Cwestiynau am fesuryddion?
Mae ein hadran Cwestiynau Cyffredin yma i helpu. Dim ots a ydych am wybod beth sy’n digwydd cyn, yn ystod neu ar ôl gosod, mae gennym atebion clir i’ch tywys ar bob cam o’r ffordd.
Beth sydd yma
Cyn Gosod
Rydyn ni’n gosod mesuryddion dŵr i’n helpu ni i ganfod gollyngiadau’n gynnar a’u trwsio nhw’n gyflym – er mwyn arbed dŵr a lleihau gwastraff. Mae mesuryddion yn cynnig mwy o reolaeth i gwsmeriaid dros eu defnydd o ddŵr, gyda’r cyfle i arbed arian hefyd os ydyn nhw’n dewis.
Oes. O dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr, mae hawl gennym osod mesuryddion ar ein pibellwaith. Mae’r mesuryddion hyn yn ein helpu ni i ganfod gollyngiadau’n gynnar a chyflawni gwaith trwsio’n gyflym, gan sicrhau bod mwy o ddŵr yn aros yn y rhwydwaith ar gyfer ein holl gwsmeriaid. Dylid nodi na fydd gosod y mesurydd yn effeithio ar sut rydyn ni’n eich bilio chi.
Nac oes. Os nad ydych chi’n talu ar sail mesurydd ar hyn o bryd, ni fydd dim yn newid. Eich dewis chi yn llwyr yw newid i filiau ar sail mesurydd.
Ni fydd hyn yn effeithio arnoch chi, am na fydd dim yn newid gyda’ch bil. Mae’r mesurydd yn cael ei osod er mwyn dod o hyd i ollyngiadau, felly byddwch chi’n parhau i dalu eich taliadau cyfredol. Os dewiswch chi newid i filiau mesuredig, cewch ddwy flynedd i benderfynu ai dyna’r dewis gorau i chi ai peidio. Ac os nad ydych chi’n gweld yr arbedion roeddech wedi gobeithio eu gweld, gallwch newid nôl i’ch taliadau anfesuredig - dim problem.
Os cafodd eich mesurydd cyfredol ei osod mwy na saith mlynedd yn ôl, byddwn ni’n ei uwchraddio yn rhan o’r rhaglen hon. Mae ein mesuryddion newydd yn fwy manwl, a gallant ganfod llif parhaus o ddŵr, sy’n helpu i glustnodi gollyngiadau’n fwy effeithiol.
Mae gan y mesuryddion newydd dechnoleg sy’n gallu canfod llif parhaus o ddŵr - sy’n ein helpu ni i ganfod gollyngiadau. Maen nhw’n gallu cael eu darllen o bell hefyd, felly mae’r broses o ddarllen y mesurydd yn gynt ac yn fwy manwl.
Y tu allan i’r eiddo ger stoptap ein cwmni fel rheol. Os yw’r stoptap y tu fewn i ffin eich eiddo, byddwn ni’n ei osod yno.
Ni ddylai gymryd mwy nag ychydig funudau i osod y mesurydd. Byddwn ni’n curo ar y drws cyn dechrau’r gwaith, ac fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i darfu cyn lleied â phosibl arnoch.
Bydd, bydd angen i ni ddatgysylltu eich cyflenwad dŵr am tua 10-15 munud wrth i ni osod y mesurydd. Byddwn ni’n curo ar y drws cyn dechrau i roi gwybod i chi, ac fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i’w ddatgysylltu am gyn lleied o amser â phosibl.
Mae’r mesurydd yn cael ei osod y tu allan i’ch cartref ar stoptap ein cwmni fel rheol. Os yw’r stoptap yn yr ardd, mae’n bosibl y bydd angen i ni gyrraedd ato. Peidiwch â phoeni - byddwn ni’n curo ar y drws yn gyntaf i roi gwybod i chi ein bod ni yno. Os nad ydych chi adref, byddwn ni’n bwrw ymlaen â’r gwaith, am fod y stoptap yn rhan o’n rhwydwaith ac yn eiddo i DCWW.
