Esboniad o filiau heb fesurydd
Os nad oes gennych fesurydd dŵr, codir cost sefydlog arnoch bob blwyddyn yn seiliedig ar eich eiddo.
Eich Bil 2026/27Cwestiynau cyffredin am eich bil
Bydd biliau cyfartalog cwsmeriaid domestig Dŵr Cymru’n cynyddu 4.8% yn 2026-27, o £652 i £683.
Bydd cwsmeriaid â mesurydd dŵr yn gweld eu biliau’n cynyddu tua 6.2% a bydd cwsmeriaid nad ydynt yn cael eu bilio ar sail mesurydd yn gweld cynnydd o tua 9.7%.
Y swm cyfartalog yw’r cynnydd ar draws holl gwmpas ein sylfaen o gwsmeriaid, gan gymryd biliau â mesurydd, heb fesurydd a thariffau cymdeithasol i ystyriaeth.
Gall i ba raddau y mae bil cwsmer unigol yn newid amrywio yn dibynnu ar bethau fel a ydyn nhw’n breswylwyr neu’n fusnes, a oes mesurydd ganddynt, ac a ydyn nhw’n derbyn gwasanaethau dŵr, dŵr gwastraff neu’r ddau.
I’r rhan fwyaf o gwsmeriaid, y gwahaniaeth mwyaf yw a ydyn nhw’n cael eu bilio ar sail mesurydd ai peidio. Mae cwsmeriaid sy’n defnyddio mesurydd yn aml yn arbed arian trwy dalu am y dŵr y maent yn ei ddefnyddio yn unig.
Hyd yn oed gyda’r newidiadau hyn, mae ein cynnydd ni gyda’r isaf o blith holl gwmnïau dŵr a dŵr gwastraff Cymru a Lloegr mewn blynyddoedd diweddar. Ar ôl y cynnydd mwy y llynedd, mae ein ffocws nawr ar gydbwyso’r buddsoddiad sy’n angenrheidiol er mwyn gwella gwasanaethau â chadw biliau mor fforddiadwy â phosibl.
Nid ni sy’n pennu ein prisiau. Ofwat, sef rheoleiddiwr annibynnol y diwydiant dŵr, sy’n penderfynu ar y terfynau o ran prisiau y mae angen i ni gadw atynt.
Bob pum mlynedd, rydyn ni’n dod i gytundeb ag Ofwat am y swm y byddwn ni’n ei fuddsoddi er mwyn cyflawni gwelliannau i’n gwasanaethau.
Rhwng 2025 a 2030, bydd Dŵr Cymru’n buddsoddi dros £4 biliwn i wella ein gwasanaethau - gan gynnwys £2.5 biliwn i amddiffyn a gwella’r amgylchedd yn benodol.
Bydd y buddsoddiad hanfodol yma’n ein helpu ni:
- i leihau llygredd
- i uwchraddio ac adeiladu seilwaith newydd pwysig
- i daclo gollyngiadau
- i wella ansawdd dŵr
- ac i barhau i wella ein perfformiad fel cwmni yn gyffredinol.
Rydyn ni’n deall bod unrhyw gynnydd mewn prisiau’n gallu bod yn sialens, a dyna pam ein bod ni’n gweithio i’w cadw nhw mor isel â phosibl bob tro. Fodd bynnag, dros y 15 mlynedd diwethaf, nid yw’r cynnydd mewn biliau wedi cadw i fyny â chwyddiant, sy’n golygu bod angen i ni fuddsoddi rhagor er mwyn cynnal a gwella’r gwasanaethau y mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnynt.
Mae yna sawl rheswm pam y gallai taliadau eiddo wrth ymyl ei gilydd fod yn wahanol i’w gilydd. Er enghraifft, gallai’r naill fod yn cael ei filio ar sail mesurydd dŵr a’r llall fod ar dâl wedi ei asesu, neu gallai’r gwerthoedd adrethadwy fod yn wahanol os nad oes mesurydd gan y ddau ohonynt.
Am fod trefniadau bilio pob aelwyd yn unigryw, ni allwn gadarnhau’r union reswm heb adolygu pob cyfrif - ac ni allwn rannu manylion biliau cwsmeriaid eraill chwaith.
