Neidio i’r cynnwys

Tywydd Sych

Canolbarth a De Ceredigion – Gwaharddiad Defnydd Dros Dro

‘O DYDDIAD AMSER, rydyn ni’n datgan y bydd Gwaharddiad Defnydd Dros Dro, sy’n aml yn cael ei alw’n waharddiad pibell ddŵr, yn weithredol i gwsmeriaid Canolbarth a De Ceredigion a rhannau cyffiniol o Ogledd Sir Benfro a gogledd Sir Gâr o DYDDIAD.’

Reservoirs serving Mid & South Ceredigion are approaching drought levels. This means we will be moving to Stage 3, Drought status from XXX July.

Mae cyfyngiadau dŵr yn weithredol yn yr ardal i ddiogelu cyflenwadau.

Mae hyn yn golygu ein bod ni bellach yng Ngham 3 (o 6) ar gyfer yr ardal hon - Sychder.

Mae'r tywydd sych wedi parhau, gyda Chymru a gweddill y DU yn profi'r (Mehefin poethaf ar gofnod.) Mae lefelau cronfeydd dŵr wedi parhau i ostwng yn ystod y cyfnod hwn.

Nid yw'r glaw ysbeidiol diweddar yn yr ardal wedi bod yn ddigon i wneud gwahaniaeth i lefelau'r cronfeydd dŵr. Mae’r adnoddau dŵr yn is nag y byddem yn ei ddisgwyl ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn.

Camau Sychder

Cam 1 - Gweithrediad Arferol

Mae’r amodau’n sych ac mae’r rhagolygon yn addo tywydd sych a braf parhaus. Mae’r adnoddau dŵr yn dechrau dangos arwyddion fod sychder yn datblygu, ond mewn ardaloedd lleol iawn yn unig.

Actif | Cam 3 - Sychder

Oherwydd cyfnod hir o dywydd sych, mae adnoddau dŵr yn is nag y byddem yn ei ddisgwyl ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn. I ddiogelu cyflenwadau, mae gwaharddiad ar ddefnydd dros dro (neu waharddiad pibell ddŵr) mewn grym fel cam angenrheidiol mewn rhai ardaloedd.

Mae parhad y tywydd sych estynedig yn golygu bod yr adnoddau dŵr yn isel dros ben. Rhoddir mesurau ychwanegol ar waith i gynnal cyflenwadau ar gyfer cwsmeriaid lle mae mesurau defnydd dros dro yn gweithredu.

Mae’r adnoddau dŵr wedi cyrraedd lefelau lle mae hi’n amhosibl cynnal cyflenwad rheolaidd ar gyfer cwsmeriaid ac felly mae angen rhoi mesurau argyfwng ar waith. Gallai hynny gynnwys defnyddio safbibellau, a thoriadau mewn cyflenwadau dŵr ar adegau penodol, neu fesurau helaeth i reoli’r pwysedd wrth ystyried yr effaith bosibl ar ansawdd dŵr o fewn ardaloedd penodol ar ein rhwydwaith cyflenwi dŵr.

Ar bwy fydd hyn yn effeithio?

Mae'r ardal yr effeithir arni yn ymestyn ar draws Canolbarth a De Ceredigion, rhannau o Ogledd Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Mae'n cynnwys 32,000 eiddo o Lanon, Llangwyryfon a Chwm Ystwyth yng Ngheredigion, i lawr i Grymych, Llanfyrnach a Nanhyfer yng ngogledd Sir Benfro ac mae'n cynnwys rhannau o ogledd Sir Gaerfyrddin i lawr i Ffarmers, Pencader a Hermon.

I weld a fydd unrhyw effaith ar eich ardal chi, defnyddiwch y gwiriwr cod post hwn.

O ble mae'r dŵr ar gyfer yr ardal hon yn dod?

Mae rhwydwaith dŵr yr ardal yn cael ei gyflenwi gan gronfeydd dŵr Llynnoedd Teifi ar ymyl orllewinol Mynyddoedd Cambria a dŵr sy’n cael ei dynnu o afon Teifi yn Llechryd.

Ni fyddai’n ymarferol symud dŵr i’r ardal o gronfeydd eraill Cymru, a hynny oherwydd tirwedd yr ardal ac oherwydd yr anawsterau a’r gost sydd ynghlwm â phwmpio llawer iawn o ddŵr o gwmpas y wlad.

Pam mae hyn yn digwydd?

Mae lefelau’r cronfeydd dŵr hyn bellach tua 31% yn is na'r llynedd ac mae hyn yn golygu bod yr ardal mewn Sychder. Dim ond 37% o'r glawiad cyfartalog hirdymor disgwyliedig y mae cronfeydd dŵr Llynnoedd Teifi wedi’i weld rhwng Chwefror ac Ebrill.

Mae'r tir mawnog o amgylch y cronfeydd dŵr hyn yn cadw dŵr ac yn rhyddhau dŵr yn ôl i’r amgylchedd yn arafach nag ardaloedd eraill. Nid yw’r glaw dros y pythefnos diwethaf wedi gwneud fawr ddim i wella'r sefyllfa yma.

