Ein proses casglu dyledion
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth, ac atebion i gwestiynau cyffredin, am ein prosesau cyfreithiol a chasglu dyledion.
Ar gyfer ein polisi ynghylch costau heb eu talu a chasglu dyledion, gweler ein Cod Ymarfer isod.
Methdaliad
Mae'n bosibl, mewn rhai sefyllfaoedd, i ni wneud cais i wneud rhywun yn fethdalwr er mwyn adennill dyled.
Gorchmynion Arwystlo
Mae Gorchymyn Arwystlo yn gwarantu’r ddyled yn erbyn eich cartref neu unrhyw eiddo arall yr ydych yn berchen arno.
Ffurflen hawlio
Mae Ffurflen Hawlio yn ddogfen gyfreithiol ffurfiol a ddefnyddir i wneud hawliad yn y Llys Sirol.
Gorfodaeth yr Uchel Lys
Mae gorfodaeth gan yr Uchel Lys yn ddull o adennill dyled dyfarniad.
Llythyr hawlio
Mae'r Llys yn ei gwneud yn ofynnol i ni anfon y llythyr hwn cyn y gallwn gyhoeddi hawliad yn eich erbyn.
Gorchymyn holi
Ar ôl i ni gael dyfarniad hoffem wybod mwy am eich amgylchiadau ariannol cyn penderfynu beth i'w wneud nesaf.
Cysylltwch â’n tîm dyledion
Siaradwch â chynghorydd
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch talu eich bil dŵr, siaradwch â’n cynghorwyr cyfeillgar.
8am i 6pm Llun i Gwener. Mae hwn yn rhif ffôn di-dâl.