Yn wahanol i gwmnïau ynni, nid ni sy’n pennu ein prisiau. Ein rheoleiddiwr, Ofwat sy’n pennu lefel ein taliadau. Rhaid i ni ddangos yn glir iddynt y buddsoddiad sy'n angenrheidiol er mwyn gwella ein gwasanaethau, wedyn maen nhw’n penderfynu pa daliadau y gallwn eu codi.
Mae cwmnïau ynni’n gweithredu mewn ffordd wahanol. Nhw sy’n pennu eu prisiau eu hunain, sy’n gallu newid ar sail nifer o ffactorau fel cost gyfanwerth ynni, yr angen am fuddsoddi mewn seilwaith newydd, a datblygiad technolegau adnewyddadwy.
Rydyn ni’n deall bod yr hinsawdd economaidd sydd ohoni’n anodd i lawer o’n cwsmeriaid. I helpu gyda hyn, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o dariffau â’r nod o gynorthwyo pobl sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau. Rydyn ni’n helpu bron i 142,000 o gwsmeriaid trwy’r tariffau cymdeithasol yma.
Mae nifer o opsiynau ar gael i gynorthwyo cwsmeriaid sy’n cael pethau’n anodd.
- Mesuryddion Dŵr - Gallwn wneud trefniadau i osod mesurydd am ddim. Yn dibynnu ar eu defnydd, gallai cwsmeriaid fod ar eu hennill o gael eu bilio am faint maen nhw’n ei ddefnyddio yn unig.
- Effeithlonrwydd Dŵr - Os oes mesurydd dŵr gennych, mae’n bosibl y byddwn ni’n gallu cynnig cyngor am ddim i chi i’ch cynorthwyo i leihau eich defnydd.
- 12 taliad misol trwy Ddebyd Uniongyrchol - Weithiau, gall lledu taliadau hyd fis Mawrth nesaf yn hytrach na mis Ionawr wneud tipyn o wahaniaeth i swm y taliadau misol.
- Opsiynau fforddiadwyedd - Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae’n bosibl y gallwn gynnig cymorth ychwanegol trwy un o’n cynlluniau fforddiadwyedd.
Rydyn ni’n cynnig proses ar lein syml ar gyfer ein cwsmeriaid fel y gallant wneud cais am fesurydd dŵr.
Yn gyntaf, rydyn ni’n annog ein cwsmeriaid i ddefnyddio ein cyfrifiannell ar lein i weld a allai mesurydd arbed arian iddynt.
Wedyn gallwch gyflwyno cais am fesurydd dŵr ar lein yn uniongyrchol gan ddefnyddio’r ffurflen bwrpasol.
Gallwch gael syniad o’ch defnydd o ddŵr a gwneud cais am fesurydd dŵr trwy’r linc yma.
Am beth ydw i'n talu?
Mae biliau anfesuredig yn cael eu hanfon unwaith y flwyddyn ac ar un o dri fformat, naill ai:
Tâl gwerth ardrethol - bydd y bil yn cynnwys tâl sefydlog ynghyd â thâl fesul punt (£) o werth ardrethol am yr eiddo.
neu
Tâl Gwasanaeth Unffurf (ar gyfer eiddo a adeiladwyd rhwng 1 Ebrill 1990 a 31 Mawrth 2000) - mae taliadau'n seiliedig ar werth ardrethol cyfartalog eiddo yng Nghymru.
neu
Tâl Mesuredig a Aseswyd - Os ydych wedi gwneud cais am fesurydd dŵr ond nad ydym wedi gallu gosod un, efallai y bydd gennych hawl i fod ar dâl mesuredig a aseswyd. Gellir dod o hyd i'n Taliadau Mesuredig a Aseswyd ar gyfer aelwydydd yma.
Gwerth ardrethol
Gosodwyd swm yr ardreth gan y swyddfa brisio, ac mae'n seiliedig ar bethau fel gwerth eich eiddo ac a adeiladwyd eich tŷ cyn 1990. Cafodd y cyfraddau eu rhewi ym 1990 gyda'r dreth gyngor yn cael ei chyflwyno ac maent wedi aros yr un fath ers hynny.
