Neidio i’r cynnwys

Hysbysiad Berwi Dŵr


Mae ein canllawiau cyffredinol isod yn nodi’r hyn y dylid ei wneud os yw Hysbysiad Berwi Dŵr yn effeithio ar eich cyflenwad dŵr.

Beth yw hysbysiad berwi dŵr?

Ein nod bob amser yw cyflenwi dŵr yfed o safon uchel iawn, ac i wneud hyn rydym yn cynnal profion rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod yn parhau felly. Gall gwiriadau monitro ddangos y gallai eich cyflenwad dŵr fod wedi gostwng yn is na'n safonau uchel arferol. Dyma pryd y bydd hysbysiad berwi dŵr yn cael ei gyhoeddi.

Cynghorir pob cwsmer yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt i ferwi eu dŵr ar unwaith cyn ei ddefnyddio at ddibenion yfed neu goginio.

Rydym yn sylweddoli pa mor anghyfleus yw gorfod berwi dŵr, ond gobeithio y bydd cwsmeriaid yn deall y rheswm dros gymryd y camau angenrheidiol hyn.

Sut fyddaf yn gwybod a ydw i wedi fy effeithio?

Os yw'ch eiddo yn yr ardal sydd wedi’i heffeithio, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol trwy neges destun a/neu lythyr. Gallwch hefyd ddefnyddio Yn Eich Ardal i wirio a ydych chi wedi eich effeithio a chael yr wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf dibynadwy.

Beth allem ni ofyn i gwsmeriaid ei wneud pan fyddwn yn cyhoeddi hysbysiad berwi dŵr?

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n berwi dŵr yfed — a chofiwch bod angen i chi ferwi'ch dŵr ar gyfer:

  • Paratoi bwyd
  • Bwydo babanod
  • Glanhau'ch dannedd
  • Gwneud iâ

Peidiwch:
PEIDIWCH ag yfed eich dŵr tap heb ei ferwi yn gyntaf
PEIDIWCH â defnyddio dŵr tap i baratoi bwyd heb ei ferwi yn gyntaf
PEIDIWCH â defnyddio dŵr tap i lanhau'ch dannedd heb ei ferwi yn gyntaf
PEIDIWCH â pharatoi bwyd babi gyda dŵr heb ei ferwi yn gyntaf

Gallwch:
Gallwch ddefnyddio dŵr tap i fflysio'ch toiled
Gallwch ddefnyddio dŵr tap i olchi neu ymdrochi

Ein llinell gyswllt brys

Siarad â chynghorydd

Os hoffech rywfaint o gyngor, ffoniwch ni i siarad â'n cynghorwyr cyfeillgar.

0800 052 0130

Mae'r llinellau ar agor 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos