Neidio i’r cynnwys

Ymunwch â Dŵr Cymru a byddwch chi’n ymuno â thîm o dros 3500 o gydweithwyr sydd oll yn gweithio i ddarparu gwasanaeth hanfodol ar gyfer dros 3 miliwn o gwsmeriaid ar draws Cymru a rhannau o Sir Henffordd. Gallwch ddisgwyl bod yn rhan o ddiwylliant llewyrchus a chynhwysol, lle mae ein timau yn cael eu herio, yn cael cyfleoedd i ddysgu, datblygu, ac yn fwy na dim - mwynhau beth maen nhw’n ei wneud! A hynny oll wrth weithio dros gwmni nid-er-elw sydd wrth galon ein cymunedau lleol, sy’n ennill ffydd ein cwsmeriaid bob un dydd, ac yn cyfoethogi ac amddiffyn yr amgylchedd naturiol lle’r ydyn ni’n byw. Os hoffech chi fod yn rhan o’n tîm, cofiwch gysylltu.

Ymgeisiwch nawr

Lleoliadau Canolfannau Cyswllt

Linea

Ein prif swyddfa yn Llaneirwg, Caerdydd.

Parc Cinmel

Ein canolfan gyswllt newydd yn y gogledd ym Modelwyddan.

Amrywiaeth gwych o fuddion

Yn ogystal â chyflog cystadleuol a 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata), rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o fuddion i weithwyr gan gynnwys:

  • Cynlluniau tâl amrywiol
  • Cyfraniadau cyflogwr uwch at bensiynau
  • Gostyngiadau ar aelodaeth o gampfa ac yn siopau’r stryd fawr
  • Cynllun beicio i’r gwaith, Cynllun prydlesu car a cynllun iechyd arian-yn-ôl
  • Rhaglen cymorth i weithwyr ar gyfer gweithwyr a’u teuluoedd uniongyrchol
  • Mae modd mynd i ystafell aml-ffydd, ystafell rhieni sy’n dychwelyd a chyfleusterau niwtral o ran rhywedd ym mhob rhan o’r safle.
  • Mae llawer o grwpiau rhwydweithio â diddordeb penodol ar gael i’ch cysylltu chi â chydweithwyr tebyg o bob rhan o grŵp ehangach Dwr Cymru.
  • Parcio hygyrch am ddim ar y safle ym mhob un o’n safle.

A llawer iawn mwy.

UK national contact centre awards

Tîm arobryn

Rydym wrth ein boddau i fod wedi ennill gwobr aur am y 'profiad mwyaf effeithiol i gyflogai newydd' yng ngwobrau cenedlaethol canolfannau cyswllt y DU 2023.

Rydyn ni am i chi fod y gorau y gallwch fod yn y gwaith, ac yn gyfnewid, byddwn ni’n darparu’r offer a’r cymorth i’ch cynorthwyo i wneud gwahaniaeth. Mae ein gweledigaeth fel tîm isod:

Yn eich dathlu chi

  • Rydyn ni’n hyrwyddo ac yn dathlu cyfleoedd cyfartal i bawb
  • Mae gan bob unigolyn y cyfle i wireddu eu potensial
  • Rydyn ni’n dathlu’r pethau sy’n eich gwneud chi’n unigryw

Yn gwrando arnoch

  • Rydyn ni am i chi gael eich clywed
  • Mae ein diwylliant yn ymbweru creadigrwydd ac arloesedd
  • Rydyn ni’n hyrwyddo bod yn agored ac yn onest
  • Rydyn ni’n eich cynnwys chi wrth ddod o hyd i atebion i wella ein ffyrdd o weithio a siwrnai ein cwsmeriaid

R’yn ni yma i chi

  • Rydyn ni am ddathlu eich llwyddiannau a’ch cynorthwyo trwy sialensiau, oherwydd rydyn ni’n cydnabod bod pawb yn ddynol a dyw bywyd byth yn sefyll yn stond
  • Rydyn ni’n cael hwyl ac yn gweithio gyda’n gilydd fel tîm
  • Byddwn ni’n rhoi’r amser a’r offer i chi gyflawni eich potensial

Siwrnai’r Ymgeisydd

R’yn ni’n gwybod bod ymgeisio am swydd yn gallu bod yn ddigon i ddrysu rhywun. Rydyn ni wedi cynnwys ambell i awgrym yma i wneud y broses recriwtio ychydig bach yn llai cymhleth.

Mae eich dyfodol yn dechrau fan hyn