Faint ydw i'n ei dalu?
Gallwch weld ein taliadau ar gyfer 2026-2027 i weld faint y codir tâl arnoch.
Sut i wybod pryd mae eich bil yn ddyledus neu ar gael?
Byddwn yn anfon eich bil anfesuredig unwaith y flwyddyn erbyn diwedd mis Mawrth ar gyfer taliadau o 1 Ebrill i 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol (like your council tax bill).
Pan fydd bil yn cael ei gynhyrchu, bydd yn cael ei anfon atoch yn y post os nad ydych wedi cofrestru ar ein gwasanaeth Fy Nghyfrif ar-lein.
Os ydych wedi cofrestru ar Fy Nghyfrif, bydd e-bost yn cael ei anfon atoch i roi gwybod i chi fod bil newydd ar gael. Yna bydd angen i chi fewngofnodi i Fy Nghyfrif i weld eich bil diweddaraf.
Beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n cael eich bil?
Rhaid talu'ch bil mewn 14 diwrnod o'i dderbyn oni bai bod gennych gynllun Debyd Uniongyrchol neu gynllun talu ar waith. Os byddwch yn talu'ch bil yn llawn erbyn 1 Ebrill, byddwch yn cael gostyngiad o 1.5% oddi ar eich tâl.
Help gyda’ch biliau
Mae gennym nifer o ffyrdd y gallem o bosibl eich helpu a gwneud eich biliau'n fwy fforddiadwy.
Dysgwch fwy am ffyrdd o leihau eich biliau cyfredolYdych chi'n gwsmer dŵr yn unig?
| Deiliadaeth | Dŵr | Tâl gwasanaeth | Blynyddol |
|---|---|---|---|
| 1 | £101.54 | £58.63 | £160.17 |
| 2 | £203.08 | £58.63 | £261.71 |
| 3 | £304.62 | £58.63 | £363.25 |
| 4 | £406.16 | £58.63 | £464.79 |
| 5 | £507.70 | £58.63 | £566.33 |
| 6 | £609.24 | £58.63 | £667.87 |
| 7 | £710.78 | £58.63 | £870.95 |
| 8 | £812.32 | £58.63 | £870.95 |
| 9 | £913.86 | £58.63 | £972.49 |
| 10 | £1,015.40 | £58.63 | £1,074.03 |
Yn dibynnu ar ba mor aml rydych chi’n talu eich bil, byddem yn disgwyl iddo rannu fel hyn...
| Deiliadaeth | Blynyddol | 6 Misol | Misol | Wythnosol |
|---|---|---|---|---|
| 1 | £160.17 | £80.09 | £13.35 | £3.06 |
| 2 | £261.71 | £130.86 | £21.81 | £5.03 |
| 3 | £363.25 | £181.63 | £30.27 | £6.99 |
| 4 | £464.79 | £232.40 | £38.73 | £8.94 |
| 5 | £566.33 | £283.17 | £47.19 | £10.89 |
| 6 | £667.87 | £333.94 | £55.66 | £12.84 |
| 7 | £769.41 | £384.71 | £64.12 | £14.80 |
| 8 | £870.95 | £435.48 | £72.58 | £16.75 |
| 9 | £972.49 | £486.25 | £81.04 | £18.70 |
| 10 | £1,074.03 | £537.02 | £89.50 | £20.65 |
Eich Bil 2026/27Mwy cwestiynau cyffredin am eich bil
Mae cwsmeriaid anfesuredig yn cael eu bilio’n seiliedig ar werth ardrethol neu daliadau gwasanaeth unffurf, nid ar sail eu defnydd o ddŵr. Taliadau sefydlog yw’r rhain, ac ni allant ymateb i batrymau defnydd go iawn, sy’n golygu bod taliadau anfesuredig yn codi fesul bloc yn hytrach na lledu’r cynnydd yn seiliedig ar ddefnydd.
