Neidio i’r cynnwys

Siarad Cymraeg?

Oeddech chi’n gwybod bod cofrestru’r Gymraeg fel iaith eich dewis ar eich cyfrif gyda ni? Mae hi’n rhwydd - llenwch ein ffurflen syml a chewch unrhyw ohebiaeth bersonol gennym ni yn Gymraeg!

Help gyda’ch biliau


Mae gennym nifer o ffyrdd y gallem o bosibl eich helpu a gwneud eich biliau'n fwy fforddiadwy.

Pa opsiynau cymorth sydd ar gael ar gyfer rheoli fy miliau?

Courtney sy’n esbonio pa gymorth ariannol ac anariannol y gall Dŵr Cymru ei ddarparu.

Methu gweld y fideo? I lwytho a gwylio’r fideo isod, bydd angen i chi droi’r cwcis ymlaen. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis yma.

Angen help ychwanegol gyda'ch bil?

Edrychwch ar ein cynlluniau a'n tariffau sy’n rhoi cymorth ychwanegol, a allai eich helpu o bosibl os ydych chi'n derbyn budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel.

Mae ein cynlluniau a'n tariffau yn cael eu creu i ostwng eich bil a helpu i glirio unrhyw ddyled ar eich cyfrif.
Rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau cymorth a'n tariffau

Lleihau eich bil

Gwasgaru cost eich bil

Gallwch chi dalu drwy randaliadau bob wythnos, mis, neu 6 mis, yn hytrach na thalu’n llawn pan fyddwch yn derbyn eich bil. Mae’n well gan y rhan fwyaf o’n cwsmeriaid dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol gan ei fod yn gwasgaru’r gost yn ddi-dâl, mae’r taliadau’n cael eu cymryd yn awtomatig ac wedi’u cynnwys yn ein gwarant Debyd Uniongyrchol. Fel arall, gallwch chi sefydlu cerdyn talu os nad yw debyd uniongyrchol yn addas i chi.

Arbedwch arian gyda mesurydd dŵr

Os ydych chi'n byw ar eich pen eich hun, ddim yn defnyddio llawer o ddŵr, neu eisiau lleihau eich bil, yna efallai y byddwch yn arbed arian drwy osod mesurydd dŵr , fel y byddwch chi ond yn talu am y dŵr yr ydych chi'n ei ddefnyddio. If you already have a water meter then you can save money by saving water, more information on how to be efficient with water is available here.

Gofyn am seibiant talu tymor byr

Os yw eich problem ond yn un tymor byr, a bod angen ychydig o gymorth arnoch, gallwn leihau neu atal taliadau dros dro. Gallwch wneud cais am gymorth tymor byr ar-lein a byddwn yn adolygu eich amgylchiadau ac yn eich ffonio'n ôl gydag opsiynau sy'n addas i chi. Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Os oes arnoch arian i ni eisoes, wedi cael eich cysylltu gan Asiantaeth Casglu Dyledion neu wedi derbyn llythyrau ôl-ddyledion...

Gwyddom y gall bod mewn dyled fod yn straen a gall fod yn anodd gwneud yr alwad gyntaf. Dyma sut y gallwn ni helpu os ydych mewn ôl-ddyledion ar eich cyfrif.

Gofyn am alwad yn ôl am gynlluniau talu personol

Dywedwch wrthym beth yw eich amgylchiadau a'ch manylion cyswllt a byddwn yn adolygu eich cyfrif ac yn paratoi'r opsiynau gorau i chi. Yna bydd un o'n cynghorwyr cyfeillgar yn eich galw'n ôl i gytuno ar ffordd addas ymlaen. Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Os oes Asiantaeth Casglu Dyledion wedi cysylltu â chi

Rydym yn gweithio gydag Asiantaethau Casglu Dyledion i gysylltu â chwsmeriaid a chasglu taliadau ar ein rhan. Os ydych wedi derbyn llythyr ganddynt, y peth gorau i'w wneud yw ymateb iddynt drwy'r dulliau cyswllt yn y llythyr. Bydd eu cynghorwyr cyfeillgar wrth law i weithio gyda chi mewn ffordd anfeirniadol i'ch cael yn ôl ar y trywydd iawn