Abergele Smart Town
Dewiswyd Abergele fel y Dref Glyfar gyntaf i arwain y ffordd wrth ddarganfod ffyrdd newydd o arbed dŵr.
Mae tystiolaeth yn dangos y bydd yna brinder dŵr sylweddol erbyn 2050, felly mae gweithredu’n gynnar yn hanfodol. Mae ein ffocws ar weithio gyda’r gymuned i archwilio ffyrdd deniadol ac ymarferol o hyrwyddo effeithlonrwydd dŵr sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd ein canfyddiadau ar arferion gorau’n llywio gweithrediad strategaethau ar draws Cymru.
Os hoffech chi gael rhagor o fanylion neu chwarae rhan, llenwch y ffurflen fer yma i gysylltu â’r tîm Tref Glyfar.
Syniad Arbed Dŵr AbergeleEin dull haen wrth haen at Dref Glyfar
Cynnyrch cartref
- Cyflwynwyd treialon gydag amrywiaeth o gynhyrchion am ddim. Yn benodol, bu ffocws ar gynhyrchion technoleg awyru sy’n gweithio trwy gymysgu aer i lif y dŵr er mwyn lleihau defnydd o ddŵr wrth gynnal yr un pwysedd a llif.
Cymorth busnes
- Cynigiwyd cymorth i lawer o fusnesau, ac rydyn ni’n falch o ddweud bod rhai wedi arbed hyd at 1400L y dydd trwy ein mentrau dŵr
Ymgysylltu ysgolion
- Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ymgysylltu â llythrennedd dŵr trwy flychau gweithgaredd, gemau dysgu digidol, a gwirfoddoli
Ymgysylltu â’r gymuned
- Mae gwaith ar y cyd â grwpiau cymunedol wedi rhannu cynghorion ar effeithlonrwydd dŵr wrth hyrwyddo ein hopsiynau cymorth i bobl fregus
Cynllun gollyngiadau preifat
- Rydyn ni wedi helpu i ddod o hyd i ollyngiadau mewn cartrefi a’u trwsio am ddim.
Rydyn ni’n mwynhau rhannu ein gwaith â chyngor y dref er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gwybod am y mentrau diweddaraf yn yr ardal. Efallai eich bod chi eisoes wedi clywed am y Dref Glyfar trwy’r newyddlen.
Ffitrwydd dŵr!
Mae arbed dŵr yn bwysicach nag erioed heddiw.
156.9kB, PDF
Toiled yn Gollwng - Os sbotiwch chi, fe stopiwn ni.
Mae Dŵr Cymru'n angerddol dros helpu ein cwsmeriaid i arbed dŵr, ynni ac arian. Mae peirianwyr ein Prosiect Cartref yn eich ardal ar hyn o bryd yn cynnig TRWSIO TAI BACH AM DDIM.
81.3kB, PDF
Cwestiynau Cyffredin
Ni fydd unrhyw un o’n mentrau arbed dŵr yn effeithio ar eich bil dŵr, ond gallech ffeindio eich bod chi’n arbed arian.
Bydd y fenter yn ein helpu ni i ddeall patrymau defnydd dŵr yn eich rhanbarth yn well, ac yn ein helpu ni i ddatblygu strategaethau i sicrhau cyflenwad cynaliadwy o ddŵr at y dyfodol yn ogystal â gwella’r amgylchedd. Yn ystod y prosiect yma, byddwn ni’n cynorthwyo’r gymuned lle bynnag y bo modd, ac rydyn ni eisoes wedi dechrau gwneud hynny trwy wneud cyfraniad at Abergele yn ei Blodau.
Na fydd, dydyn ni ddim yn disgwyl iddo darfu dim ar y gymuned, ond os oes unrhyw broblemau gennych, croeso i chi gysylltu â ni.
Os oes unrhyw broblemau gennych, e-bostiwch ein tîm pwrpasol yn SmartTown@dwrcymru.com, lle bydd aelod o staff yn gallu eich cynorthwyo.
I gofrestru i gael mesurydd dŵr, cliciwch ar y linc yma.