Yn gyferbyniol, gall cwsmeriaid mesuredig wrthbwyso rhywfaint o’r cynnydd trwy ddefnyddio llai o ddŵr.
Codir taliadau anfesuredig os cafodd eiddo ei adeiladu cyn 1 Ebrill 2020, lle nad yw’r adeilad wedi cael ei ailddatblygu, nad oes newid defnydd wedi bod, nad yw'n destun mesurydd gorfodol neu lle nad oes mesurydd ar hyn o bryd, neu nad yw’r eiddo’n destun taliadau mesuredig (wedi eu hasesu neu fel arall).
Ni fydd y tâl yn adlewyrchu faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio yn yr eiddo. Mae dwy ffordd o gyfrifo taliadau anfesuredig:
Tâl gwerth ardrethol – tâl gwasanaeth sy’n cael ei gyfrifo gan yr Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA), plws tâl fesul punt o'r gwerth ardrethol am wasanaethau dŵr a charthffosiaeth.
NEU
Tâl gwasanaeth unffurf (ar gyfer eiddo a adeiladwyd rhwng 1 Ebrill 1990 a 31 Mawrth 2000) - mae’r taliadau’n seiliedig ar werth ardrethol cyfartalog eiddo yng Nghymru.
Mae taliadau dŵr yn cynnwys costau cyflenwi dŵr i’r eiddo. Mae taliadau carthffosiaeth yn cynnwys y gost o dynnu, trin a gwaredu'r dŵr a ddefnyddiwyd, ac mae’n cynnwys tâl ar gyfer dŵr wyneb a draenio priffyrdd. Mae hyn yn cynnwys y gost o ddraenio, trin a gwaredu dŵr glaw. Os nad oes unrhyw ddŵr glaw yn draenio i'r garthffos gyhoeddus, cewch eich eithrio o’r elfen yma o’ch taliadau. Mae ffurflen Ad-daliad Draenio Dŵr Wyneb ar gael ar ein gwefan yma, neu gallwch ofyn am ffurflen trwy ffonio 0800 052 0145. Bydd unrhyw ad-daliad yn weithredol o 1 Ebrill 2020 neu'r dyddiad meddiannu os yw hynny'n hwyrach. Lle bo tystiolaeth nad yw’r dŵr wyneb yn dychwelyd i'r garthffos, fel yn achos fflatiau mewn adeilad cyffredin, gall y cwmni hysbysu cwsmeriaid yn rhagweithiol ac addasu eu taliadau yn unol â hynny.
Fel arfer caiff biliau anfesuredig eu hanfon ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn, a byddant yn daladwy erbyn 1 Ebrill oni bai y gwnaed trefniant talu amgen gyda Dŵr Cymru Welsh Water.
Na chewch - cafodd Gwerthoedd Ardrethol (RVs) eu pennu cyn 2000, ac nid oes yna unrhyw sail dros eu herio na’u newid nawr, os yw’r cwsmer yn teimlo bod eu RV yn rhy uchel, y ddadl safonol fyddai y dylent newid i fesurydd.
Ond, os oes unrhyw newidiadau sylweddol wedi cael eu gwneud i’r eiddo, fel ei rannu, byddai angen gosod mesurydd fel y gellir bilio’r eiddo’n gywir.
Er mwyn cynorthwyo ein cynlluniau buddsoddi mwyaf erioed ar gyfer AMP8, lle’r ydyn ni’n bwriadu buddsoddi £4 biliwn yn ein gwasanaethau rhwng 2025 a 2030, sy’n gynnydd o 68% o gymharu â’n buddsoddiad yn AMP7 (2020 - 2025), mae hi’n bosib y byddwn ni’n codi ein biliau eto dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Mae cynyddu biliau’n hanfodol er mwyn sicrhau ein bod ni’n darparu gwasanaethau dŵr dibynadwy o’r safon uchaf ar gyfer y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Bydd ein cynlluniau ar gyfer AMP8 yn ein galluogi ni i fuddsoddi’n sylweddol yn ein seilwaith, gan fynd i’r afael ag asedau sy’n heneiddio, a bodloni safonau rheoliadol ac amgylcheddol sy’n tynhau. Mae’r buddsoddiadau yma’n allweddol i gynnal lefelau gwasanaeth, lleihau’r risg o doriadau mewn cyflenwadau, a chynorthwyo ein cymunedau.
