Pam mae fy mil yn uwch na’r disgwyl?
Os oes gennych fesurydd dŵr, byddwch yn cael eich bilio am y dŵr rydych chi’n ei ddefnyddio, ond mae nifer o resymau a allai achosi i'ch bil fod yn uwch na'r disgwyl. Yma, rydyn ni'n mynd â chi trwy'r rhestr o bethau i'w gwirio a'r hyn y gellir ei wneud.
1. Cynnydd mewn prisiau
Gweler y tabl isod sy'n dangos y cynnydd mewn pris i aelwyd arferol yn dibynnu ar yr hyn sy'n cael ei godi arnoch.
| Tâl | Cynnydd mewn pris |
|---|---|
| Dŵr a charthffosiaeth heb fesurydd | 9.7% |
| Dŵr yn unig heb fesurydd | 5.1% |
| Carthffosiaeth yn unig heb fesurydd | 12.9% |
| Dŵr a charthffosiaeth gyda mesurydd | 6.2% |
| Dŵr yn unig gyda mesurydd | 1.6% |
| Carthffosiaeth gyda mesurydd | 9.3% |
| HelpU | 9.8% |
| Gwasanaeth WaterSure Cymru Llawn a Dŵr | 9.7% |
Gweler y tabl isod sy'n dangos y cynnydd pris adeilad dibreswyl arferol yn dibynnu ar yr hyn sy'n cael ei godi arnoch.
| Tâl | Cynnydd mewn pris |
|---|---|
| Dŵr a charthffosiaeth heb fesurydd | 11.5% |
| Dŵr yn unig heb fesurydd | 7.7% |
| Carthffosiaeth yn unig heb fesurydd | 13.8% |
| Dŵr a charthffosiaeth gyda mesurydd | 11% |
| Dŵr yn unig gyda mesurydd | 7.4% |
| Carthffosiaeth gyda mesurydd | 13.2% |
2. Sut rydym yn cyfrifo eich taliadau
I gyfrifo eich taliad misol, rydym yn dechrau trwy edrych ar eich dau fil diwethaf a chyfrifo eu cyfartaledd dros gyfnod o 12 mis. Yna, byddwn yn cymhwyso unrhyw newidiadau i brisiau a ddangosir yn y tabl uchod.
Os nad oedd eich taliadau blaenorol yn ddigon i dalu eich biliau, bydd eich swm newydd yn cynnwys addasiad i glirio unrhyw falans sydd ar ôl a thalu am y dŵr rydych wedi’i ddefnyddio.
Os oedd gennych gredyd ar eich bil diwethaf, mae’n bosibl y byddwn wedi lleihau eich taliadau dros dro i ddefnyddio’r credyd hwnnw. Pan fydd wedi ei ddefnyddio, byddwn yn cynyddu eich taliadau i wneud yn siŵr eich bod yn aros ar y trywydd iawn ac yn osgoi mynd i ddyled.
3. Cyfnod bilio hirach
Gallai eich bil diweddaraf fod am gyfnod hirach na'ch bil blaenorol. Po hiraf yw cyfnod y bil, y mwyaf o ddŵr y byddwch chi'n ei ddefnyddio.
Er enghraifft, gallai eich bil cyntaf fod am 150 diwrnod a 26 m3, a'ch ail fil fod am 193 diwrnod a 33 m3.
4. Cynnydd mewn Defnydd
Os yw eich defnydd o ddŵr wedi cynyddu o’i gymharu â’ch bil diwethaf, bydd eich taliad yn cynyddu i adlewyrchu hyn. Rydym yn defnyddio eich defnydd diweddar i benderfynu ar eich taliadau, felly bydd unrhyw ddŵr ychwanegol y byddwch wedi’i ddefnyddio wedi’i gynnwys yn y cyfrifiad.
Bydd hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod eich taliadau yn ddigon i dalu am eich defnydd gwirioneddol a’ch atal rhag mynd i ddyledion ar eich cyfrif.
Gall eich defnydd o ddŵr gynyddu os oes mwy o bobl yn byw yn eich cartref neu os ydych wedi dechrau gwneud gweithgareddau sy’n defnyddio dŵr ychwanegol. Gallai hyn gynnwys cael babi newydd, cael gwesteion i aros, neu aelodau o’r teulu yn symud yn ôl adref.
Gall hefyd ddigwydd pan fydd gwaith yn cael ei wneud ar eich cartref neu pan fyddwch yn mwynhau gweithgareddau sy’n defnyddio dŵr, fel llenwi twba twym, pwll padlo neu bwll gardd, neu dreulio mwy o amser yn garddio a all arwain at gynnydd yn y defnydd o ddŵr a gallai hyn effeithio ar eich taliadau.
5. Gollyngiad dŵr
- Gall tap sy'n diferu wastraffu o leiaf 18 litr y dydd. Byddai hyn yn costio tua £20 y flwyddyn!
- Gollyngiad mewn peiriant e.e. peiriant golchi dillad neu foeler.
- Gollyngiad ar unrhyw bibellau sy'n gyfrifoldeb i chi.
Os ydych chi'n poeni y gallai fod gennych ollyngiad, edrychwch ar ein herthygl help a chyngor ar ddelio â gollyngiadau gartref a sut i gynnal prawf gollyngiadau.
Cadwch lygad
ar eich defnydd
Ewch yn ddi-bapur ar Fy Nghyfrif ac olrhain eich defnydd ar ôl pob darlleniad.