Na chewch fel rheol. Mae mesuryddion dŵr yn cael eu gosod y tu allan i’ch eiddo yn amlach na pheidio, ac mae’r gwaith gosod yn gyflym ac yn syml. Nid oes angen i chi fod adref i ni gyflawni’r gwaith. Os yw’r gwaith gosod yn fwy cymhleth, mae’n bosibl y byddwn ni’n trefnu apwyntiad gyda chi.
Byddwn ni’n gosod y mesurydd ar ein stoptap, sydd yn y llwybr y tu allan i’ch eiddo fel rheol. Os oes angen glanhau’r siambr, byddwn ni’n gwneud hynny’n gyntaf. Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi ein bod ni wedi cyrraedd, ac yn datgysylltu eich cyflenwad dŵr am gyfnod byr er mwyn gosod y mesurydd. Ar ôl cwblhau’r cyfan, byddwn ni’n galw nôl i sicrhau bod eich dŵr yn rhedeg fel y dylai.
Byddwn ni’n gosod y mesurydd wrth ymyl ein stoptap allanol, sydd yn y llwybr y tu allan i’ch eiddo fel rheol. Os oes angen glanhau’r siambr, byddwn ni’n gwneud hynny’n gyntaf. Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi ein bod ni wedi cyrraedd, ac yn datgysylltu eich cyflenwad dŵr am gyfnod byr er mwyn gosod y mesurydd. Ar ôl cwblhau’r cyfan, byddwn ni’n galw nôl i sicrhau bod eich dŵr yn rhedeg fel y dylai.
Na fydd, ni fydd hynny’n newid dim. Byddwch chi’n aros ar y tariff cymdeithasol, a byddwn ni’n defnyddio’r mesurydd i helpu i ddod o hyd i ollyngiadau.
Ein nod yw gosod mesurydd y tu allan i bob eiddo lle bo modd. Ond mewn ambell i achos - fel eiddo sy’n rhannu cyflenwadau dŵr neu sydd â threfniadau cymhleth o ran pibellwaith - mae’n bosibl na fydd modd i ni wneud hynny.
Byddwn ni’n anfon llythyr atoch tua mis cyn dod i roi gwybod i chi beth sy’n digwydd. Ar y diwrnod, byddwn ni’n curo ar y drws i roi gwybod i chi ein bod ni yno, ac ar ôl gosod y mesurydd, byddwn ni’n gadael cerdyn i gadarnhau bod y gwaith gosod wedi ei gyflawni.
Mae Adrannau 162 ac 172 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr yn trafod gosod mesuryddion.
Yn ystod Gosod
Byddwn ni’n rhoi gwybod ein bod ni wedi cyrraedd trwy guro ar y drws. Caiff y mesurydd ei osod y tu allan i’ch cartref, ac mae hi’n broses gyflym a syml fel rheol. Bydd angen datgysylltu eich cyflenwad am gyfnod byr - dim mwy na 15 munud. Peidiwch â phoeni, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi cyn ei ddatgysylltu, ac yn rhoi gwybod i chi pan fo modd defnyddio’r cyflenwad eto. Os nad ydych chi adref, byddwn ni’n gadael cerdyn i gadarnhau bod y gwaith gosod wedi ei gyflawni.
Bydd, am tua 10-15 munud wrth i ni osod y mesurydd. Byddwn ni’n curo ar y drws i roi gwybod i chi cyn dechrau’r gwaith.
Byddwn ni’n gosod y mesurydd yn agos at ein stoptap allanol ac yn gadael carden i roi gwybod i chi ein bod ni wedi galw.
Wrth gyrraedd, byddwn ni’n curo ar y drws, yn esbonio pwrpas ein hymweliad, ac yn dangos ein bathodyn adnabod swyddogol i chi fel y gallwch fod yn sicr pwy ydyn ni. Bydd ein timau’n gwisgo gwisg â brand Dŵr Cymru arni, a bydd brand y cwmni ar eu cerbydau hefyd.
Nac oes, does dim angen i chi fod adref. Byddwn ni’n gosod y mesurydd wrth ymyl ein stoptap allanol ac yn gadael cerdyn i roi gwybod i chi ein bod ni wedi galw.
Na fydd, caiff y gwaith ei gyflawni ar ein pibellwaith y tu allan i’ch eiddo. Hyd yn oed os na fyddwch chi adref, byddwn ni’n bwrw ymlaen â’r gwaith am fod y stoptap yn rhan o’n rhwydwaith ac yn eiddo i Ddŵr Cymru.