Fodd bynnag, yn wahanol i gwmnïau dŵr a dŵr gwastraff eraill, daeth ein cynnydd mwyaf mewn biliau i rym y llynedd (2025-26), sy’n golygu y bydd unrhyw gynnydd pellach mewn biliau’n sylweddol is na chwmnïau eraill ar draws Cymru a Lloegr.
Lle bo gwahanol gwmnïau’n darparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth, y cwmni sy’n cyflenwi’r dŵr sy’n gyfrifol am anfon y bil ac am gasglu’r taliadau dŵr a charthffosiaeth.
Felly, os ydych chi’n derbyn dŵr yn unig gan Ddŵr Cymru, Dŵr Cymru fydd yn anfon eich bil ac yn casglu’ch taliadau carthffosiaeth ar ran Hafren Dyfrdwy, ond Hafren Dyfrdwy fydd yn pennu’r taliadau gwastraff y gwelwch ar eich bil. Nid oes angen i chi gysylltu â’ch darparydd carthffosiaeth ar wahân am filiau cyffredin.
Yn achos cwsmeriaid mesuredig, y cwmni dŵr sy’n gyfrifol ddarllen y mesurydd, a bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r bil dŵr a’r bil dŵr gwastraff hefyd. Cyfrifir y bil dŵr gwastraff ar sail y rhagdybiaeth fod 95% o’r dŵr sy’n cael ei gyflenwi’n dychwelyd i’r garthffos wedyn.
Panel annibynnol o gyfarwyddwyr anweithredol sy’n gwneud penderfyniadau am gyflogau ein Tîm Gweithredol, a nhw sy’n penderfynu beth sy’n briodol. Mae’r penderfyniadau hyn yn cael eu cymeradwyo wedyn gan “Aelodau” annibynnol - sy’n craffu ar waith Dŵr Cymru fel y mae cyfranddalwyr yn ei wneud mewn cwmnïau rhestredig. Y flaenoriaeth trwy gydol y broses yw sicrhau bod y taliadau’n rhesymol, yn deg ac yn gystadleuol, a’u bod yn ein helpu ni i ddenu a chadw pobl o’r safon uchaf - heb fod yn ormodol - ac maent yn dibynnu ar berfformiad sy’n fuddiol i’n cwsmeriaid.
Mae hi’n bwysig nodi hefyd bod cyflog Prif Weithredwr Dŵr Cymru gyda’r isaf o blith holl Brif Weithredwyr cwmnïau dŵr Cymru a Lloegr.
Ffocws pawb sy’n gweithio dros Ddŵr Cymru yw sicrhau ein bod ni’n darparu gwasanaeth o’r safon uchaf ar gyfer ein cwsmeriaid am y pris isaf posibl.
Mae ein statws nid-er-elw yn golygu ein bod ni’n bodoli i fuddsoddi yn ein cwsmeriaid ac er eu budd. Rydyn ni’n credu ei bod hi’n ffordd well o weithio ac yn sicrhau bod unrhyw “elw” a wnawn yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes, yn hytrach na mynd i bocedi cyfranddalwyr fel sy’n digwydd mewn busnesau eraill.
Fodd bynnag, rydyn ni’n berchen ar rwydwaith helaeth o garthffosydd - 36,000km (digon i ymestyn yr holl ffordd i Awstralia a nôl) - a rhwydwaith dŵr yfed, felly mae angen i ni godi tâl am ddarparu’r gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff yma mewn ffordd sy’n sicrhau y gallwn fuddsoddi er mwyn darparu gwasanaethau o’r safon uchaf bosibl.
Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf am y gost isaf bosibl bob tro. Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod y cynnydd yma’n uwch na rhai blaenorol, ond am dros ddegawd fe lwyddon ni i gadw’r cynnydd mewn prisiau’n is na mesur chwyddiant yr RPI.
