregus
  • Cysylltiadau cyson er mwyn sicrhau bod gennym wybodaeth gyfredol ar eich cyfer, fel y gallwn ymateb yn gyflym adeg digwyddiadau

Os nad ydych ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth ar hyn o bryd, gallwch gofrestru ar lein yma neu trwy ffonio ein tîm ar 0800 052 0145.

Adnabod ein staff

Mae gan bawb sy’n gweithio dros Ddŵr Cymru Welsh Water gerdyn adnabod, ac maen nhw’n hapus i’w ddangos. Rydyn ni’n gyrru faniau â logo Dŵr Cymru arnynt fel rheol. Rydyn ni’n defnyddio contractwyr weithiau, ac efallai bydd y rhain yn gyrru faniau cwmni gwahanol, ond bydd ganddynt eu cardiau adnabod eu hunain a byddan nhw’n dilyn yr un rheolau â phobl arferol Dŵr Cymru.

Iawndal

Adeg digwyddiad, os nad ydym wedi adfer eich cyflenwad cyn pen 12 awr:

  • Byddwn ni’n talu £30 i’n cwsmeriaid preswyl
  • Ac yn talu £30 pellach am bob 12 awr o doriadau yn eu cyflenwad dŵr wedi hynny

Bydd cwsmeriaid busnes yn derbyn:

  • £75 am y 12 awr cyntaf
  • A £75 pellach am bob 12 awr pellach o doriadau yn eu cyflenwad.

Caiff y taliadau eu prosesu cyn pen 20 diwrnod gwaith. Darllenwch ragor am gymorth adeg digwyddiadau gan Ofwat (rheoleiddiwr economaidd y diwydiant dŵr) CCW (y corff defnyddwyr dŵr).