Os na allwn ni osod mesurydd adeg yr ymweliad cyntaf, mae’n bosibl y bydd angen i ni ddychwelyd rhywbryd eto. Byddwn ni’n cysylltu â chi ymlaen llaw.
Os nad ydych chi adref, byddwn ni’n gadael cerdyn i roi gwybod i chi ein bod ni wedi galw ac wedi gosod mesurydd. Bydd angen i chi redeg tap dŵr oer lawr llawr am funud, neu ychydig bach yn fwy, nes bod y dŵr yn rhedeg yn glir.
Rydyn ni’n tynnu lluniau at ddibenion sicrhau ansawdd yn unig. Maen nhw’n ein helpu ni i gadarnhau bod y mesurydd wedi cael ei osod yn yr eiddo cywir, a bod yr holl safonau angenrheidiol o ran hylendid a diogelwch wedi cael eu dilyn. Ni fyddwn ni’n defnyddio’r lluniau hyn at unrhyw ddiben arall.
Ar ôl Gosod
Gall! Trwy fonitro eich defnydd, gallwch ddod o hyd i ffyrdd o leihau eich defnydd o ddŵr. Os dewiswch chi symud i filiau mesuredig, gallech dalu llai nac ar dariff heb fesurydd yn dibynnu ar eich defnydd. Mae dros hanner ein cwsmeriaid eisoes wedi dewis biliau mesuredig er mwyn helpu i arbed arian. Trwy gadw llygad ar eich defnydd o ddŵr, gallwch ddod o hyd i ffyrdd syml o dorri nôl. Os dewiswch chi newid, gallech dalu llai nag yr ydych chi ar eich tariff cyfredol heb fesurydd - yn dibynnu faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio wrth gwrs.
Na fyddwn oni bai eich bod chi’n gofyn i ni wneud hynny. Bydd y mesurydd yn cofnodi eich defnydd, a fydd yn ymddangos ar eich bil, a mater i chi yw dewis a ydych am newid i filiau mesuredig ai peidio. Gallwch gymharu eich taliadau cyfredol â’ch biliau mesuredig posibl. Mewngofnodwch neu cofrestrwch ar gyfer Fy Nghyfrif i gael rhagor o fanylion yn www.dwrcymru.com/fynghyfrif .
Cewch. Os dewiswch chi newid i filiau mesuredig, cewch ddwy flynedd i benderfynu ai dyna’r dewis gorau i chi. Os nad ydych chi’n gweld yr arbedion roeddech wedi gobeithio eu gweld, gallwch newid nôl i’ch taliadau anfesuredig - dim problem. Mae newid i filiau ar sail mesurydd yn broses gyflym a didrafferth, cysylltwch â ni a byddwn ni’n gwneud y gweddill.
Na chewch yn anffodus. Mae’r mesurydd yn cael ei osod ar ein stoptap am fod y tap yma’n rheoli’r cyflenwad dŵr o’r brif bibell. Trwy osod y mesurydd yma, gallwn sicrhau ein bod ni’n mesur gollyngiadau’n fanwl gywir.
Pan fo mesurydd dŵr wedi ei osod mewn eiddo, caiff unrhyw ddeiliad neu brynwr newydd ei filio ar sail darlleniadau go iawn o’r mesurydd yn awtomatig. Mae’r ddogfen a ddarperir yn ystod chwiliadau o’r eiddo, sy’n cael eu cyflawni gan gyfreithiwr y prynwr fel rheol, yn amlinellu’r gofyniad hwn.
Dydyn ni ddim yn rhagweld unrhyw broblemau gyda’ch cyflenwad am fod gosod mesurydd yn waith pob dydd. Fodd bynnag, os cewch unrhyw broblemau ar ôl y gwaith gosod, rhowch wybod i’n tîm ar unwaith. Byddan ni’n ymchwilio ac yn datrys y broblem cyn gynted â phosibl. Byddwn ni’n gadael cerdyn galw sy’n cynnwys manylion cysylltu os nad ydych chi adref.
Nac oes. Mae’r mesurydd wedi cael ei osod er mwyn helpu i glustnodi gollyngiadau ar y rhwydwaith ac i helpu i ddarparu gwasanaeth dŵr cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. O dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr, mae hawl cyfreithiol gennym i osod mesurydd ar ein pibellwaith. Mae’r gwaith gosod yma’n cael ei gyflawni at ddibenion canfod gollyngiadau a hybu effeithlonrwydd dŵr yn bennaf.
Os ffeindiwn ni fod dŵr yn gollwng, byddwn ni’n ymchwilio i’r peth ac yn cysylltu â chi. Mae rhagor o gynghorion ar ddelio â gollyngiadau yma.
Mae mesurydd dŵr yn cynnig gwell rheolaeth i chi dros eich defnydd o ddŵr, gan eich helpu chi i reoli a lleihau eich defnydd gartref. Cewch weld eich defnydd ar eich bil - boed hynny ar lein trwy Fy Nghyfrif neu ar fil papur - a phenderfynu a fyddwch yn arbed arian trwy newid i filiau mesuredig.
Mae hi’n gyfle gwych i ystyried eich opsiynau a lleihau eich costau o bosibl - chi biau’r dewis.
Cewch weld eich defnydd o ddŵr ar eich bil - naill ai ar lein trwy FyNghyfrif neu ar eich bil papur - a phenderfynu ai newid i fil mesuredig yw’r dewis gorau i chi. Gallwch gymharu eich taliadau cyfredol â’r swm y gallech ei dalu gyda bil mesuredig. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma.
Mae gan y mesuryddion newydd dechnoleg sy’n gallu canfod llif parhaus o ddŵr - sy’n helpu i ganfod gollyngiadau. Mae mesuryddion dŵr yn gallu helpu i ganfod gollyngiadau’n gynnar. Os yw eich defnydd i’w gweld yn anarferol o uchel, neu os yw’r mesurydd yn cofnodi llif cyson, gallai hynny awgrymu bod dŵr yn gollwng. Bydd hyn yn caniatáu i ni gyflawni gwaith trwsio’n gynnar gan osgoi difrod diangen. Maen nhw’n gallu cael eu darllen o bell hefyd, felly mae’r broses o ddarllen y mesurydd yn gynt ac yn fwy manwl.
Peidiwch â phoeni os oes lliw od neu niwlog ar eich dŵr, gadewch i dap dŵr oer y gegin redeg am ychydig funudau a dylai glirio’n rhwydd. Sicrhewch fod y dŵr yn glir cyn defnyddio’r dŵr poeth, neu bethau fel eich peiriant golchi.
Os gallwch chi, ffeindiwch eich stoptap mewnol a’i gau cyn ei agor eto. Rhedwch y tap dŵr oer yn y gegin a dylai eich cyflenwad ddychwelyd i normal. Os nad yw hynny’n datrys y broblem, cliciwch yma neu cysylltwch â’n llinell argyfwng ar 0330 0413 328.
Na fydd, ni fydd hynny’n newid dim. Byddwch chi’n aros ar y tariff cymdeithasol, a byddwn ni’n defnyddio’r mesurydd i helpu i ddod o hyd i ollyngiadau.
Ydy. Nid yw’r mesurydd yn storio unrhyw fanylion personol fel eich enw, cyfeiriad neu’ch manylion banc. Dim ond eich defnydd o ddŵr sy’n cael ei gofnodi, ac mae’n anfon y data atom wrth i ni gymryd darlleniadau fel y gallwn ddarparu biliau manwl gywir ar eich cyfer chi.
Na fydd. Batri sy’n gyrru’r mesurydd ac mae’n ased Dŵr Cymru felly ni fydd yn defnyddio cyflenwad ynni eich cartref.
Nac ydy. Mae ein mesuryddion yn anfon darlleniadau at ein darllenwyr mesuryddion a fydd yn cymryd darlleniad wrth gerdded neu yrru heibio. Dydyn nhw ddim yn anfon darlleniadau at rwydweithiau fel mesuryddion Nwy a Thrydan, ac nid oes sgrin i ddangos darlleniadau yn eich cartref.
Na all, cofnodi’r defnydd o ddŵr yn unig mae’r mesurydd, nid yw’n cyfyngu ar ddefnydd.
Bydd angen i chi redeg tap dŵr oer lawr llawr am funud neu ragor nes bod y dŵr yn rhedeg yn glir.