Mae’r Cynllun Cymuned wedi ei gynllunio’n benodol ar gyfer ein cwsmeriaid sy’n gweithio ond sy’n cael pethau’n anodd yn ariannol. Mae’n gallu helpu i gynnig rhywfaint o ryddhad i gwsmeriaid y mae biliau eu cartref yn uwch na’u hincwm.
Gallai’r cynllun helpu i gynorthwyo cwsmeriaid yn y tymor byr trwy gynnig cyfnod o dri mis ‘heb dâl’ iddynt (sef tua £120 o’u bil blynyddol fel rheol).
Bydd angen cyflawni asesiad o sefyllfa ariannol y rhai sy’n ymgeisio ar ffurf asesiad o Incwm a Gwariant, rhywbeth sy’n cael ei gyflawni gan sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth.
Os hoffai unrhyw gwsmer gael rhagor o fanylion am Cymuned, siaradwch â’r Tîm Cymorth Arbenigol.
Fel cwmni nid-er-elw, nid oes unrhyw gyfranddalwyr gennym. Y peth da am hyn yw ein bod ni’n gallu ail-fuddsoddi’r elw a wnawn er mwyn gwella’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu ar gyfer cwsmeriaid, a hynny wrth gadw biliau mor isel â phosibl.
Gallwn sicrhau cwsmeriaid fod yr arian rydyn ni’n ei dderbyn o filiau’n mynd i wella gwasanaethau a chyflymu cynlluniau a fydd yn amddiffyn ein hamgylchedd nawr ac yn y dyfodol.
Rydyn ni’n gweithredu tua 27,500km o brif bibellau dŵr a dros 36,000km o bibellau dŵr gwastraff, felly mae angen buddsoddi er mwyn sicrhau bod y rhain yn darparu’r gwasanaeth o’r safon uchaf y mae ein cwsmeriaid yn ei ddisgwyl.
Mae esiamplau o’r ffyrdd rydyn ni eisoes yn gwella gwasanaethau yn cynnwys adeiladu gweithfeydd trin dŵr newydd, adnewyddu hen brif bibellau dŵr ac uwchraddio prosesau trin dŵr gwastraff. Rydyn ni’n buddsoddi mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar ein safleoedd hefyd. Yn ogystal â lleihau ein hôl troed carbon, mae hyn yn lleihau ein costau gweithredu, sy’n helpu i gadw biliau cwsmeriaid yn is.
Dyma ein blaenoriaethau wrth bennu faint rydyn ni’n ei godi ar ein cwsmeriaid bob tro:
- Sut y gallwn ni gadw biliau mor isel â phosibl ar gyfer ein holl gwsmeriaid
- Sut y gallwn ni helpu’r bobl â’r incwm isaf sy’n ei chael hi’n wirioneddol anodd talu eu biliau
- Sut y gallwn ni gyflymu buddsoddiad yn ein rhwydwaith er budd ein cwsmeriaid.
I gael rhagor o fanylion am ein cynlluniau a’n buddsoddiad rhwng 2025 a 2030, ewch i yma.
Rydyn ni’n gwybod nad ni yw’r cwmni dŵr a charthffosiaeth rhataf yn y DU. Y rheswm am hynny yw bod rhan helaeth o’n hardal weithredu’n dir gwledig, felly mae angen rhwydwaith helaeth arnom er mwyn sicrhau ein bod ni’n cyrraedd yr ardaloedd mwyaf anghysbell. Mae gweithredu a chynnal rhwydwaith o’r fath yn gostus - yn fwy costus nac mewn ardal boblog iawn.
Fel cwmni, rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i chwarae ein rhan bob amser, ac mae’r ffaith ein bod ni’n gwmni nid-er-elw’n golygu y gallwn ail-fuddsoddi’r elw yn ein cwsmeriaid. Er enghraifft, rhwng 2020 a 2025 fe warion ni £60m ar sicrhau ein bod ni’n darparu cymorth ariannol ar gyfer cwsmeriaid sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau.
Erbyn hyn, ydyn ni’n cynorthwyo bron i 142,000 o gwsmeriaid trwy ein hamrywiaeth o dariffau cymdeithasol, ac rydyn ni’n disgwyl i’r ffigur yma gynyddu dros y flwyddyn nesaf.
