Neidio i’r cynnwys

Y Rhaglen Mesuryddion


Mae ein rhaglen uchelgeisiol i uwchraddio a gosod mesuryddion dŵr ledled Cymru a rhannau o Loegr yn dechrau yng nghanol 2025 a bydd yn helpu ein cwsmeriaid i arbed dŵr yn eu cartrefi.

Rydyn ni’n Uwchraddio Mesuryddion Dŵr ar draws Cymru a rhannau o Loegr

Yn rhan o’n hymrwymiad i wella gwasanaethau dŵr ac amddiffyn yr adnodd hollbwysig yma, rydyn ni wedi lansio rhaglen uchelgeisiol i uwchraddio a gosod mesuryddion dŵr ar draws Cymru a rhannau o Loegr. Dechreuodd y fenter hon yn Ebrill 2025 a’i fwriad yw helpu cwsmeriaid i feithrin gwell dealltwriaeth o’u defnydd o ddŵr, a’n galluogi ni i ganfod a lleihau gollyngiadau’n fwy effeithiol.

Nid oes angen i chi wneud dim - Ni fydd eich bil yn newid

Nid oes angen i chi wneud dim, ac ni fydd y gwaith yn effeithio ar sut rydyn ni’n eich bilio chi.

Rydyn ni am sicrhau ein holl gwsmeriaid na fydd sut rydyn ni’n eu bilio’n newid dim:

  • Os nad ydych chi’n cael eich bilio ar sail mesurydd dŵr ar hyn o bryd, ni fydd hynny’n newid.
  • Os ydych chi eisoes yn cael eich bilio a sail mesurydd dŵr, yna bydd hynny’n parhau.

Bydd eich trefniadau talu’n aros yr un fath, ac nid oes angen i chi wneud dim.

Os ydych chi’n cael eich bilio ar sail tariff HelpU neu WaterSure Cymru, ni fydd hynny’n newid.

Pam ydyn ni’n gosod mesuryddion?

Dŵr yw un o’n hadnoddau mwyaf gwerthfawr. Gyda galw cynyddol am ddŵr yn sgil twf yn y boblogaeth ac effeithiau newid hinsawdd, mae hi’n bwysicach nac erioed ei reoli’n ddoeth. Trwy osod ac uwchraddio mesuryddion, gallwn ni:

  • Fonitro a lleihau gollyngiadau’n fwy effeithiol ar draws ein rhwydwaith.
  • Sicrhau cyflenwad mwy dibynadwy o ddŵr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Cynorthwyo cwsmeriaid i ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon gartref.

Sut gallai mesurydd eich helpu chi?

Hyd yn oed os nad yw’r dull o’ch bilio’n newid, daw nifer o fuddion o gael mesurydd dŵr:

  • Mae arbed dŵr yn arbed arian - Traciwch eich defnydd ac, os dewiswch chi newid i filiau ar sail mesurydd, gallai’ch bil dŵr fod yn is.
  • Ffeindio gollyngiadau’n gynnar – Mae mesuryddion yn helpu i ganfod gollyngiadau’n gyflym, fel bod modd eu trwsio cyn iddyn nhw droi’n broblemau costus.
  • Amddiffyn yr amgylchedd – Mae defnyddio dŵr yn fwy effeithlon yn helpu i leihau allyriannau carbon ac yn helpu i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy.

Beth i’w ddisgwyl yn ystod y gwaith gosod

Byddwn ni’n gosod neu’n uwchraddio’ch mesurydd dŵr ar ein pibellwaith y tu allan i’ch cartref. Mae hyn yn broses gyflym a didrafferth, ac ni ddylai darfu fawr ddim arnoch chi.

Eiddo Dŵr Cymru yw’r mesurydd, y pibellwaith cysylltiedig a’r stoptap, a byddwn ni’n cynnal y rhain. Mae gennym ni’r hawl i osod mesuryddion at ddibenion monitro gollyngiadau, a’u cyrchu pan fo angen.

Ymhle fyddwn ni’n gweithio?

Rydyn ni’n gweithio mewn nifer gynyddol o gymunedau ar draws De Cymru. Pan fyddwn ni’n barod i ymweld â’ch ardal chi, byddwn ni’n ysgrifennu atoch i rannu’r holl fanylion.

A Welsh Water employee working on installing a water meter

Cwestiynau am fesuryddion?

Mae ein hadran Cwestiynau Cyffredin yma i helpu. Dim ots a ydych am wybod beth sy’n digwydd cyn, yn ystod neu ar ôl gosod, mae gennym atebion clir i’ch tywys ar bob cam o’r ffordd.

Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin
Rydyn ni’n gosod mesuryddion dŵr

I ddarllen rhagor am fesuryddion dŵr

PDF, 546.4kB