The recent intermittent rainfall has not been enough to make a difference to reservoir levels.

Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (Gwaharddiad Pibell Ddŵr)

Mae Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (GDDD), neu ‘waharddiad pibell ddŵr’ ar lafar gwlad, yn golygu na chewch chi ddefnyddio pibell ddŵr ar gyfer gweithgareddau penodol o amgylch eich cartref.

Under the TUB restrictions, the use of a hosepipe, including using sprinklers, dripper hoses, automatic irrigation systems and similar devices, is not allowed for the following activities:

Defnydd sydd wedi’i Wahardd

Mae’r defnydd o bibell ddŵr, gan gynnwys chwistrellwyr, pibellau diferu, systemau dyfrio awtomatig a dyfeisiau tebyg, wedi’i wahardd ar gyfer y canlynol:

  1. Dyfrio gardd gan ddefnyddio pibell ddŵr
  2. Defnyddio pibell ddŵr i roi dŵr i blanhigion sydd mewn potyn tu allan neu yn y ddaear, dan do ar safle domestig neu anfasnachol arall
  3. Tynnu dŵr, gan ddefnyddio pibell ddŵr, at ddefnydd hamdden domestig
  4. Glanhau cerbyd modur preifat gan ddefnyddio pibell ddŵr
  5. Glanhau cwch hamdden preifat gan ddefnyddio pibell ddŵr
  6. Glanhau waliau neu ffenestri eiddo domestig gan ddefnyddio pibell ddŵr
  7. Glanhau llwybrau neu batios gan ddefnyddio pibell ddŵr
  8. Glanhau arwynebau awyr agored artiffisial eraill gan ddefnyddio pibell ddŵr
  9. Llenwi neu gynnal lefel dŵr pwll nofio neu bwll padlo domestig
  10. Llenwi neu gynnal lefel dŵr pwll dŵr domestig gan ddefnyddio pibell ddŵr
  11. Llenwi neu gynnal lefel dŵr ffynnon addurniadol

Sylwch y gall cwsmeriaid barhau i wneud y gweithgareddau uchod gyda’r prif gyflenwad dŵr drwy ddefnyddio bwced neu gan dŵr; neu ddefnyddio dŵr nad yw'n dod o'r prif gyflenwad fel dŵr llwyd, dŵr glaw o gasgen ddŵr trwy bibell ddŵr, neu dyllau turio preifat, er enghraifft.

Beth sy'n digwydd yn ystod y cam hwn?

Gan fod sychder wedi'i ddatgan ar gyfer eich ardal chi, rydyn ni’n cymryd camau pellach i arbed a chyflenwi dŵr, gan gynnwys cyflwyno cyfyngiadau ar ddefnydd – Gwaharddiadau Defnydd Dros Dro.

Beth rydyn ni'n ei wneud:

  • Rydyn ni’n gweithredu Gwaharddiad Dros Dro ar ddefnyddiau penodol o ddŵr
  • Paratoi i ddefnyddio cynlluniau ychwanegol i gael dŵr ychwanegol i mewn i’r cyflenwad
  • Cyfathrebu mwy
  • Parhau â'n holl weithgareddau cyflenwi blaenorol
  • Gwneud cais am orchmynion sychder a thrwyddedau sychder i naill ai gyfyngu ymhellach ar ddefnydd cwsmeriaid o ddŵr neu gymryd mwy o ddŵr o'r amgylchedd
  • Cynnydd pellach mewn gwaith i ddod o hyd i ollyngiadau a'u trwsio

Beth rydyn ni'n ei wneud i ddiogelu cyflenwadau/h3>

Mae ein timau'n gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn cymryd pob cam posibl i wneud defnydd mor effeithlon â phosibl o ddŵr ar draws ein hardaloedd gweithredu, gan gynnwys:

  • Canfod a thrwsio gollyngiadau i leihau faint o ddŵr sy'n cael ei golli o'r rhwydwaith. Mae timau'n gweithio ledled y wlad yn trwsio gollyngiadau cyn gynted â phosibl. Ar hyn o bryd mae ein timau’n trwsio tua 700 o ollyngiadau bob wythnos a gall cwsmeriaid helpu trwy roi gwybod i ni am unrhyw ollyngiadau. Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n lleihau gollyngiadau gan 25% ac rydyn ni’n gwario tua £400m ar ailosod pibellau a thrwsio gollyngiadau i gefnogi'r uchelgais hon.
  • Storio mwy o ddŵr.
  • Ailddiffinio parthau a defnyddio tanceri i symud dŵr i ardaloedd lle mae’r galw’n uchel.
  • Gwaith parhaus i uwchraddio ein rhwydwaith.
  • Cynyddu cynhyrchiant dŵr yn ein gwaith trin i symud dŵr o amgylch y system i gadw'r lefelau’n ddigonol lle mae'r galw uchaf.