Dyma ein blaenoriaethau wrth bennu faint rydyn ni’n ei godi ar ein cwsmeriaid bob tro:
- Sut y gallwn ni gadw biliau mor isel â phosibl ar gyfer ein holl gwsmeriaid
- Sut y gallwn ni helpu’r bobl â’r incwm isaf sy’n ei chael hi’n wirioneddol anodd talu eu biliau
- Sut y gallwn ni gyflymu buddsoddiad yn ein rhwydwaith er budd ein cwsmeriaid.
Mae Ofwat yn pennu lwfansau refeniw ar wahân am wasanaethau dŵr a gwasanaethau gwastraff, felly mae lefelau’r biliau ar gyfer pob gwasanaeth yn wahanol.
I gwsmeriaid sy’n derbyn cyflenwadau dŵr neu wastraff yn unig gan Ddŵr Cymru, a chwmni gwahanol sy’n darparu’r gwasanaeth arall, bydd y cwmni arall yna’n pennu lwfansau refeniw gwahanol, ac yn cyfrifo eu taliadau eu hunain ar wahân. Mae hynny’n golygu y bydd lefelau’r biliau’n wahanol o gymharu â chwsmer sy’n derbyn y ddau wasanaeth gennym ni.
Fel cwmni nid-er-elw, rydyn ni’n gosod ein cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn. Dyma pam ein bod ni wedi rhoi cymaint o bwys ar gynorthwyo’r rhai mwyaf anghenus. Rydyn ni eisoes yn cynorthwyo bron i 142,000 o gwsmeriaid trwy ein cynlluniau tariff cymdeithasol er mwyn eu cynorthwyo i dalu eu biliau, ond rydyn ni’n gwybod fod ar ragor ohonynt angen ein cymorth.
Rydyn ni’n cyfrannu £14m y flwyddyn at gynnal ein cynlluniau tariff cymdeithasol.
Er bod rhywfaint o’r arian y mae cwsmeriaid yn ei dalu’n mynd i gynorthwyo ein cwsmeriaid mwyaf bregus, rydyn ni’n cyfrannu hefyd, a ni yw un o’r ychydig sy’n buddsoddi o’n helw ein hunain i gynorthwyo ein cwsmeriaid â’r incwm isaf.
Byddem yn ychwanegu hefyd ei bod hi o fudd i’n holl gwsmeriaid os gallwn ei wneud yn hawdd i’n cwsmeriaid â’r incwm isaf ymrwymo i dalu taliadau hydrin. Y dewis arall yw nad ydyn nhw’n talu dim, ac mae hyn eisoes yn ychwanegu tua £20 at filiau cwsmeriaid sydd yn talu.
Mater i’r llywodraeth, nid ni, yw penderfynu sut mae’r diwydiant dŵr yn cael ei redeg a’i reoleiddio, ac ni fyddai’n briodol i ni wneud unrhyw sylw am y trafodaethau yma.
Fodd bynnag, fel cwmni nid-er-elw, mae ein ffocws yn unswydd ar ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl ar gyfer cwsmeriaid am y pris isaf posibl. Rydyn i’n credu bod ein dull o weithio ar sail Llwyddiant dan arweiniad Cwsmeriaid yn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn flaenllaw yn ein dulliau o weithredu, ac yn sicrhau eu bod yn cael gwerth am arian.
Buddsoddiadau yn Eich Ardal
Mae Dŵr Cymru’n bwriadu buddsoddi £4 biliwn dros y pum mlynedd nesaf (2025-2030), cynnydd o 68% o’i gymharu â’r pum mlynedd flaenorol. Mae’r buddsoddiad hwn yn cynnwys £2.5 biliwn sydd wedi’i neilltuo i ddiogelu a gwella’r amgylchedd. Mae’r cynllun buddsoddi hefyd yn canolbwyntio ar wella cydymffurfiaeth dŵr yfed a lleihau cwynion cwsmeriaid am ansawdd dŵr. Dewiswch leoliad i ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi.